Ail Cronicl 18:1-34
18 Roedd Jehosaffat yn gyfoethog iawn ac roedd yn cael ei anrhydeddu’n fawr, ond trefnodd i rywun o’i deulu briodi rhywun o deulu Ahab.
2 Felly flynyddoedd wedyn, aeth i lawr at Ahab yn Samaria, ac aberthodd Ahab lawer iawn o ddefaid a gwartheg ar ei ran ac ar ran y bobl a oedd gydag ef. A gwnaeth ef ei annog* i fynd i fyny yn erbyn Ramoth-gilead.
3 Yna dywedodd Ahab, brenin Israel, wrth Jehosaffat, brenin Jwda: “A wnei di fynd gyda mi i Ramoth-gilead?” Atebodd: “Rwyt ti a fi yn un, ac mae dy bobl di a fy mhobl i hefyd yn un, a byddwn ni’n dy gefnogi di yn y rhyfel.”
4 Ond dywedodd Jehosaffat wrth frenin Israel: “Yn gyntaf, plîs gofynna am arweiniad Jehofa.”
5 Felly dyma frenin Israel yn casglu’r proffwydi at ei gilydd, 400 o ddynion, ac yn dweud wrthyn nhw: “A ddylwn i fynd i ryfela yn erbyn Ramoth-gilead neu beidio?” Dywedon nhw: “Dos i fyny, a bydd y gwir Dduw yn ei rhoi yn nwylo’r brenin.”
6 Yna dywedodd Jehosaffat: “Onid oes ’na un o broffwydi Jehofa yma? Gad inni fynd i ofyn am arweiniad Duw drwyddo ef hefyd.”
7 Gyda hynny, dywedodd brenin Israel wrth Jehosaffat: “Mae ’na un dyn arall y gallwn ni ofyn am arweiniad Jehofa drwyddo; ond rydw i’n ei gasáu oherwydd dydy ef byth yn proffwydo pethau da ynglŷn â fi, dim ond pethau drwg o hyd. Ei enw yw Michea fab Imla.” Ond dywedodd Jehosaffat: “Ddylai’r brenin ddim dweud y fath beth.”
8 Felly galwodd brenin Israel am un o swyddogion y llys a dweud: “Tyrd â Michea fab Imla yma yn gyflym.”
9 Nawr roedd brenin Israel a Jehosaffat brenin Jwda yn eistedd ar eu gorseddau yn gwisgo eu dillad brenhinol; roedden nhw’n eistedd wrth y llawr dyrnu a oedd wrth fynedfa porth Samaria, ac roedd y proffwydi i gyd yn proffwydo o’u blaenau nhw.
10 Yna dyma Sedeceia fab Cenaana yn gwneud cyrn haearn iddo’i hun ac yn dweud: “Dyma mae Jehofa yn ei ddweud, ‘Byddi di’n defnyddio’r rhain i daro’r Syriaid* nes iti gael gwared arnyn nhw yn gyfan gwbl.’”
11 Roedd y proffwydi eraill i gyd yn proffwydo yn yr un ffordd, gan ddweud: “Dos i fyny i Ramoth-gilead a byddi di’n llwyddiannus; bydd Jehofa yn ei rhoi yn nwylo’r brenin.”
12 Felly dyma’r negesydd a oedd wedi mynd i alw am Michea yn dweud wrtho: “Edrycha! Mae’r proffwydi i gyd yn dweud pethau da wrth y brenin. Plîs gad i dy air di fod fel eu geiriau nhw, a dyweda bethau da.”
13 Ond dywedodd Michea: “Mor sicr â’r ffaith fod Jehofa yn fyw, bydda i’n dweud beth bynnag mae fy Nuw yn ei ddweud.”
14 Yna aeth i mewn at y brenin, a gofynnodd y brenin iddo: “Michea, a ddylwn i fynd i ryfela yn erbyn Ramoth-gilead, neu beidio?” Ar unwaith atebodd: “Dos i fyny a byddi di’n llwyddiannus; byddan nhw’n cael eu rhoi yn eich dwylo.”
15 Gyda hynny, dywedodd y brenin wrtho: “Sawl gwaith sydd rhaid imi dy roi di o dan lw i beidio â dweud unrhyw beth wrtho i heblaw am y gwir yn enw Jehofa?”
16 Felly dywedodd Michea: “Rydw i’n gweld yr Israeliaid i gyd wedi eu gwasgaru ar y mynyddoedd, fel defaid heb fugail. Dywedodd Jehofa: ‘Does gan y rhain ddim meistr. Gad i bob un fynd yn ôl i’w dŷ mewn heddwch.’”
