Ail Brenhinoedd 5:1-27
5 Nawr roedd Naaman, pennaeth byddin brenin Syria, yn ddyn pwysig ac roedd gan y brenin* feddwl mawr ohono, oherwydd roedd Jehofa wedi rhoi buddugoliaeth i Syria drwyddo ef. Roedd yn filwr dewr er ei fod yn wahanglaf.*
2 Ar un o’i ymosodiadau, roedd y Syriaid wedi cymryd merch ifanc yn gaeth o wlad Israel, a daeth hi’n forwyn i wraig Naaman.
3 Dywedodd hi wrth ei meistres: “O na fyddai fy arglwydd yn mynd i weld y proffwyd yn Samaria! Yna byddai’n ei iacháu o’i wahanglwyf.”
4 Felly aeth ef* i adrodd hyn wrth ei arglwydd, gan sôn wrtho am beth roedd y ferch o Israel wedi ei ddweud.
5 Yna dywedodd brenin Syria: “Dos nawr! A gwna i anfon llythyr at frenin Israel.” Felly aeth gan gymryd deg talent* o arian, 6,000 darn o aur, a deg newid o ddillad.
6 Daeth â’r llythyr at frenin Israel, ac roedd yn darllen: “Rydw i’n anfon y llythyr hwn atat ti ynghyd â fy ngwas Naaman er mwyn iti ei iacháu o’i wahanglwyf.”
7 Unwaith i frenin Israel ddarllen y llythyr, rhwygodd ei ddillad a dweud: “Ai Duw ydw i? Oes gen i’r gallu i ladd rywun neu i’w gadw’n fyw? Pam gwnaeth ef anfon y dyn hwn ata i gan ddweud wrtho i i’w iacháu o’i wahanglwyf? Gallwch chi weld drostoch chi’ch hunain ei fod yn ceisio dadlau â mi.”
8 Ond pan glywodd Eliseus, dyn y gwir Dduw, fod brenin Israel wedi rhwygo ei ddillad, anfonodd neges at y brenin ar unwaith: “Pam gwnest ti rwygo dy ddillad? Plîs gad iddo ddod ata i fel ei fod yn gwybod bod ’na broffwyd yn Israel.”
9 Felly daeth Naaman gyda’i geffylau a’i gerbydau rhyfel a sefyll wrth fynedfa tŷ Eliseus.
10 Ond anfonodd Eliseus negesydd i ddweud wrtho: “Dos i ymolchi saith gwaith yn yr Iorddonen, a bydd dy groen yn cael ei adfer, a byddi di’n lân.”
11 Gyda hynny, gwylltiodd Naaman a cherdded i ffwrdd gan ddweud: “Dyma fi yn meddwl i fi fy hun, ‘Bydd yn dod ata i ac yn sefyll yma ac yn galw ar enw Jehofa ei Dduw, gan symud ei law yn ôl ac ymlaen dros y gwahanglwyf i’w iacháu.’
12 Onid ydy Abana a Pharpar, afonydd Damascus, yn well na holl ddyfroedd Israel? Oni allwn i ymolchi ynddyn nhw a bod yn lân?” Gyda hynny, trodd a mynd i ffwrdd mewn tymer wyllt.
13 Yna daeth ei weision ato a dweud: “Fy nhad, petai’r proffwyd wedi dweud wrthot ti am wneud rhywbeth rhyfeddol, oni fyddet ti wedi gwneud hynny? Felly beth am wrando arno am ei fod ond wedi dweud wrthot ti, ‘Dos i ymolchi a bydda’n lân’?”
14 Gyda hynny, aeth i lawr ac ymdrochi yn yr Iorddonen saith gwaith, yn ôl beth roedd dyn y gwir Dduw wedi ei ddweud wrtho. Yna cafodd ei groen ei adfer fel croen bachgen ifanc, a daeth yn lân.
15 Ar ôl hynny, aeth yn ôl at ddyn y gwir Dduw gyda’i ddynion i gyd a sefyll o’i flaen a dweud: “Nawr rydw i’n gwybod does ’na ddim Duw arall ar y ddaear gyfan, heblaw am yn Israel. Nawr plîs derbyn anrheg gan dy was.”
