Yr Ail at y Corinthiaid 12:1-21
12 Mae’n rhaid imi frolio. Dydy hyn ddim yn fuddiol, ond rydw i am symud ymlaen i drafod gweledigaethau goruwchnaturiol a datguddiadau’r Arglwydd.
2 Rydw i’n adnabod dyn sydd mewn undod â Christ a gafodd ei gipio ymaith i’r drydedd nef 14 o flynyddoedd yn ôl—p’run ai yn y corff neu allan o’r corff, dydw i ddim yn gwybod; Duw sy’n gwybod.
3 Yn wir, rydw i’n adnabod dyn o’r fath—p’run ai yn y corff neu ar wahân i’r corff, dydw i ddim yn gwybod; Duw sy’n gwybod—
4 a gafodd ei gipio ymaith i baradwys a’i fod wedi clywed geiriau sydd ddim yn gallu cael eu llefaru a geiriau sydd ddim yn gyfreithlon i ddyn eu dweud.
5 Fe wna i frolio am ddyn o’r fath, ond wna i ddim brolio amdana i fy hun heblaw am fy ngwendidau.
6 Oherwydd hyd yn oed os ydw i eisiau brolio, fydda i ddim yn afresymol, oherwydd bydda i’n dweud y gwir. Ond rydw i’n peidio â gwneud hynny rhag i neb roi mwy o glod imi na’r hyn mae’n ei weld yno i neu’n ei glywed gen i,
7 dim ond oherwydd imi dderbyn datguddiadau mor rhyfeddol.
Er mwyn fy nghadw rhag cael fy nyrchafu yn ormodol, rhoddwyd i mi ddraenen yn y cnawd, angel Satan, i barhau i fy slapio* i, fel na fydda i’n cael fy nyrchafu yn ormodol.
8 Tair gwaith y gwnes i ymbil ar yr Arglwydd i dynnu’r ddraenen ohono i.
9 Ond dywedodd ef wrtho i: “Mae fy ngharedigrwydd rhyfeddol yn ddigon i ti, oherwydd bod fy ngrym i yn cael ei wneud yn berffaith mewn gwendid.” Yn llawen iawn, felly, y bydda i’n brolio am fy ngwendidau, er mwyn i rym y Crist barhau i fy nghysgodi fel pabell.
10 Felly rydw i’n cael pleser o wendidau, o gael fy sarhau, o fod mewn angen, o erledigaethau ac anawsterau, er mwyn Crist. Oherwydd pan ydw i’n wan, yna rydw i’n gryf.
11 Rydw i wedi dod yn afresymol. Chi wnaeth fy nghymell i i fod fel ’na, oherwydd fe ddylwn i fod wedi cael fy nghymeradwyo gynnoch chi. Oherwydd dydw i ddim wedi fy mhrofi fy hun yn israddol i’ch “uwch apostolion” mewn unrhyw beth, hyd yn oed os ydw i’n ddim byd.
12 Yn wir, rydw i wedi dangos i chi arwyddion fy apostoliaeth gyda dyfalbarhad mawr, a thrwy arwyddion a rhyfeddodau a gweithredoedd nerthol.
13 Oherwydd ym mha ffordd roeddech chi’n llai breintiedig na gweddill y cynulleidfaoedd, heblaw nad oeddwn i fy hun wedi dod yn faich arnoch chi? Plîs maddeuwch imi y camgymeriad hwn.
14 Edrychwch! Dyma’r trydydd tro rydw i’n barod i ddod atoch chi, a fydda i ddim yn faich arnoch chi. Oherwydd rydw i’n ceisio, nid eich eiddo, ond chi; oherwydd does dim disgwyl i’r plant roi arian o’r neilltu ar gyfer eu rhieni, ond y rhieni ar gyfer eu plant.
15 O’m rhan fy hun, fe fydda i’n hapus iawn i wario popeth sydd gen i ac i fy ngwario fy hun yn llwyr drostoch chi.* Os ydw i’n eich caru chi gymaint yn fwy, a ydw i i gael fy ngharu yn llai?
16 Beth bynnag am hynny, doeddwn i ddim yn faich arnoch chi. Er hynny, rydych chi’n dweud fy mod i wedi bod yn “gyfrwys” ac fy mod i wedi eich dal chi “drwy fod yn dwyllodrus.”
17 A wnes i gymryd mantais ohonoch chi drwy unrhyw un o’r rhai hynny a anfonais i atoch chi?
18 Fe wnes i annog Titus i ddod atoch chi ac fe wnes i anfon brawd gydag ef. A wnaeth Titus gymryd mantais ohonoch chi? Oni wnaethon ni gerdded yn yr un ysbryd? Oni wnaethon ni ddilyn yr un llwybrau?
19 Ydych chi wedi bod yn meddwl drwy’r amser mai ein hamddiffyn ein hunain i chi yr ydyn ni? Gerbron Duw yr ydyn ni’n siarad mewn undod â Christ. Ond, ffrindiau annwyl, mae popeth rydyn ni’n ei wneud er mwyn eich adeiladu chi.
20 Oherwydd rydw i’n ofni rywsut, pan fydda i’n cyrraedd, na fyddech chi’n ymddwyn fel rydw i’n dymuno ac na fyddwn innau’n ymddwyn fel rydych chi’n dymuno, ond yn hytrach, efallai bydd cweryla, cenfigen, gwylltio, anghydfod, siarad yn faleisus am bobl, hel clecs,* pobl yn cael eu chwyddo gan falchder, ac anhrefn.
21 Efallai pan fydda i’n dod eto, bydd fy Nuw yn fy narostwng i o’ch blaen chi, ac efallai bydd rhaid imi alaru dros lawer o’r rheini sydd wedi pechu gynt ond heb edifarhau am eu haflendid a’u hanfoesoldeb rhywiol* a’u hymddygiad digywilydd.*