Ail Brenhinoedd 9:1-37

  • Jehu yn cael ei eneinio’n frenin ar Israel (1-13)

  • Jehu yn lladd Jehoram ac Ahaseia (14-29)

  • Jesebel yn cael ei lladd; cŵn yn bwyta ei chorff (30-37)

9  Yna, galwodd Eliseus y proffwyd ar un o feibion y proffwydi, a dweud wrtho: “Clyma dy ddillad am dy ganol, a dos yn gyflym i Ramoth-gilead, a chymera’r botel hon o olew gyda ti.  Unwaith iti gyrraedd, edrycha am Jehu, mab Jehosaffat, mab Nimsi; dos i mewn a’i alw i ystafell fewnol y tŷ, i ffwrdd oddi wrth y dynion eraill.  Yna cymera’r botel o olew a’i dywallt* ar ei ben a dyweda, ‘Dyma mae Jehofa yn ei ddweud: “Rydw i’n dy eneinio di yn frenin ar Israel.”’ Yna agora’r drws a ffoi heb oedi.”  Felly dyma was y proffwyd yn mynd ar ei ffordd i Ramoth-gilead.  Unwaith iddo gyrraedd, roedd penaethiaid y fyddin yn eistedd yno. Dywedodd: “Mae gen i neges iti, O bennaeth.” Gofynnodd Jehu: “I ba un ohonon ni?” Atebodd: “I ti, O bennaeth.”  Felly cododd Jehu a mynd i mewn i’r tŷ; dyma’r gwas yn tywallt* yr olew ar ei ben ac yn dweud wrtho, “Dyma mae Jehofa, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Rydw i’n dy eneinio di yn frenin ar bobl Jehofa, ar Israel.  Mae’n rhaid iti daro tŷ Ahab dy arglwydd i lawr, a bydda i’n dial ar Jesebel am waed fy ngweision y proffwydi, ac am holl weision Jehofa a fu farw.  A bydd tŷ cyfan Ahab yn marw; a bydda i’n cael gwared ar bob gwryw o deulu Ahab, gan gynnwys y mwyaf gwan ac isel yn Israel.  A bydda i’n gwneud tŷ Ahab fel tŷ Jeroboam fab Nebat ac fel tŷ Baasa fab Aheia. 10  Ynglŷn â Jesebel, bydd y cŵn yn ei bwyta hi yn y cae yn Jesreel, ac ni fydd neb yn ei chladdu hi.’” Gyda hynny, agorodd y drws a ffoi. 11  Pan aeth Jehu yn ôl at weision ei arglwydd, gofynnon nhw: “Ydy popeth yn iawn? Pam daeth y dyn gwallgof hwn atat ti?” Atebodd: “Rydych chi’n gwybod sut un ydy ef, a sut mae’n siarad.” 12  Ond dywedon nhw: “Dydy hynny ddim yn wir! Plîs, dyweda wrthon ni.” Yna atebodd: “Dyma ddywedodd y dyn wrtho i, ac yna ychwanegodd, ‘Dyma mae Jehofa yn ei ddweud: “Rydw i’n dy eneinio di yn frenin ar Israel.”’” 13  Gyda hynny, cymerodd pob un ohonyn nhw ei ddilledyn a’i roi wrth ei draed ar y grisiau, a chanu’r corn a dweud: “Mae Jehu wedi dod yn frenin!” 14  Yna cynllwyniodd Jehu, mab Jehosaffat, mab Nimsi, yn erbyn Jehoram. Roedd Jehoram wedi bod yn Ramoth-gilead yn amddiffyn Israel oddi wrth ymosodiadau Hasael brenin Syria. 15  Yn hwyrach ymlaen, aeth y Brenin Jehoram yn ôl i Jesreel er mwyn gwella o’r anafiadau a gafodd gan y Syriaid wrth iddo frwydro yn erbyn Hasael brenin Syria. Nawr dywedodd Jehu: “Os ydych chi’n cytuno, peidiwch â gadael i neb ddianc o’r ddinas er mwyn mynd i sôn am hyn yn Jesreel.” 16  Yna dringodd Jehu i mewn i’w gerbyd a mynd i Jesreel, oherwydd roedd Jehoram yn gorwedd yno wedi ei anafu, ac roedd Ahaseia brenin Jwda wedi mynd i lawr i weld Jehoram. 17  Tra oedd y gwyliwr yn sefyll ar y tŵr yn Jesreel, gwelodd dyrfa o ddynion Jehu yn agosáu. Dywedodd ar unwaith: “Rydw i’n gweld tyrfa o ddynion.” Dywedodd Jehoram: “Cymera farchog a’i anfon i’w cyfarfod nhw, a gad iddo ofyn, ‘A ydych chi’n dod mewn heddwch?’” 