Ail Cronicl 11:1-23
11 Unwaith i Rehoboam gyrraedd Jerwsalem, casglodd dŷ Jwda a Benjamin at ei gilydd, 180,000 o filwyr oedd wedi cael eu hyfforddi, i frwydro yn erbyn Israel er mwyn adfer y deyrnas i Rehoboam.
2 Yna daeth gair Jehofa at Semaia, dyn y gwir Dduw, gan ddweud:
3 “Dyweda wrth Rehoboam fab Solomon brenin Jwda ac wrth Israel gyfan yn Jwda a Benjamin,
4 ‘Dyma mae Jehofa yn ei ddweud: “Peidiwch â mynd i fyny a brwydro yn erbyn eich brodyr. Ewch, bob un ohonoch chi, yn ôl i’w dŷ, oherwydd y fi sydd wedi achosi i hyn ddigwydd.”’” Felly dyma nhw’n ufuddhau i air Jehofa ac yn mynd yn ôl adref, ac nid aethon nhw yn erbyn Jeroboam.
5 Roedd Rehoboam yn byw yn Jerwsalem ac adeiladodd ddinasoedd caerog yn Jwda.
6 Felly ailadeiladodd Bethlehem, Etam, Tecoa,
7 Beth-sur, Socho, Adulam,
8 Gath, Maresa, Siff,
9 Adoraim, Lachis, Aseca,
10 Sora, Ajalon, a Hebron, dinasoedd caerog a oedd yn Jwda a Benjamin.
11 Ar ben hynny, gwnaeth y dinasoedd caerog yn gryfach byth a rhoi arweinwyr ynddyn nhw ac anfon bwyd, olew, a gwin yno,
12 ac anfonodd darianau mawr a gwaywffyn i’r holl ddinasoedd gwahanol; gwnaeth nhw’n llefydd diogel iawn. A pharhaodd i deyrnasu dros Jwda a Benjamin.
13 A daeth yr offeiriaid a’r Lefiaid a oedd yn Israel gyfan i sefyll gydag ef, gan ddod allan o’u holl diriogaethau.
14 Gadawodd y Lefiaid eu tiroedd pori a’u heiddo a dod i Jwda a Jerwsalem, am fod Jeroboam a’i feibion wedi eu diswyddo nhw fel offeiriaid i Jehofa.
15 Yna penododd Jeroboam ei offeiriaid ei hun ar gyfer yr uchelfannau ac ar gyfer y cythreuliaid sydd fel geifr* ac ar gyfer y lloeau roedd ef wedi eu gwneud.
16 A dyma’r rhai o blith holl lwythau Israel a oedd yn dymuno yn eu calonnau i geisio Jehofa, Duw Israel, yn eu dilyn nhw i Jerwsalem i aberthu i Jehofa, Duw eu cyndadau.
17 Am dair blynedd roedden nhw’n cryfhau brenhiniaeth Jwda, ac yn cefnogi Rehoboam fab Solomon, gan ddilyn ôl traed Dafydd a Solomon am dair blynedd.
18 Yna priododd Rehoboam Mahalath, a oedd yn ferch i Jerimoth fab Dafydd ac i Abihail, merch Eliab fab Jesse.
19 Ymhen amser dyma hi’n geni meibion iddo: Jeus, Semareia, a Saham.
20 Ar ei hôl hi, priododd ef Maacha, wyres Absalom. Ymhen amser dyma hi’n geni Abeia, Attai, Sisa, a Selomith iddo.
21 O blith ei holl wragedd a’i wragedd eraill,* Maacha wyres Absalom a oedd yr un roedd Rehoboam yn ei charu fwyaf. Roedd ganddo 18 gwraig a 60 o wragedd eraill,* a daeth yn dad i 28 o feibion a 60 o ferched.
22 Felly dyma Rehoboam yn penodi Abeia fab Maacha yn bennaeth ac yn arweinydd dros ei frodyr, oherwydd roedd yn bwriadu ei wneud yn frenin.
23 Ond, gweithredodd yn ddoeth,* ac anfonodd* rai o’i feibion i holl ardaloedd Jwda a Benjamin, i bob dinas gaerog, a rhoddodd ddigonedd o fwyd iddyn nhw a dod o hyd i lawer o wragedd iddyn nhw.
Troednodiadau
^ Llyth., “y geifr.”
^ Neu “a’i wragedd gordderch,” hynny yw, gwragedd eilradd a oedd yn aml yn gaethferched.
^ Neu “o wragedd gordderch,” hynny yw, gwragedd eilradd a oedd yn aml yn gaethferched.
^ Neu “gyda dealltwriaeth.”
^ Neu “a gwasgarodd.”