Yr Ail at y Corinthiaid 4:1-18

  • Goleuni’r newyddion da (1-6)

    • Dallu meddyliau anghredinwyr (4)

  • Trysor mewn llestri pridd (7-18)

4  Felly, gan fod y weinidogaeth hon gynnon ni drwy’r trugaredd a ddangoswyd tuag aton ni, dydyn ni ddim yn rhoi’r gorau iddi. 2  Ond rydyn ni wedi troi ein cefn ar y pethau cywilyddus a llechwraidd, a dydyn ni ddim yn cerdded mewn cyfrwystra nac yn llygru gair Duw; ond drwy wneud y gwir yn amlwg, rydyn ni’n ein cymeradwyo ein hunain i gydwybod pob un yng ngolwg Duw. 3  Yn wir, os ydy’r newyddion da a gyhoeddwn ni o dan orchudd, mae’r newyddion da hynny o dan orchudd ymysg y rhai sydd ar y ffordd i ddistryw, 4  yr anghredinwyr y gwnaeth duw’r system hon* ddallu eu meddyliau, fel nad ydy goleuni’r newyddion da gogoneddus am y Crist, sef delw Duw, yn gallu disgleirio arnyn nhw. 5  Oherwydd rydyn ni’n pregethu, nid amdanon ni’n hunain, ond am Iesu Grist yn Arglwydd a ninnau’n weision i chi er mwyn Iesu. 6  Oherwydd Duw ydy’r un a ddywedodd: “Gad i’r goleuni ddisgleirio o’r tywyllwch,” ac mae ei oleuni ef wedi disgleirio ar ein calonnau i’w goleuo nhw â gwybodaeth ogoneddus Duw trwy wyneb Crist. 7  Fodd bynnag, mae gynnon ni’r trysor hwn sydd mewn llestri pridd,* fel y bydd y grym sydd y tu hwnt i’r arferol yn amlwg yn dod o Dduw ac nid ohonon ni. 8  Ym mhob peth rydyn ni’n cael ein gwasgu’n galed, ond nid ein cyfyngu fel na allwn ni symud; rydyn ni’n pendroni, ond nid yn llwyr heb ffordd allan ohoni;* 9  rydyn ni’n cael ein herlid, ond nid ein gadael ar ôl; rydyn ni’n cael ein taro i lawr, ond nid ein dinistrio. 10  Rydyn ni bob amser yn dioddef yn ein corff y peryg o gael ein rhoi i farwolaeth fel y cafodd Iesu, er mwyn i fywyd Iesu gael ei amlygu yn ein corff. 11  Oherwydd rydyn ni sy’n byw yn wynebu’n barhaol y peryg o farw er mwyn Iesu, fel y bydd bywyd Iesu hefyd yn cael ei amlygu yn ein cnawd ni sy’n marw. 12  Felly mae marwolaeth ar waith ynon ni, ond bywyd ynoch chithau. 13  Nawr, gan fod gynnon ni’r un ysbryd o ffydd, yn ôl yr hyn sy’n ysgrifenedig: “Fe wnes i ymarfer ffydd, felly fe wnes i siarad”; rydyn ninnau hefyd yn ymarfer ffydd ac felly rydyn ni’n siarad, 14  gan wybod y bydd yr Un a wnaeth atgyfodi Iesu yn ein hatgyfodi ninnau hefyd gyda Iesu ac yn ein cyflwyno ni gyda chi. 15  Oherwydd er eich mwyn chi mae’r pethau hyn i gyd, fel y bydd caredigrwydd rhyfeddol Duw yn gorlifo hyd yn oed yn fwy byth gan fod llawer mwy yn rhoi diolch er gogoniant Duw. 16  Felly, dydyn ni ddim yn rhoi’r gorau iddi, hyd yn oed os ydy’r corff yn dirywio, mae’r person mewnol yn bendant yn cael ei adfywio o ddydd i ddydd. 17  Er mai dros dro ac ysgafn ydy’r treial, fe fyddwn ni o ganlyniad i hyn yn derbyn gogoniant sydd heb ei debyg ac sy’n dragwyddol; 18  wrth inni gadw ein llygad, nid ar y pethau gweledig, ond ar y pethau anweledig. Oherwydd dros dro ydy’r pethau gweledig, ond tragwyddol ydy’r pethau anweledig.

Troednodiadau

Neu “yr oes hon.” Gweler Geirfa.
Neu “jariau clai.”
Neu efallai, “ond dydyn ni ddim yn anobeithio.”