16 Ond dywedodd Eliseus: “Mor sicr â’r ffaith fod Jehofa yn fyw, yr un rydw i’n ei wasanaethu, wna i ddim ei derbyn.” Roedd yn ei annog i’w derbyn, ond roedd yn dal ati i wrthod.
17 O’r diwedd, dywedodd Naaman: “Os ddim, plîs rho bridd imi o’r tir hwn, cymaint ag y gall pâr o fulod ei gario, oherwydd fydda i byth eto yn cyflwyno offrwm llosg nac aberth i unrhyw dduw heblaw am Jehofa.
18 Ond gad i Jehofa faddau imi am un peth: Pan fydd fy arglwydd y brenin yn mynd i mewn i dŷ* Rimmon i ymgrymu yno, mae’n pwyso ar fy mraich, felly mae’n rhaid i mi ymgrymu yn nhŷ Rimmon. Pan fydda i’n ymgrymu yn nhŷ Rimmon, gad i Jehofa plîs faddau imi am hyn.”
19 Gyda hynny, dywedodd wrtho: “Dos mewn heddwch.” Pan oedd ef wedi ei adael ac wedi teithio’n eithaf pell,
20 dyma Gehasi, gwas Eliseus dyn y gwir Dduw, yn dweud wrtho’i hun: ‘Mae fy meistr wedi arbed Naaman y Syriad drwy beidio â derbyn yr anrheg a ddaeth gydag ef. Mor sicr â’r ffaith fod Jehofa yn fyw, gwna i redeg ar ei ôl a derbyn rhywbeth ganddo.’
21 Felly rhedodd Gehasi ar ôl Naaman. Pan welodd Naaman fod rhywun yn rhedeg ar ei ôl, daeth i lawr o’i gerbyd i’w gyfarfod a dweud: “Ydy popeth yn iawn?”
22 I hynny dywedodd: “Ydy, mae popeth yn iawn. Mae fy meistr wedi fy anfon i gan ddweud, ‘Edrycha! Mae dau ddyn ifanc o blith meibion y proffwydi newydd ddod ata i o ardal fynyddig Effraim. Plîs rho dalent o arian iddyn nhw a dau newid o ddillad.’”
23 Dywedodd Naaman: “Wrth gwrs, cymera ddwy dalent.” Roedd Naaman yn mynnu, felly lapiodd ddwy dalent o arian a dau newid o ddillad mewn dau fag a’u rhoi nhw i ddau o’i weision a wnaeth eu cario nhw o flaen Gehasi.
24 Pan gyrhaeddodd ef Offel,* cymerodd nhw o ddwylo’r gweision, eu rhoi nhw yn ei dŷ, ac anfon y dynion i ffwrdd. Ar ôl iddyn nhw adael,
25 aeth i mewn a sefyll wrth ymyl ei feistr. Yna dywedodd Eliseus wrtho: “Ble rwyt ti wedi bod Gehasi?” Ond atebodd: “Dydw i ddim wedi bod i unman.”
26 Dywedodd Eliseus wrtho: “Onid oedd fy nghalon yno gyda ti pan ddaeth y dyn i lawr o’i gerbyd i dy gyfarfod di? Ai dyma yw’r amser iawn i dderbyn arian neu i dderbyn dillad neu goed olewydd neu winllannoedd neu ddefaid neu wartheg neu weision neu forynion?
27 Nawr bydd gwahanglwyf Naaman yn glynu wrthot ti a dy ddisgynyddion am byth.” Ar unwaith, aeth allan o’i flaen yn wahanglaf, a’i groen yn wyn fel yr eira.
Troednodiadau
^ Neu “roedd gan ei arglwydd.”
^ Neu “er ei fod wedi cael ei daro â chlefyd ar ei groen.”
^ Efallai yn cyfeirio at Naaman.
^ Roedd talent yn gyfartal â 34.2 kg (1,101 oz t).
^ Neu “i deml.”
^ Lleoliad yn Samaria, efallai bryn neu gaer.