Ail Brenhinoedd 4:1-44
4 Nawr dyma wraig un o feibion y proffwydi yn galw ar Eliseus gan ddweud: “Mae dy was, fy ngŵr, wedi marw, ac rwyt ti’n gwybod yn iawn ei fod yn wastad wedi ofni Jehofa. Nawr mae rhywun roedd ef mewn dyled iddo wedi dod i gymryd fy nau blentyn yn gaethweision.”
2 Gyda hynny, dywedodd Eliseus wrthi: “Sut galla i dy helpu di? Dyweda wrtho i, beth sydd gen ti yn y tŷ?” Atebodd hi: “Does gan dy forwyn ddim byd o gwbl yn y tŷ heblaw am jar o olew.”
3 Yna dywedodd: “Dos allan, gofynna am jariau gwag gan bob un o dy gymdogion. Casgla gymaint ag y medri di.
4 Yna dos i mewn a chau’r drws y tu ôl i ti a dy feibion. Llenwa bob un o’r jariau, a rho’r rhai llawn i un ochr.”
5 Felly dyma hi’n ei adael.
Pan wnaeth hi gau’r drws y tu ôl iddi hi a’i meibion, roedden nhw’n pasio’r jariau ati hi, ac roedd hithau’n eu llenwi ag olew.
6 Pan oedd y jariau yn llawn, dywedodd hi wrth un o’i meibion: “Tyrd â jar arall ata i.” Ond dywedodd ef wrthi: “Does ’na ddim mwy o jariau.” Gyda hynny, stopiodd yr olew lifo.
7 Felly daeth hi i mewn a sôn am hyn wrth ddyn y gwir Dduw, a dywedodd yntau: “Dos, gwertha’r olew a thala dy ddyledion, a chei di a dy feibion fyw oddi ar beth sydd ar ôl.”
8 Un diwrnod, aeth Eliseus i Sunem, lle roedd ’na ddynes* bwysig, a gwnaeth hi ei annog i fwyta pryd o fwyd yno. Bob tro y byddai’n pasio heibio, byddai’n stopio yno i fwyta.
9 Felly dywedodd hi wrth ei gŵr: “Rydw i’n gwybod yn iawn bod y dyn hwn sy’n pasio heibio ein tŷ yn aml yn ddyn sanctaidd sy’n gwasanaethu Duw.
10 Plîs gad inni wneud ystafell fach ar y to a rhoi gwely, bwrdd, cadair, a stand ar gyfer lamp yno. Wedyn, bryd bynnag y bydd yn dod aton ni, bydd yn gallu aros yma.”
11 Aeth yno un diwrnod, a mynd i’r ystafell ar y to i orwedd i lawr.
12 Yna dywedodd wrth Gehasi ei was: “Galwa’r ddynes* o Sunem.” Felly dyma’n ei galw hi, a daeth hi ato a sefyll o’i flaen.
13 Yna dywedodd wrth Gehasi: “Plîs dyweda wrthi, ‘Rwyt ti wedi mynd i’r holl drafferth yma i ni. Beth galla i ei wneud drostot ti? A ddylwn i siarad â’r brenin neu â phennaeth y fyddin ar dy ran?’” Ond ei hateb oedd: “Na, rydw i’n byw mewn heddwch ymysg fy mhobl fy hun.”
14 Yna dywedodd: “Felly beth gallwn ni ei wneud drosti?” Atebodd Gehasi: “Wel, does ganddi ddim mab, ac mae ei gŵr yn hen.”
15 Ar unwaith, dywedodd: “Galwa hi.” Felly dyma’n ei galw hi, a daeth hi i sefyll wrth y drws.
16 Yna dywedodd: “Erbyn yr adeg hon y flwyddyn nesaf, bydd gen ti fab yn dy freichiau.” Ond dywedodd hi: “Na, fy meistr, dyn y gwir Dduw! Paid â chodi fy ngobeithion.”