18  Felly aeth marchog i’w cyfarfod a dweud: “Dyma mae’r brenin yn ei ddweud, ‘A wyt ti’n dod mewn heddwch?’” Ond dywedodd Jehu: “Pam rwyt ti’n sôn am ‘heddwch’? Dos y tu ôl imi a dilyna fi!” Yna dywedodd y gwyliwr: “Mae’r negesydd wedi eu cyrraedd nhw, ond dydy ef ddim wedi dod yn ôl.” 19  Felly anfonodd farchog arall allan a ddywedodd wrthyn nhw: “Dyma mae’r brenin yn ei ddweud, ‘A wyt ti’n dod mewn heddwch?’” Ond dywedodd Jehu: “Pam rwyt ti’n sôn am ‘heddwch’? Dos y tu ôl imi a dilyna fi!” 20  Yna dywedodd y gwyliwr: “Gwnaeth ef eu cyrraedd nhw, ond ddaeth ef ddim yn ôl, ac mae’n gyrru fel Jehu wŷr* Nimsi, oherwydd mae’n gyrru’n wyllt.” 21  Dywedodd Jehoram: “Paratowch y cerbyd!” Felly cafodd ei gerbyd rhyfel ei baratoi ac aeth Jehoram brenin Israel ac Ahaseia brenin Jwda allan yn eu cerbydau rhyfel eu hunain i gyfarfod Jehu. Daethon nhw ar ei draws ar dir Naboth y Jesreeliad. 22  Unwaith i Jehoram weld Jehu, gofynnodd: “A wyt ti’n dod mewn heddwch Jehu?” Ond atebodd: “Sut gallwn ni gael heddwch tra bod puteindra dy fam Jesebel a’i hudoliaeth yn dal mor gyffredin?” 23  Ar unwaith, dyma Jehoram yn troi ei gerbyd i ffoi, a dywedodd wrth Ahaseia: “Rydyn ni wedi cael ein twyllo, Ahaseia!” 24  Gafaelodd Jehu yn ei fwa a saethu Jehoram rhwng ei ysgwyddau, a daeth y saeth allan drwy ei galon, a syrthiodd yn farw yn ei gerbyd rhyfel. 25  Yna dywedodd wrth Bidcar, ei ddirprwy gadfridog: “Cod ei gorff a’i daflu i gae Naboth y Jesreeliad. Cofia, roeddet ti a fi yn gyrru cerbydau ochr yn ochr y tu ôl i’w dad Ahab pan wnaeth Jehofa ei hun gyhoeddi hyn yn ei erbyn: 26  ‘“Mor sicr â’r ffaith fy mod i wedi gweld gwaed Naboth a gwaed ei feibion ddoe,” meddai Jehofa, “bydda i’n dial arnat ti yn yr union gae hwn,” meddai Jehofa.’ Felly nawr, cod ei gorff a’i daflu i’r cae, yn ôl gair Jehofa.” 27  Pan welodd Ahaseia brenin Jwda beth oedd yn digwydd, dyma’n ffoi heibio’r tŷ yn yr ardd. (Yn hwyrach ymlaen, aeth Jehu ar ei ôl a dweud: “Taro ef i lawr hefyd!” Felly dyma nhw’n ei daro yn ei gerbyd ar ei ffordd i fyny i Gur, sydd wrth ymyl Ibleam. Ond parhaodd i ffoi i Megido a bu farw yno. 28  Yna dyma ei weision yn ei gludo mewn cerbyd i Jerwsalem, ac yn ei gladdu yn ei fedd gyda’i gyndadau yn Ninas Dafydd. 29  Roedd Ahaseia wedi dod yn frenin ar Jwda yn yr unfed flwyddyn ar ddeg* o deyrnasiad Jehoram fab Ahab.) 30  Clywodd Jesebel fod Jehu wedi dod i Jesreel. Felly dyma hi’n rhoi colur du ar ei llygaid, yn addurno ei phen, ac yn edrych i lawr trwy’r ffenest. 31  Fel roedd Jehu yn dod i mewn drwy giât y ddinas, dywedodd hi: “A wyt ti’n cofio beth ddigwyddodd yn y pen draw i Simri ar ôl iddo ladd ei arglwydd?” 32  Gan edrych i fyny at y ffenest, gofynnodd: “Pwy sydd ar fy ochr i? Pwy?” Ar unwaith, dyma ddau neu dri o swyddogion y llys yn edrych arno. 33  Dywedodd: “Taflwch hi i lawr!” Felly dyma nhw’n ei thaflu hi i lawr, a thasgodd ei gwaed ar y wal ac ar y ceffylau, a dyma Jehu yn gyrru ei geffylau drosti. 34  Ar ôl hynny, aeth i mewn a bwyta ac yfed. Yna dywedodd: “Plîs, ewch â’r ddynes* felltigedig hon a’i chladdu hi. Roedd hi’n ferch i frenin wedi’r cwbl.” 35  Ond pan aethon nhw i’w chladdu hi, ddaethon nhw ddim o hyd i unrhyw beth heblaw am ei phenglog, ei thraed, a chledrau ei dwylo. 36  Pan ddaethon nhw yn ôl a dweud hyn wrtho, dywedodd: “Mae hyn yn cyflawni beth ddywedodd Jehofa drwy ei was Elias o Tisbe, pan ddywedodd, ‘Bydd y cŵn yn bwyta corff Jesebel yn y cae yn Jesreel. 37  A bydd corff marw Jesebel fel baw* ar wyneb y cae yn Jesreel, fel na fyddan nhw’n gallu dweud: “Jesebel ydy hon.”’”

Troednodiadau

Neu “arllwys.”
Neu “arllwys.”
Llyth., “mab.”
Neu “11eg flwyddyn.”
Neu “â’r fenyw.”
Neu “tom; tail.”