Ail Cronicl 17:1-19

  • Jehosaffat, brenin Jwda (1-6)

  • Ymgyrch i ddysgu’r bobl (7-9)

  • Grym milwrol Jehosaffat (10-19)

17  A daeth ei fab Jehosaffat yn frenin yn ei le, a chryfhaodd ei awdurdod dros Israel. 2  Gosododd filwyr yn holl ddinasoedd caerog Jwda, a rhoddodd garsiynau yng ngwlad Jwda ac yn y dinasoedd roedd Asa ei dad wedi eu cipio yn Effraim. 3  Parhaodd Jehofa i fod gyda Jehosaffat, am ei fod wedi dilyn ôl traed ei gyndad Dafydd, a wnaeth ef ddim ceisio’r duwiau Baal. 4  Roedd yn ceisio Duw ei dad, a dilynodd Ei orchymyn yn hytrach nag arferion Israel. 5  Sicrhaodd Jehofa fod y deyrnas wedi ei sefydlu’n gadarn yn ei ddwylo; a pharhaodd Jwda gyfan i roi anrhegion i Jehosaffat, ac roedd yn gyfoethog iawn ac yn cael ei anrhydeddu’n fawr. 6  Roedd yn hyderus wrth ddilyn ffyrdd Jehofa, a gwnaeth ef hyd yn oed gael gwared ar yr uchelfannau a’r polion cysegredig allan o Jwda. 7  Yn y drydedd flwyddyn o’i deyrnasiad, galwodd am ei dywysogion—Ben-hail, Obadeia, Sechareia, Nethanel, a Michea—a’u hanfon nhw i ddysgu yn ninasoedd Jwda. 8  Roedd ’na Lefiaid gyda nhw: Semaia, Nethaneia, Sebadeia, Asahel, Semiramoth, Jehonathan, Adoneia, Tobeia, a Tob-adoneia, ynghyd ag Elisama a Jehoram yr offeiriaid. 9  Dechreuon nhw ddysgu eraill yn Jwda, gan fynd â llyfr Cyfraith Jehofa gyda nhw, ac aethon nhw drwy holl ddinasoedd Jwda yn dysgu’r bobl. 10  A daeth ofn Jehofa ar holl deyrnasoedd y gwledydd o amgylch Jwda, ac ni wnaethon nhw frwydro yn erbyn Jehosaffat. 11  A daeth y Philistiaid ag anrhegion ac arian at Jehosaffat fel treth. Daeth yr Arabiaid â 7,700 o hyrddod* a 7,700 bwch gafr o’u preiddiau. 12  Daeth Jehosaffat yn fwy ac yn fwy pwerus, a pharhaodd i adeiladu llefydd caerog, a dinasoedd i storio nwyddau yn Jwda. 13  Roedd ganddo brosiectau mawr yn ninasoedd Jwda, yn ogystal â milwyr cryf yn Jerwsalem. 14  Roedd y rhain wedi eu trefnu yn ôl eu grwpiau o deuluoedd: o blith llwyth Jwda roedd ’na benaethiaid ar filoedd, y cyntaf oedd Adna y pennaeth, ac roedd ’na 300,000 o filwyr cryf gydag ef. 15  Roedd Jehohanan y pennaeth o dan ei awdurdod, ac roedd ’na 280,000 gydag ef. 16  Roedd Amaseia fab Sicri hefyd o dan ei awdurdod, a gwnaeth ef wirfoddoli i wasanaethu Jehofa, ac roedd ’na 200,000 o filwyr cryf gydag ef. 17  Ac o blith llwyth Benjamin roedd ’na Eliada, milwr cryf, a gydag ef roedd ’na 200,000 o ddynion wedi eu harfogi â’r bwa a’r darian. 18  Ac roedd Jehosabad o dan ei awdurdod, a gydag ef roedd ’na 180,000 o ddynion wedi eu harfogi ar gyfer brwydro. 19  Roedd y rhain yn gwasanaethu’r brenin ynghyd â’r rhai roedd y brenin wedi eu rhoi yn y dinasoedd caerog drwy Jwda i gyd.

Troednodiadau

Neu “o feheryn.”