Ail Brenhinoedd 8:1-29

  • Y ddynes o Sunem yn cael ei thir yn ôl (1-6)

  • Eliseus, Ben-hadad, a Hasael (7-15)

  • Jehoram, brenin Jwda (16-24)

  • Ahaseia, brenin Jwda (25-29)

8  Dywedodd Eliseus wrth fam y bachgen roedd ef wedi ei atgyfodi:* “Cod a dos, ti a dy deulu, a byw fel rhywun estron ble bynnag gelli di, oherwydd mae Jehofa wedi cyhoeddi y bydd ’na newyn yn y wlad am saith mlynedd.”  Felly cododd y ddynes* a gwneud beth roedd dyn y gwir Dduw wedi ei ddweud. Aeth gyda’i theulu a setlo yng ngwlad y Philistiaid am saith mlynedd.  Ar ddiwedd y saith mlynedd, daeth y ddynes* yn ôl o wlad y Philistiaid ac aeth hi at y brenin ac erfyn i gael ei thŷ a’i chae yn ôl.  Nawr roedd y brenin yn siarad â Gehasi, gwas dyn y gwir Dduw, ac yn dweud: “Dyweda wrtho i plîs, am yr holl bethau gwych mae Eliseus wedi eu gwneud.”  Tra oedd yn adrodd wrth y brenin am sut roedd ef wedi atgyfodi yr un oedd wedi marw, dyma fam y bachgen roedd ef wedi ei atgyfodi yn dod at y brenin yn erfyn am ei thŷ a’i chae. Ar unwaith dywedodd Gehasi: “Fy arglwydd y brenin, dyma’r ddynes,* a dyma ei mab, yr un gwnaeth Eliseus ei atgyfodi.”  Gyda hynny dyma’r brenin yn holi’r ddynes* am beth oedd wedi digwydd, a gwnaeth hi adrodd yr hanes wrtho. Yna dyma’r brenin yn galw swyddog llys, gan ddweud wrtho: “Rho bopeth sy’n perthyn iddi hi yn ôl iddi, yn ogystal â holl gynnyrch ei thir ers y diwrnod gwnaeth hi adael y wlad hyd heddiw.”  Daeth Eliseus i Ddamascus tra oedd Ben-hadad, brenin Syria, yn sâl. Felly cafodd wybod: “Mae dyn y gwir Dduw wedi dod yma.”  Gyda hynny dywedodd y brenin wrth Hasael: “Dos i gyfarfod dyn y gwir Dduw, a chymera anrheg gyda ti. Dyweda wrtho am ofyn i Jehofa os bydda i’n gwella o’r salwch hwn.”  Aeth Hasael i’w gyfarfod ac aeth ag anrheg gydag ef, pob math o bethau da o Ddamascus, cymaint ag y gall 40 o gamelod ei gario. Daeth a sefyll o’i flaen a dweud: “Mae dy fab, Ben-hadad brenin Syria, wedi fy anfon i atat ti i ofyn, ‘A fydda i’n gwella o’r salwch hwn?’” 10  Atebodd Eliseus: “Dos i ddweud wrtho, ‘Yn bendant, byddi di’n gwella,’ ond mae Jehofa wedi dangos imi y bydd ef yn sicr yn marw.” 11  A pharhaodd i syllu arno nes iddo deimlo’n anghyfforddus. Yna dechreuodd dyn y gwir Dduw wylo. 12  Gofynnodd Hasael: “Pam rwyt ti’n wylo fy arglwydd?” Atebodd: “Oherwydd rydw i’n gwybod am y niwed y byddi di’n ei wneud i bobl Israel. Byddi di’n rhoi eu dinasoedd caerog ar dân, byddi di’n lladd eu dynion cryf â’r cleddyf, byddi di’n curo eu plant nes iddyn nhw farw, a byddi di’n rhwygo boliau merched* beichiog yn agored.” 13  Dywedodd Hasael: “Sut gall dy was, sy’n ddim byd ond ci, wneud y fath beth?” Ond dywedodd Eliseus: “Mae Jehofa wedi dangos imi y byddi di’n frenin ar Syria.” 