Ail Cronicl 14:1-15
14 Yna bu farw Abeia,* a gwnaethon nhw ei gladdu yn Ninas Dafydd, a daeth ei fab Asa yn frenin yn ei le. A chafodd y wlad orffwys am ddeng mlynedd yn ystod ei ddyddiau.
2 Gwnaeth Asa beth oedd yn iawn ac yn dda yng ngolwg Jehofa ei Dduw.
3 Cafodd wared ar allorau y duwiau estron a’r uchelfannau, malodd y colofnau cysegredig, a thorrodd y polion cysegredig i lawr.
4 Ar ben hynny, gwnaeth ef annog Jwda i geisio Jehofa, Duw eu cyndadau, ac i gadw’r Gyfraith a’i holl orchmynion.
5 Cafodd wared ar yr uchelfannau a’r allorau arogldarth o holl ddinasoedd Jwda, ac o dan ei deyrnasiad, parhaodd y deyrnas mewn heddwch.
6 Adeiladodd ddinasoedd caerog yn Jwda, gan fod y wlad mewn cyfnod o heddwch, a doedd ’na ddim rhyfel yn ei erbyn yn ystod y blynyddoedd hyn, oherwydd roedd Jehofa wedi rhoi gorffwys iddo.
7 Dywedodd wrth Jwda: “Dewch inni adeiladu’r dinasoedd hyn a’u hamgylchynu nhw â waliau, tyrau, giatiau, a barrau, oherwydd mae’r wlad yn dal o dan ein rheolaeth, am ein bod ni wedi ceisio Jehofa ein Duw. Rydyn ni wedi ei geisio, ac mae ef wedi rhoi llonydd inni oddi wrth bawb o’n cwmpas.” Felly roedd eu gwaith adeiladu yn llwyddiannus.
8 Roedd gan Asa fyddin o 300,000 o ddynion Jwda, wedi eu harfogi â tharianau mawr a gwaywffyn. Ac o blith llwyth Benjamin, roedd ’na 280,000 o filwyr cryf yn cario bwcleri* ac wedi eu harfogi â bwâu.
9 Yn hwyrach ymlaen, daeth Sera yr Ethiopiad yn eu herbyn nhw gyda byddin o 1,000,000 o ddynion a 300 o gerbydau. Pan gyrhaeddodd ef Maresa,
10 aeth Asa allan yn ei erbyn, a gwnaethon nhw eu trefnu eu hunain yn barod i frwydro yn Nyffryn Seffatha ym Maresa.
11 Yna galwodd Asa ar Jehofa ei Dduw a dweud: “O Jehofa, dydy hi ddim yn gwneud gwahaniaeth i ti p’un a ydy’r rhai rwyt ti’n eu helpu yn gryf* neu’n wan. Helpa ni, O Jehofa ein Duw, oherwydd rydyn ni’n dibynnu arnat ti, ac rydyn ni wedi dod yn erbyn y dyrfa hon yn dy enw di. O Jehofa, ti yw ein Duw. Paid â gadael i ddynion meidrol lwyddo yn dy erbyn di.”
12 Felly trechodd Jehofa’r Ethiopiaid o flaen Asa ac o flaen Jwda, a dyma’r Ethiopiaid yn ffoi.
13 Aeth Asa a’r bobl oedd gydag ef ar eu holau nhw mor bell â Gerar, a pharhaodd yr Ethiopiaid i syrthio nes bod pob un ohonyn nhw wedi marw, oherwydd roedden nhw wedi cael eu sathru gan Jehofa a’i fyddin. Yna aethon nhw i ffwrdd gyda llawer iawn o ysbail.
14 Ar ben hynny, dyma nhw’n taro’r holl ddinasoedd o gwmpas Gerar, am fod ofn Jehofa wedi dod arnyn nhw; a gwnaethon nhw ysbeilio’r holl ddinasoedd, oherwydd roedd ’na lawer o ysbail ynddyn nhw.
15 Gwnaethon nhw hefyd ymosod ar bebyll y rhai oedd ag anifeiliaid, a chipio llawer iawn o breiddiau a chamelod cyn mynd yn ôl i Jerwsalem.
Troednodiadau
^ Neu “Yna gorweddodd Abeia i lawr i orffwys gyda’i gyndadau.”
^ Tarianau bach oedd yn aml yn cael eu cario gan fwasaethwyr.
^ Llyth., “niferus.”