Ail Cronicl 2:1-18
-
Paratoi ar gyfer adeiladu’r deml (1-18)
2 Nawr dyma Solomon yn rhoi’r gorchymyn i adeiladu tŷ ar gyfer enw Jehofa a thŷ* ar gyfer ei deyrnas ei hun.
2 Dewisodd Solomon 70,000 o ddynion fel llafurwyr cyffredin, 80,000 o ddynion i naddu cerrig yn y mynyddoedd, a 3,600 fel arolygwyr drostyn nhw.
3 Hefyd, anfonodd Solomon neges at Hiram, brenin Tyrus gan ddweud: “Gwnest ti anfon coed cedrwydd at fy nhad Dafydd er mwyn iddo adeiladu tŷ* i fyw ynddo, nawr plîs gwna yr un fath ar fy nghyfer i.
4 Rydw i’n adeiladu tŷ ar gyfer enw Jehofa fy Nuw, er mwyn ei sancteiddio iddo ef, er mwyn llosgi arogldarth persawrus o’i flaen, er mwyn i’r bara sydd wedi ei gyflwyno i Dduw* fod yno’n gyson, ac er mwyn cyflwyno’r offrymau llosg, yn y bore a gyda’r nos, ar y Sabothau, ar y lleuadau newydd, ac yn ystod tymhorau gwyliau Jehofa ein Duw. Mae’n rhaid i bobl Israel wneud hyn am byth.
5 Bydd y tŷ rydw i’n ei adeiladu yn fendigedig, oherwydd mae ein Duw ni yn fwy na phob duw arall.
6 A phwy all adeiladu tŷ iddo? Oherwydd ni all y nefoedd, na nefoedd y nefoedd ei ddal, felly pwy ydw i i adeiladu tŷ iddo? Yr unig beth galla i ei wneud ydy adeiladu rhywle i losgi aberthau o’i flaen.
7 Nawr anfona grefftwr medrus ata i, i weithio mewn aur, arian, copr, haearn, gwlân porffor, ac edau coch a glas, un sydd hefyd yn gwybod sut i gerfio addurniadau. Bydd yn gweithio yn Jwda ac yn Jerwsalem gyda fy nghrefftwyr medrus, y rhai mae fy nhad Dafydd wedi eu darparu.
8 Ac anfona goed cedrwydd, meryw, a sandalwydd* o Lebanon ata i hefyd, oherwydd rydw i’n gwybod yn iawn fod gan dy weision lawer o brofiad o dorri coed o Lebanon i lawr. Bydd fy ngweision i yn gweithio gyda dy weision di
9 er mwyn paratoi nifer enfawr o goed imi, oherwydd bydd y tŷ rydw i am ei adeiladu yn fendigedig ac yn hardd iawn.
10 Nawr edrycha! Bydda i’n darparu bwyd ar gyfer dy weision, y rhai sy’n torri’r coed i lawr: 20,000 mesur corus* o wenith, 20,000 mesur corus o haidd, 20,000 mesur bath* o win, ac 20,000 mesur bath o olew.”
11 Gyda hynny anfonodd Hiram, brenin Tyrus, y neges ysgrifenedig hon at Solomon: “Am fod Jehofa yn caru ei bobl, mae ef wedi dy wneud di’n frenin arnyn nhw.”
12 Yna dywedodd Hiram: “Clod i Jehofa, Duw Israel, yr un a greodd y nefoedd a’r ddaear, am ei fod wedi rhoi mab doeth i’r Brenin Dafydd, un sy’n llawn dealltwriaeth a dirnadaeth, ac a fydd yn adeiladu tŷ ar gyfer Jehofa a thŷ ar gyfer ei deyrnas ei hun.
13 Nawr rydw i’n anfon Hiram-abi atat ti, sy’n grefftwr medrus, ac yn arbenigwr yn ei waith.
14 Mae ei fam yn dod o lwyth Dan ond roedd ei dad yn dod o Tyrus; mae ganddo lawer o brofiad o weithio mewn aur, arian, copr, haearn, cerrig, pren, gwlân porffor, edau coch a glas, a lliain main. Mae’n gallu gwneud pob math o waith cerfio, ac yn gallu creu unrhyw ddyluniad sy’n cael ei roi iddo. Bydd yn gweithio gyda dy grefftwyr medrus dy hun, a gyda chrefftwyr medrus fy arglwydd Dafydd dy dad.
15 Nawr gad i ti, fy arglwydd, anfon y gwenith, yr haidd, yr olew, a’r gwin mae ef wedi eu haddo i’w weision.
16 A byddwn ni’n torri coed o Lebanon i lawr, cymaint ag sydd ei angen arnat ti, a byddwn ni’n gwneud rafftiau â nhw ac yn dod â nhw dros y môr atat ti i Jopa; a byddi di’n mynd â nhw i fyny i Jerwsalem.”
17 Yna gwnaeth Solomon gyfrifiad o’r holl ddynion a oedd yn estroniaid yng ngwlad Israel, yn union fel gwnaeth ei dad Dafydd, a’r cyfanswm oedd 153,600.
18 Felly aseiniodd 70,000 ohonyn nhw fel llafurwyr cyffredin, 80,000 i naddu cerrig yn y mynyddoedd, a 3,600 fel arolygwyr a oedd yn sicrhau bod y gwaith yn cael ei gwblhau.
Troednodiadau
^ Neu “a phalas.”
^ Neu “palas.”
^ Neu “bara gosod.”
^ Hynny yw, coed almug.
^ Roedd un corus yn gyfartal â 220 L.
^ Roedd un bath yn gyfartal â 22 L (4.84 gal).