14  Yna dyma’n gadael Eliseus ac yn mynd yn ôl at ei arglwydd ei hun a ofynnodd iddo: “Beth ddywedodd Eliseus wrthot ti?” Atebodd: “Dywedodd wrtho i y byddi di’n bendant yn gwella.” 15  Ond y diwrnod wedyn, cymerodd Hasael flanced a’i gwlychu mewn dŵr, a’i dal ar ei wyneb nes iddo farw. A daeth Hasael yn frenin yn ei le. 16  Yn y bumed flwyddyn o deyrnasiad Jehoram, mab Ahab brenin Israel, tra oedd Jehosaffat yn frenin ar Jwda, daeth Jehoram, mab y Brenin Jehosaffat, yn frenin ar Jwda. 17  Roedd yn 32 mlwydd oed pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am wyth mlynedd yn Jerwsalem. 18  Roedd yn ymddwyn yr un fath â brenhinoedd Israel, yn union fel roedd teulu Ahab wedi gwneud, oherwydd roedd merch Ahab wedi dod yn wraig iddo; a pharhaodd i wneud beth oedd yn ddrwg yng ngolwg Jehofa. 19  Ond doedd Jehofa ddim eisiau dod â dinistr ar Jwda er mwyn Dafydd ei was, gan ei fod wedi addo rhoi lamp iddo ef a’i feibion am byth. 20  Yn nyddiau Jehoram, gwrthryfelodd Edom yn erbyn Jwda a dewis brenin arnyn nhw eu hunain. 21  Felly gwnaeth Jehoram groesi drosodd i Sair gyda’i gerbydau i gyd, a chododd yn ystod y nos a threchu’r Edomiaid a phenaethiaid y cerbydau a oedd yn ei amgylchynu; a dyma’r milwyr yn ffoi i’w pebyll. 22  Ond mae Edom wedi parhau i wrthryfela yn erbyn Jwda hyd heddiw. Gwnaeth Libna hefyd wrthryfela bryd hynny. 23  Ac onid ydy gweddill hanes Jehoram, popeth a wnaeth, wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanes brenhinoedd Jwda? 24  Yna bu farw Jehoram,* a chafodd ei gladdu gyda’i gyndadau yn Ninas Dafydd. A daeth ei fab Ahaseia yn frenin yn ei le. 25  Yn y ddeuddegfed* flwyddyn o deyrnasiad Jehoram, mab Ahab brenin Israel, daeth Ahaseia, mab Jehoram brenin Jwda, yn frenin. 26  Roedd Ahaseia yn 22 mlwydd oed pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am flwyddyn yn Jerwsalem. Enw ei fam oedd Athaleia, wyres* Omri brenin Israel. 27  Roedd yn ymddwyn yn yr un ffordd â theulu Ahab ac roedd yn parhau i wneud beth oedd yn ddrwg yng ngolwg Jehofa, fel y gwnaeth teulu Ahab, am ei fod yn perthyn i deulu Ahab trwy briodas. 28  Felly aeth gyda Jehoram fab Ahab i ryfela yn erbyn Hasael brenin Syria yn Ramoth-gilead, ond gwnaeth y Syriaid anafu Jehoram. 29  Felly aeth y Brenin Jehoram yn ôl i Jesreel i wella o’r anafiadau a gafodd ef gan y Syriaid yn Rama pan frwydrodd yn erbyn Hasael brenin Syria. Aeth Ahaseia, mab Jehoram brenin Jwda, i lawr i Jesreel i weld Jehoram fab Ahab, am ei fod wedi cael ei anafu.

Troednodiadau

Neu “adfer i fywyd.”
Neu “y fenyw.”
Neu “y fenyw.”
Neu “dyma’r fenyw.”
Neu “holi’r fenyw.”
Neu “menywod.”
Neu “Yna gorweddodd Jehoram i lawr i orffwys gyda’i gyndadau.”
Neu “12fed.”
Llyth., “merch.”