17 Yna dywedodd brenin Israel wrth Jehosaffat: “Oni wnes i ddweud wrthot ti na fyddai’n proffwydo pethau da ynglŷn â fi, dim ond pethau drwg?”
18 Yna dywedodd Michea: “Felly gwranda ar air Jehofa: Gwelais Jehofa yn eistedd ar ei orsedd a holl fyddin y nefoedd yn sefyll ar ei ochr dde ac ar ei ochr chwith.
19 Yna dywedodd Jehofa, ‘Pwy fydd yn twyllo Ahab brenin Israel fel y bydd yn mynd i fyny ac yn syrthio yn Ramoth-gilead?’ Ac roedd un angel yn dweud un peth tra oedd angel arall yn dweud rhywbeth arall.
20 Yna daeth ysbryd* ymlaen a sefyll o flaen Jehofa a dweud, ‘Gwna i ei dwyllo.’ Gofynnodd Jehofa iddo, ‘Sut byddi di’n gwneud hynny?’
21 Atebodd, ‘Bydda i’n mynd allan ac yn gwneud i’r proffwydi i gyd ddweud celwyddau.’ Felly dywedodd Ef, ‘Byddi di’n ei dwyllo, ac yn fwy na hynny, byddi di’n llwyddiannus. Dos allan a gwna hynny.’
22 Dyna pam mae Jehofa wedi gadael i angel wneud i’r proffwydi hyn ddweud celwyddau wrthot ti, ond mae Jehofa wedi datgan y bydd rhywbeth ofnadwy yn digwydd iti.”
23 Yna, aeth Sedeceia fab Cenaana at Michea a’i daro ar ei foch a dweud: “A wyt ti’n dweud bod nerth Jehofa wedi fy ngadael i ac nawr yn siarad â ti?”
24 Atebodd Michea: “Edrycha! Cei di weld ar y diwrnod pan fyddi di’n mynd i mewn i’r ystafell fewnol i guddio.”
25 Yna dywedodd brenin Israel: “Cymera Michea a’i roi drosodd i Amon, pennaeth y ddinas, ac i Joas, mab y brenin.
26 Dyweda wrthyn nhw, ‘Dyma mae’r brenin yn ei ddweud: “Rhowch y dyn hwn yn y carchar a rhowch ddim ond ychydig o fara a dŵr iddo nes imi ddod yn ôl mewn heddwch.”’”
27 Ond dywedodd Michea: “Os byddi di’n dod yn ôl mewn heddwch, dydy Jehofa ddim wedi siarad â fi.” Yna ychwanegodd: “Cymerwch sylw, chi bobl i gyd.”
28 Felly aeth brenin Israel a Jehosaffat brenin Jwda i fyny i Ramoth-gilead.
29 Yna dywedodd brenin Israel wrth Jehosaffat: “Gwna i guddio pwy ydw i, a mynd i mewn i’r frwydr, ond dylet ti wisgo dy wisg frenhinol.” Felly dyma frenin Israel yn newid ei ddillad fel na fyddai’n cael ei adnabod ac aeth i mewn i’r frwydr.
30 Nawr roedd brenin Syria wedi gorchymyn i’w arweinwyr cerbydau: “Peidiwch ag ymladd â neb, yn fach neu’n fawr, heblaw am frenin Israel.”
31 Ac unwaith i’r arweinwyr cerbydau weld Jehosaffat, dywedon nhw wrthyn nhw eu hunain: “Brenin Israel yw hwn.” Felly gwnaethon nhw droi i ymladd yn ei erbyn; a dechreuodd Jehosaffat weiddi am help. Felly dyma Jehofa yn ei helpu, ac ar unwaith, dyma Duw yn gwneud iddyn nhw droi oddi wrtho.
32 Pan welodd yr arweinwyr cerbydau nad brenin Israel oedd ef, dyma nhw’n troi yn ôl ar unwaith rhag ei ddilyn.
33 Ond gwnaeth un dyn saethu ei fwa ar hap, a tharo brenin Israel mewn bwlch rhwng ei lurig a gweddill ei arfwisg. Felly dywedodd y brenin wrth yrrwr ei gerbyd: “Tro yn ôl a chymera fi allan o’r frwydr, oherwydd rydw i wedi cael fy anafu’n ddrwg.”
34 Roedd y frwydr yn ffyrnig drwy’r diwrnod hwnnw. Roedd y brenin yn ei gerbyd ac roedd rhaid iddyn nhw ei ddal ar ei draed nes iddi ddechrau nosi, er mwyn iddo allu gweld y Syriaid; a bu farw wrth i’r haul fachlud.