17 Ond ymhen amser daeth y ddynes* yn feichiog, ac yn union flwyddyn wedyn, dyma hi’n geni mab fel roedd Eliseus wedi addo iddi.
18 Tyfodd y plentyn, ac un diwrnod aeth allan at ei dad a oedd gyda’r rhai sy’n medi.
19 Dywedodd wrth ei dad: “O fy mhen! Mae fy mhen i’n brifo!” Yna dywedodd ei dad wrth y gwas: “Dos ag ef at ei fam.”
20 Felly dyma’n ei gario yn ôl at ei fam, ac eisteddodd y plentyn ar ei glin* tan ganol dydd, ac yna bu farw.
21 Yna aeth hi i fyny a’i roi i orwedd ar wely dyn y gwir Dduw a chau’r drws y tu ôl iddi a gadael.
22 Nawr dyma hi’n galw ei gŵr ac yn dweud: “Plîs, anfona un o’r gweision ac un o’r asennod ata i, a gad imi fynd ar frys at ddyn y gwir Dduw a dod yn ôl.”
23 Ond dywedodd: “Pam rwyt ti’n mynd i’w weld heddiw? Dydy hi ddim yn lleuad newydd nac yn saboth.” Ond dywedodd hi: “Paid â phoeni, mae popeth yn iawn.”
24 Felly dyma hi’n paratoi’r asen ac yn dweud wrth ei gwas: “Dos yn dy flaen yn gyflym. Paid ag arafu er fy mwyn i oni bai fy mod i’n dweud wrthot ti.”
25 Felly aeth hi at ddyn y gwir Dduw wrth Fynydd Carmel. Unwaith i ddyn y gwir Dduw ei gweld hi o bell, dywedodd wrth Gehasi ei was: “Edrycha! Mae’r ddynes* o Sunem draw fan ’na.
26 Plîs rheda ati i’w chyfarfod a gofynna iddi, ‘Wyt ti’n iawn? Ydy dy ŵr yn iawn? Ydy dy blentyn yn iawn?’” Atebodd hi: “Ydyn, mae pawb yn iawn.”
27 Pan ddaeth hi at ddyn y gwir Dduw wrth y mynydd, gafaelodd hi yn ei draed ar unwaith. Gyda hynny, camodd Gehasi ymlaen er mwyn ei gwthio hi i ffwrdd, ond dywedodd dyn y gwir Dduw: “Gad lonydd iddi, mae hi’n drist iawn,* ond dydw i ddim yn gwybod pam, oherwydd dydy Jehofa ddim wedi dweud wrtho i.”
28 Yna dywedodd hi: “A wnes i ofyn i ti, fy arglwydd, am fab? Oni wnes i ddweud, ‘Paid â chodi fy ngobeithion’?”
29 Ar unwaith, dywedodd ef wrth Gehasi: “Clyma dy wisg am dy ganol a chymera fy ffon yn dy law a dos. Os byddi di’n dod ar draws unrhyw un, paid â’i gyfarch; ac os bydd unrhyw un yn dy gyfarch di, paid â’i ateb. Dos a rho fy ffon ar wyneb y bachgen.”
30 Gyda hynny, dywedodd mam y bachgen: “Mor sicr â’r ffaith fod Jehofa a tithau yn fyw, wna i ddim dy adael di.” Felly cododd a mynd gyda hi.
31 Aeth Gehasi o’u blaenau nhw a rhoi’r ffon ar wyneb y bachgen, ond doedd ’na ddim sŵn nac ymateb. Aeth yn ôl i gyfarfod Eliseus a dweud wrtho: “Wnaeth y bachgen ddim deffro.”
