Ail Cronicl 15:1-19

  • Newidiadau Asa (1-19)

15  Nawr daeth ysbryd Duw ar Asareia fab Oded. 2  Felly aeth allan i gyfarfod Asa, a dywedodd wrtho: “Gwrandewch arna i, O Asa a holl Jwda a Benjamin! Bydd Jehofa gyda chi cyn belled â’ch bod chi’n aros gydag ef; ac os ydych chi’n chwilio amdano bydd ef yn gadael i chi ddod o hyd iddo, ond os ydych chi’n cefnu arno bydd ef yn cefnu arnoch chi. 3  Roedd Israel wedi bod heb y gwir Dduw, heb offeiriad yn dysgu, a heb gyfraith am amser hir. 4  Ond pan wnaethon nhw droi yn ôl yn eu helynt at Jehofa, Duw Israel, a chwilio amdano, gadawodd iddyn nhw ddod o hyd iddo. 5  Ar yr adeg honno, doedd neb yn gallu teithio o gwmpas yn ddiogel, oherwydd roedd ’na lawer o aflonyddwch ymysg yr holl bobl yn y gwahanol ardaloedd o’r wlad. 6  Roedd cenedl yn dinistrio cenedl, a dinas yn dinistrio dinas, oherwydd achosodd Duw anhrefn rhyngddyn nhw drwy bob math o helyntion. 7  Ond chithau, byddwch yn gryf a pheidiwch â digalonni, oherwydd bydd eich gweithredoedd yn cael eu gwobrwyo.” 8  Gwnaeth y geiriau hyn a phroffwydoliaeth Oded y proffwyd roi hyder i Asa, felly cafodd wared ar yr eilunod ffiaidd allan o holl wlad Jwda a Benjamin ac allan o’r dinasoedd roedd ef wedi eu cipio o ardal fynyddig Effraim, ac adnewyddodd allor Jehofa a oedd o flaen cyntedd Jehofa. 9  A chasglodd holl Jwda a Benjamin at ei gilydd, yn ogystal â’r estroniaid a oedd gyda nhw o blith Effraim, Manasse, a Simeon, oherwydd roedd nifer mawr ohonyn nhw wedi cefnu ar Israel ac ochri gydag ef pan welson nhw fod Jehofa ei Dduw gydag ef. 10  Felly cawson nhw eu casglu at ei gilydd yn Jerwsalem, yn y trydydd mis o’r bymthegfed* flwyddyn o deyrnasiad Asa. 11  Ar y diwrnod hwnnw gwnaethon nhw aberthu 700 o wartheg a 7,000 o ddefaid i Jehofa o’r ysbail oedd ganddyn nhw. 12  Ar ben hynny, gwnaethon nhw gyfamod i geisio Jehofa, Duw eu cyndadau, â’u holl galon ac â’u holl enaid.* 13  Roedd pwy bynnag oedd yn gwrthod ceisio Jehofa, Duw Israel, i’w gael ei ladd, naill ai’n fach neu’n fawr, yn ddyn neu’n ddynes.* 14  Felly dyma nhw’n tyngu llw i Jehofa â llais uchel, gan weiddi’n llawen a gyda thrwmpedi a chyrn. 15  Ac roedd Jwda gyfan yn llawenhau oherwydd y llw, am eu bod nhw wedi tyngu’r llw â’u holl galon ac wedi ceisio Duw yn frwd, a gadawodd iddyn nhw ddod o hyd iddo, a pharhaodd Jehofa i roi llonydd iddyn nhw oddi wrth bawb o’u cwmpas. 16  Gwnaeth y brenin Asa hyd yn oed ddiswyddo ei nain* Maacha o fod yn fam frenhines, am ei bod hi wedi gwneud eilun anweddus i’w addoli ynghyd â’r polyn cysegredig. Torrodd Asa ei heilun anweddus i lawr a’i falu’n llwch a’i losgi yn Nyffryn Cidron. 17  Ond ni chafodd wared ar yr uchelfannau a oedd yn Israel. Er hynny, roedd calon Asa yn hollol ffyddlon* drwy gydol ei fywyd. 18  A daeth â’r pethau roedd ef a’i dad wedi eu sancteiddio i mewn i dŷ’r gwir Dduw—arian, aur, a gwahanol lestri. 19  Doedd ’na ddim rhyfel tan y bymthegfed flwyddyn ar hugain* o deyrnasiad Asa.

Troednodiadau

Neu “15fed.”
Gweler Geirfa.
Neu “neu’n fenyw.”
Neu “ei fam-gu.”
Neu “yn gyflawn.”
Neu “35ain flwyddyn.”