Ail Brenhinoedd 7:1-20
7 Nawr dywedodd Eliseus, “Gwrandewch ar air Jehofa. Dyma mae Jehofa yn ei ddweud: ‘Tua’r adeg yma yfory, wrth borth* Samaria, bydd mesur sea* o’r blawd gorau yn werth sicl,* a bydd dau fesur sea o haidd yn werth sicl.’”
2 Gyda hynny, dyma’r dirprwy gadfridog roedd y brenin yn dibynnu arno yn dweud wrth ddyn y gwir Dduw: “Allai hynny byth ddigwydd, hyd yn oed petai Jehofa yn agor llifddorau yn y nefoedd.” Ac atebodd: “Byddi di’n gweld y peth â dy lygaid dy hun, ond fyddi di ddim yn bwyta ohono.”
3 Roedd ’na bedwar gwahanglaf wrth fynedfa porth y ddinas, a dywedon nhw wrth ei gilydd: “Pam rydyn ni’n eistedd yma nes inni farw?
4 Os byddwn ni’n penderfynu mynd i mewn i’r ddinas tra bod ’na newyn yno, byddwn ni’n marw yno. Ac os byddwn ni’n eistedd yma, byddwn ni’n marw beth bynnag. Felly dewch inni fynd drosodd i wersyll y Syriaid. Os byddan nhw’n arbed ein bywydau, byddwn ni’n byw, ond os byddan nhw’n ein lladd ni, yna byddwn ni’n marw.”
5 Yna dyma nhw’n codi gyda’r nos, pan oedd hi’n dywyll, ac yn mynd at wersyll y Syriaid. Ond pan gyrhaeddon nhw wersyll y Syriaid, doedd ’na neb yno.
6 Digwyddodd hyn am fod Jehofa wedi achosi i wersyll Syria glywed sŵn cerbydau rhyfel a cheffylau, sŵn byddin enfawr. Felly dywedon nhw wrth ei gilydd: “Edrycha! Mae brenin Israel wedi cyflogi brenhinoedd yr Hethiaid a brenhinoedd yr Aifft i ddod yn ein herbyn ni!”
7 Ar unwaith, dyma nhw’n codi ac yn ffoi yn y tywyllwch gyda’r nos, gan adael eu pebyll, eu ceffylau, eu hasynnod, a’r gwersyll cyfan ar ôl, a dyma nhw’n ffoi am eu bywydau.
8 Pan ddaeth y dynion gwahanglwyfus i gyrion y gwersyll, aethon nhw i mewn i un o’r pebyll a dechrau bwyta ac yfed. Dyma nhw’n cario arian, aur, a dillad oddi yno a mynd a’u cuddio nhw. Yna aethon nhw yn ôl i mewn i babell arall a chario pethau allan o honno a mynd a’u cuddio nhw.
9 Yn y pen draw, dywedon nhw wrth ei gilydd: “Dydy beth rydyn ni’n ei wneud ddim yn iawn. Mae heddiw yn ddiwrnod o newyddion da! Os byddwn ni’n oedi nes iddi wawrio, byddwn ni’n haeddu cael ein cosbi. Felly gad inni fynd ac adrodd hyn wrth dŷ’r brenin.”
10 Felly aethon nhw a galw ar borthorion y ddinas, a dweud wrthyn nhw: “Aethon ni i mewn i wersyll y Syriaid, ond doedd ’na neb yno—wnaethon ni ddim clywed unrhyw un o gwbl. Dim ond y ceffylau a’r asynnod oedd yno wedi eu clymu, a’r pebyll wedi eu gadael fel roedden nhw.”
11 Ar unwaith dyma’r porthorion yn gweiddi ar y bobl oedd yn nhŷ’r brenin, ac yn adrodd y newyddion wrthyn nhw.
12 Ar unwaith, cododd y brenin yn ystod y nos, a dweud wrth ei weision: “Plîs, gadewch imi ddweud wrthoch chi beth mae’r Syriaid wedi ei wneud inni. Maen nhw’n gwybod ein bod ni’n llwglyd, felly maen nhw wedi gadael y gwersyll i guddio yn y caeau, gan ddweud, ‘Byddan nhw’n dod allan o’r ddinas, a byddwn ni’n eu dal nhw’n fyw ac yn mynd i mewn i’r ddinas.’”
13 Yna dywedodd un o’i weision: “Plîs, gad i rai dynion gymryd pump o’r ceffylau sydd ar ôl yn y ddinas. Yn y pen draw bydd yr un peth yn digwydd iddyn nhw ag y bydd yn digwydd i’r holl Israeliaid sy’n aros yma. Byddan nhw’n marw, yn union fel yr holl Israeliaid sydd eisoes wedi marw. Gad inni eu hanfon nhw allan a gweld beth fydd yn digwydd.”
14 Felly dyma nhw’n cymryd dau gerbyd gyda cheffylau, a dyma’r brenin yn eu hanfon nhw allan i wersyll y Syriaid, gan ddweud: “Ewch i weld beth sy’n digwydd.”
15 Aethon nhw ar ôl y Syriaid mor bell â’r Iorddonen, ac ar hyd y ffordd roedd ’na ddillad ac offer ar hyd y llawr am fod y Syriaid wedi eu taflu nhw i ffwrdd wrth ffoi mewn panig. Yna daeth y negeswyr yn ôl ac adrodd hyn wrth y brenin.
16 Yna aeth y bobl allan ac ysbeilio gwersyll y Syriaid, fel bod mesur sea o’r blawd gorau yn werth sicl, a dau fesur sea o haidd yn werth sicl, yn union fel dywedodd Jehofa.
17 Roedd y brenin wedi penodi’r dirprwy gadfridog yr oedd yn dibynnu arno i fod yn gyfrifol am y porth, ond wrth i’r dyrfa ruthro allan dyma nhw’n ei sathru dan draed a bu farw, yn union fel roedd dyn y gwir Dduw wedi dweud wrth y brenin pan ddaeth i lawr ato.
18 Digwyddodd pethau yn union fel roedd dyn y gwir Dduw wedi dweud wrth y brenin: “Bydd dau fesur sea o haidd yn werth sicl, a bydd mesur sea o’r blawd gorau yn werth sicl erbyn yr adeg yma yfory wrth borth Samaria.”
19 Ond roedd y dirprwy gadfridog wedi dweud wrth ddyn y gwir Dduw: “A allai’r fath beth ddigwydd, hyd yn oed petai Jehofa yn agor llifddorau yn y nefoedd?” I hynny, roedd Eliseus wedi dweud: “Byddi di’n gweld y peth â dy lygaid dy hun, ond fyddi di ddim yn bwyta ohono.”
20 Dyna’n union beth ddigwyddodd iddo, am ei fod wedi marw ar ôl i’r bobl ei sathru dan draed wrth y porth.
Troednodiadau
^ Neu “wrth farchnadoedd.”
^ Roedd sea yn gyfartal â 7.33 L.
^ Roedd sicl yn gyfartal ag 11.4 g (0.367 oz t).