Ail Cronicl 13:1-22

  • Abeia, brenin Jwda (1-22)

    • Abeia yn trechu Jeroboam (3-20)

13  Yn y ddeunawfed* flwyddyn o deyrnasiad y Brenin Jeroboam, daeth Abeia yn frenin ar Jwda. 2  Teyrnasodd am dair blynedd yn Jerwsalem. Enw ei fam oedd Michea ferch Uriel o Gibea. Ac roedd ’na ryfel rhwng Abeia a Jeroboam. 3  Felly aeth Abeia i ryfela gyda byddin o 400,000 o filwyr cryf a oedd wedi eu hyfforddi. A dyma Jeroboam yn trefnu ei fyddin i frwydro yn ei erbyn gydag 800,000 o ddynion wedi eu hyfforddi, milwyr cryf. 4  Yna safodd Abeia ar Fynydd Semaraim, sydd yn ardal fynyddig Effraim, a dywedodd: “Gwrandewch arna i, O Jeroboam ac Israel gyfan. 5  Onid ydych chi’n gwybod bod Jehofa, Duw Israel, wedi rhoi teyrnas Israel i Dafydd am byth, iddo ef ac i’w feibion, drwy gyfamod halen?* 6  Ond cododd Jeroboam fab Nebat, gwas Solomon fab Dafydd, a gwrthryfela yn erbyn ei arglwydd. 7  Ac roedd dynion diog a diwerth yn parhau i ymuno ag ef. A gwnaethon nhw lwyddo i wrthryfela yn erbyn Rehoboam fab Solomon pan oedd Rehoboam yn ifanc ac yn ofnus, a doedd ef ddim yn ddigon cryf i sefyll yn eu herbyn. 8  “Ac nawr rydych chi’n meddwl eich bod chi’n gallu gwrthsefyll teyrnas Jehofa sydd yn nwylo meibion Dafydd am eich bod chi’n dyrfa fawr ac am fod gynnoch chi’r lloeau aur a wnaeth Jeroboam yn dduwiau ichi. 9  Onid ydych chi wedi gyrru allan offeiriaid Jehofa, disgynyddion Aaron, a’r Lefiaid, ac wedi penodi offeiriaid drostoch chi’ch hunain yn union fel mae pobl y gwledydd eraill wedi gwneud? Roedd unrhyw un a oedd yn dod â tharw ifanc a saith o hyrddod* yn gallu dod yn offeiriad i gau dduwiau. 10  O’n rhan ni, Jehofa yw ein Duw, a dydyn ni ddim wedi cefnu arno; mae ein hoffeiriaid, disgynyddion Aaron, yn gwasanaethu Jehofa, ac mae’r Lefiaid yn helpu gyda’r gwaith. 11  Maen nhw’n gwneud i fwg godi oddi ar yr offrymau llosg i Jehofa bob bore a phob noswaith, ynghyd â’r arogldarth persawrus, ac maen nhw’n gosod y bara wedi ei gyflwyno i Dduw* ar y bwrdd sydd wedi ei wneud o aur pur, ac maen nhw’n goleuo’r canhwyllbren aur a’i lampau bob noswaith, oherwydd rydyn ni’n cyflawni ein cyfrifoldeb i Jehofa ein Duw; ond rydych chi wedi cefnu arno. 12  Nawr edrychwch! mae’r gwir Dduw gyda ni, yn ein harwain ni, gyda’i offeiriaid sydd â thrwmpedi er mwyn galw brwydr yn eich erbyn chi. O ddynion Israel, peidiwch ag ymladd yn erbyn Jehofa, Duw eich cyndadau, oherwydd fyddwch chi ddim yn llwyddiannus.” 13  Ond anfonodd Jeroboam grŵp o filwyr i guddio y tu ôl iddyn nhw yn barod i ymosod, fel bod y rhan fwyaf o’r fyddin o flaen Jwda, ac roedd y gweddill yn dod i ymosod arnyn nhw o’r tu ôl. 14  Pan drodd dynion Jwda o gwmpas, gwelson nhw fod milwyr yn ymosod arnyn nhw o’r tu blaen ac o’r tu ôl. Felly dechreuon nhw weiddi allan ar Jehofa, tra oedd yr offeiriaid yn canu’r trwmpedi yn uchel. 15  Gwaeddodd dynion Jwda floedd ryfel, a phan wnaethon nhw hynny dyma’r gwir Dduw yn trechu Jeroboam ac Israel gyfan o flaen Abeia a Jwda. 16  Dyma’r Israeliaid yn ffoi o flaen Jwda, a rhoddodd Duw nhw yn eu dwylo. 17  Gwnaeth Abeia a’i bobl ladd llawer iawn ohonyn nhw, a bu farw 500,000 o ddynion Israel a oedd wedi eu hyfforddi. 18  Felly cafodd dynion Israel eu cywilyddio a’u trechu bryd hynny, ond cafodd dynion Jwda fuddugoliaeth am eu bod nhw wedi dibynnu ar Jehofa, Duw eu cyndadau. 19  Parhaodd Abeia i fynd ar ôl Jeroboam a chipio dinasoedd oddi wrtho, Bethel a’i threfi cyfagos, Jesana a’i threfi cyfagos, ac Effrain a’i threfi cyfagos. 20  Ni wnaeth Jeroboam erioed adennill ei nerth yn ystod adeg Abeia; yna gwnaeth Jehofa ei daro i lawr a bu farw. 21  Ond daeth Abeia yn gryfach. Ymhen amser priododd 14 o wragedd, a daeth yn dad i 22 mab ac 16 merch. 22  Ac mae gweddill hanes Abeia, ei weithredoedd a’i eiriau, wedi ei gofnodi yn ysgrifau y proffwyd Ido.

Troednodiadau

Neu “18fed.”
Hynny yw, cyfamod parhaol sydd ddim yn gallu cael ei newid.
Neu “o feheryn.”
Neu “y bara gosod.”