Yr Ail at y Corinthiaid 5:1-21
5 Oherwydd rydyn ni’n gwybod, os bydd ein tŷ daearol, y babell hon, yn cael ei dynnu i lawr, byddwn ni’n cael adeilad gan Dduw, nid tŷ o waith llaw, ond un sy’n dragwyddol yn y nefoedd.
2 Oherwydd yn y tŷ hwn rydyn ni’n wir yn anadlu’n ddwfn mewn tristwch,* yn hiraethu am gael gwisgo ein tŷ nefol,
3 fel na fyddwn ni, o’i wisgo, yn ein cael ein hunain yn noeth.
4 Yn wir, rydyn ni sydd yn y babell hon yn anadlu’n ddwfn mewn tristwch, o dan faich, oherwydd dydyn ni ddim eisiau dadwisgo’r babell hon, ond rydyn ni eisiau gwisgo’r llall, er mwyn i’r hyn sy’n marw gael ei lyncu gan fywyd.
5 Nawr yr un sydd wedi ein paratoi ni ar gyfer yr union beth hwn ydy Duw, sydd wedi rhoi i ni’r ysbryd yn flaendal o’r hyn sydd i ddod.*
6 Felly rydyn ni bob amser yn llawn hyder ac yn gwybod tra bydd gynnon ni ein cartref yn y corff, byddwn ni’n absennol oddi wrth yr Arglwydd,
7 oherwydd rydyn ni’n cerdded yn ôl ffydd, ac nid yn ôl yr hyn rydyn ni’n ei weld.
8 Ond rydyn ni’n llawn hyder, a byddai’n well gynnon ni fod yn absennol o’r corff a gwneud ein cartref gyda’r Arglwydd.
9 Felly p’run a ydyn ni gartref gydag ef neu’n absennol ohono, ein bwriad ydy ei blesio ef.
10 Oherwydd mae’n rhaid i bawb ohonon ni ymddangos gerbron Crist i gael ein barnu ganddo,* er mwyn i bob un gael ei dalu yn unol â’r pethau y mae ef wedi eu gwneud tra oedd yn y corff, p’run ai’n dda neu’n ddrwg.
11 Felly, gan ein bod ni’n gwybod beth mae ofni’r Arglwydd yn ei olygu, rydyn ni’n dal i berswadio dynion, ond mae Duw yn ein hadnabod ni’n dda. Fodd bynnag, rydw i’n gobeithio bod eich cydwybod chithau hefyd yn ein hadnabod ni’n dda.
12 Dydyn ni ddim yn ein cymeradwyo ein hunain unwaith eto ond yn rhoi rheswm ichi i frolio amdanon ni, er mwyn i chi fedru rhoi ateb i’r rhai sy’n brolio am yr hyn y mae’r llygad yn ei weld yn unig ond nid am yr hyn sydd yn y galon.
13 Oherwydd os oedden ni allan o’n pwyll, er mwyn Duw oedd hynny; os ydyn ni yn ein hiawn bwyll, er eich mwyn chi mae hynny.
14 Oherwydd mae’r cariad sydd gan y Crist yn ein cymell ni, ac rydyn ni wedi dod i’r casgliad hwn: mae un dyn wedi marw dros bawb; ac felly, mae pawb wedi marw.
15 Ac fe wnaeth ef farw dros bawb er mwyn i’r rhai sy’n byw beidio â byw iddyn nhw eu hunain mwyach, ond i’r un a wnaeth farw drostyn nhw ac a gafodd ei atgyfodi.
16 Felly o hyn ymlaen dydyn ni ddim yn adnabod unrhyw ddyn o safbwynt dynol.* Hyd yn oed os oedden ni’n adnabod Crist ar un adeg o safbwynt dynol, yn bendant dydyn ni ddim yn ei adnabod fel ’na mwyach.
17 Felly, os oes unrhyw un mewn undod â Christ, mae ef yn greadigaeth newydd; mae’r hen bethau wedi mynd; edrychwch! mae ’na bethau newydd wedi dod i fodolaeth.
18 Ond mae pob peth yn dod o Dduw, yr un sydd wedi ein cymodi ni ag ef ei hun drwy Grist ac sydd wedi rhoi i ni weinidogaeth y cymodi,
19 hynny yw, roedd Duw drwy gyfrwng Crist yn cymodi’r byd ag ef ei hun, heb gyfri eu troseddau yn eu herbyn, ac mae wedi rhoi yn ein gofal neges y cymodi.
20 Felly, llysgenhadon ydyn ni yn dirprwyo dros Grist, fel petai Duw yn gwneud apêl drwyddon ni. Fel rhai sy’n dirprwyo dros Grist, rydyn ni’n ymbil: “Cymodwch â Duw.”
21 Yr un a oedd heb bechod, gwnaeth Duw ef yn bechod* droston ni, er mwyn i ni ddod yn gyfiawnder Duw drwy gyfrwng ef.
Troednodiadau
^ Neu “yn ochneidio; yn griddfan.”
^ Neu “arian ernes; gwarant (addewid) o’r hyn sydd i ddod.”
^ Neu “gerbron sedd farnu Crist.”
^ Llyth., “yn ôl y cnawd.”
^ Neu “yn offrwm dros bechod.”