Ail Cronicl 19:1-11
19 Yna aeth Jehosaffat brenin Jwda yn ôl yn saff* i’w dŷ* ei hun yn Jerwsalem.
2 Aeth Jehu fab Hanani y gweledydd allan i’w gyfarfod a dywedodd wrth y Brenin Jehosaffat: “Ai’r drygionus y dylet ti eu helpu, ac ai’r rhai sy’n casáu Jehofa y dylet ti eu caru? Oherwydd hyn mae dicter Jehofa yn dy erbyn di.
3 Er hynny, mae Duw wedi dod o hyd i ddaioni yn dy galon, am dy fod ti wedi cael gwared ar y polion cysegredig allan o’r wlad ac rwyt ti wedi paratoi dy galon* i geisio’r gwir Dduw.”
4 Parhaodd Jehosaffat i fyw yn Jerwsalem, ac aeth allan ymysg y bobl unwaith eto o Beer-seba i ardal fynyddig Effraim, er mwyn dod â nhw yn ôl at Jehofa, Duw eu cyndadau.
5 Hefyd penododd farnwyr drwy’r wlad i gyd ym mhob un o ddinasoedd caerog Jwda.
6 A dywedodd wrth y barnwyr: “Talwch sylw i beth rydych chi’n ei wneud, oherwydd rydych chi’n barnu yn enw Jehofa, ac nid yn enw dyn, ac mae ef gyda chi wrth ichi farnu.
7 Mae’n rhaid ichi ofni Jehofa. Byddwch yn ofalus beth rydych chi’n ei wneud, oherwydd dydy Jehofa ein Duw ddim yn goddef anghyfiawnder na ffafriaeth, nac yn derbyn breibiau.”
8 Hefyd, yn Jerwsalem, penododd Jehosaffat rai o’r Lefiaid a’r offeiriaid a rhai o bennau teuluoedd estynedig Israel i wasanaethu fel barnwyr ar gyfer enw Jehofa ac er mwyn setlo achosion cyfreithiol ar gyfer pobl Jerwsalem.
9 A gorchmynnodd iddyn nhw: “Dyma beth dylech chi ei wneud yn ofn Jehofa, gyda ffyddlondeb a chalon gyflawn:*
10 Bryd bynnag mae eich brodyr sy’n byw yn eu dinasoedd yn dod ag achos cyfreithiol sy’n ymwneud â thywallt* gwaed neu gwestiwn am gyfraith, gorchymyn, deddfau, neu farnedigaethau, dylech chi eu rhybuddio nhw fel na fyddan nhw’n euog o flaen Jehofa; neu fel arall bydd ei ddicter yn dod yn eich erbyn chi a’ch brodyr. Dyna beth dylech chi ei wneud, er mwyn ichi beidio â bod yn euog.
11 Amareia y prif offeiriad yw eich arolygwr ar gyfer popeth sy’n ymwneud ag addoliad Jehofa. Sebadeia fab Ismael sy’n bennaeth ar dŷ Jwda ar gyfer popeth sy’n ymwneud â chyfraith y brenin. A bydd y Lefiaid yn gwasanaethu fel swyddogion i chi. Byddwch yn gryf a gweithredwch, a bydd Jehofa gyda’r rhai sy’n gwneud beth sy’n dda.”
Troednodiadau
^ Neu “mewn heddwch.”
^ Neu “i’w balas.”
^ Neu “ac mae dy galon yn benderfynol.”
^ Neu “a chalon hollol ffyddlon:”
^ Neu “ag arllwys.”