Ail Cronicl 10:1-19

  • Israel yn gwrthryfela yn erbyn Rehoboam (1-19)

10  Aeth Rehoboam i Sechem, oherwydd roedd Israel gyfan wedi mynd i Sechem i’w wneud yn frenin. 2  Unwaith i Jeroboam fab Nebat glywed am hyn (roedd yn dal yn yr Aifft am ei fod wedi ffoi oherwydd y Brenin Solomon), daeth yn ôl o’r Aifft. 3  Yna dyma ddynion Israel yn anfon amdano, ac aeth Jeroboam ac Israel gyfan at Rehoboam a dweud: 4  “Rhoddodd dy dad iau drom arnon ni a’n gorfodi ni i weithio’n galed. Ond os byddi di’n llai llym nag ef, ac yn gwneud ein bywydau yn haws, gwnawn ni dy wasanaethu di.” 5  Ar hynny dywedodd wrthyn nhw: “Dewch yn ôl ata i ymhen tri diwrnod.” Felly aeth y bobl i ffwrdd. 6  Yna dyma’r Brenin Rehoboam yn ymgynghori â’r dynion hŷn* a oedd wedi gwasanaethu ei dad Solomon tra oedd yn fyw, gan ddweud: “Pa gyngor byddech chi’n ei roi i mi ar sut i ateb y bobl?” 7  Dyma nhw’n ateb: “Os byddi di’n trin y bobl yn dda ac yn eu plesio nhw ac yn eu hateb nhw’n garedig, byddan nhw’n wastad yn weision iti.” 8  Ond gwrthododd y cyngor a roddodd y dynion hŷn* iddo, ac aeth i ymgynghori â’r dynion ifanc oedd wedi tyfu i fyny* gydag ef ac a oedd nawr yn swyddogion iddo. 9  Gofynnodd iddyn nhw: “Pa gyngor sydd gynnoch chi ar sut dylen ni ateb y bobl hyn sydd wedi dweud wrtho i, ‘Gwna’r iau roddodd dy dad arnon ni yn ysgafnach’?” 10  Dywedodd y dynion ifanc oedd wedi tyfu i fyny* gydag ef: “Dyma beth dylet ti ei ddweud wrth y bobl sydd wedi dweud wrthot ti, ‘Mae dy dad wedi rhoi iau drom arnon ni, ond dylet ti ei hysgafnhau inni’; dyma beth dylet ti ei ddweud wrthyn nhw, ‘Bydd fy mys bach yn fwy trwchus na chluniau fy nhad. 11  Rhoddodd fy nhad faich trwm arnoch chi, ond bydda i’n ychwanegu at eich baich. Gwnaeth fy nhad eich cosbi chi â chwipiau, ond bydda i’n eich cosbi chi â chwipiau llawer gwaeth.’”* 12  Daeth Jeroboam a’r holl bobl at Rehoboam ar y trydydd diwrnod, yn union fel roedd y brenin wedi dweud: “Dewch yn ôl ata i ar y trydydd diwrnod.” 13  Ond dyma’r brenin yn eu hateb nhw’n llym. Felly gwrthododd y Brenin Rehoboam gyngor y dynion hŷn.* 14  Siaradodd â nhw yn ôl cyngor y dynion ifanc, gan ddweud: “Bydda i’n gwneud eich baich yn drymach, a bydda i’n ychwanegu ato. Gwnaeth fy nhad eich cosbi chi â chwipiau, ond bydda i’n eich cosbi chi â chwipiau llawer gwaeth.”* 15  Felly wnaeth y brenin ddim gwrando ar y bobl, oherwydd roedd y gwir Dduw wedi achosi hyn i gyd, er mwyn cyflawni’r addewid roddodd Jehofa i Jeroboam fab Nebat trwy Aheia o Seilo. 16  Ynglŷn ag Israel gyfan, am fod y brenin wedi gwrthod gwrando arnyn nhw, dyma nhw’n ateb y brenin: “Pa ran sydd gynnon ni yn Dafydd? Does gynnon ni ddim etifeddiaeth ym mab Jesse. Ewch, bob un ohonoch chi, yn ôl at eich duwiau, O Israel. Nawr edrycha ar ôl dy dŷ dy hun, O Dafydd!” Gyda hynny aeth Israel gyfan yn ôl i’w cartrefi. 17  Ond parhaodd Rehoboam i deyrnasu dros yr Israeliaid oedd yn byw yn ninasoedd Jwda. 18  Yna dyma’r Brenin Rehoboam yn anfon Hadoram, a oedd yn gyfrifol am y rhai oedd wedi cael eu gorfodi i lafurio i’r brenin, ond gwnaeth yr Israeliaid ei labyddio nes iddo farw. Llwyddodd y Brenin Rehoboam i ddringo i mewn i’w gerbyd a ffoi i Jerwsalem. 19  Ac mae’r Israeliaid wedi bod yn gwrthryfela yn erbyn tŷ Dafydd hyd heddiw.

Troednodiadau

Neu “henuriaid.”
Neu “yr henuriaid.”
Neu “tyfu lan.”
Neu “tyfu lan.”
Neu “â fflangellau.”
Neu “yr henuriaid.”
Neu “â fflangellau.”