32 Pan ddaeth Eliseus i mewn i’r tŷ, roedd y bachgen yn gorwedd yn farw ar ei wely.
33 Aeth i mewn a chau’r drws y tu ôl i’r ddau ohonyn nhw a dechrau gweddïo ar Jehofa.
34 Yna dringodd ar y gwely a gorwedd ar y plentyn gan roi ei geg ei hun ar geg y bachgen, ei lygaid ei hun ar ei lygaid ef, a chledrau ei ddwylo ei hun ar gledrau ei ddwylo ef, ac arhosodd yno wedi plygu drosto a dechreuodd corff y plentyn gynhesu.
35 Cerddodd yn ôl ac ymlaen yn y tŷ, a dringodd ar y gwely a phlygu drosto eto. Dyma’r bachgen yn tisian saith gwaith, ac ar ôl hynny agorodd ei lygaid.
36 Nawr dyma Eliseus yn galw Gehasi ac yn dweud: “Galwa’r ddynes* o Sunem.” Felly dyma’n ei galw hi a daeth hi i mewn ato. Yna dywedodd Eliseus: “Dyma dy fab, cymera ef yn dy freichiau.”
37 A daeth hi i mewn a syrthio wrth ei draed ac ymgrymu ar y llawr o’i flaen, wedyn dyma hi’n codi ei mab ac yn mynd allan.
38 Pan aeth Eliseus yn ôl i Gilgal, roedd ’na newyn yn y wlad. Roedd meibion y proffwydi yn eistedd o’i flaen, a dywedodd wrth ei was: “Rho’r crochan mawr ar y tân a berwi cawl ar gyfer meibion y proffwydi.”
39 Felly aeth un ohonyn nhw allan i’r cae i gasglu perlysiau* a daeth o hyd i blanhigyn gwyllt, a chasglodd ffrwythau* oddi arno, gan lenwi ei ddilledyn. Yna aeth yn ôl a’u torri nhw’n ddarnau a’u rhoi i mewn i’r crochan heb wybod beth oedden nhw.
40 Yn nes ymlaen, dyma nhw’n rhoi’r cawl i’r dynion er mwyn iddyn nhw ei fwyta, ond unwaith iddyn nhw ddechrau ei fwyta dyma nhw’n gweiddi: “Mae ’na wenwyn* yn y crochan, O ddyn y gwir Dduw!” A doedden nhw ddim yn gallu ei fwyta.
41 Felly dywedodd: “Dewch â blawd ata i.” Ar ôl iddo ei daflu i mewn i’r crochan, dywedodd: “Rhowch hwn i’r bobl.” A doedd ’na ddim byd drwg yn y crochan.
42 Daeth dyn o Baal-salisa at ddyn y gwir Dduw, gan ddod ag 20 torth o fara haidd a oedd wedi eu gwneud o ffrwythau cyntaf y cynhaeaf, yn ogystal â bag o rawn newydd. Yna dywedodd Eliseus: “Rhowch y cwbl i’r bobl er mwyn iddyn nhw fwyta.”
43 Ond dywedodd ei was: “Does ’na ddim digon o fwyd fan hyn ar gyfer 100 o ddynion.” I hynny dywedodd: “Rho’r bwyd i’r bobl er mwyn iddyn nhw fwyta, oherwydd dyma mae Jehofa yn ei ddweud, ‘Byddan nhw’n bwyta ac fe fydd ’na beth dros ben.’”
44 Ar ôl hynny, rhoddodd y bwyd o’u blaenau nhw a gwnaethon nhw fwyta, ac roedd ganddyn nhw beth dros ben yn ôl gair Jehofa.
Troednodiadau
^ Neu “roedd ’na fenyw.”
^ Neu “Galwa’r fenyw.”
^ Neu “y fenyw.”
^ Neu “eisteddodd y plentyn yn ei chôl.”
^ Neu “Mae’r fenyw.”
^ Neu “mae ei henaid yn chwerw.”
^ Neu “Galwa’r fenyw.”
^ Neu “hocys.”
^ Neu “gowrdiau.”
^ Llyth., “Mae ’na farwolaeth.”