Ail Cronicl 23:1-21

  • Jehoiada yn ymyrryd; Jehoas yn cael ei wneud yn frenin (1-11)

  • Athaleia yn cael ei lladd (12-15)

  • Newidiadau Jehoiada (16-21)

23  Yn y seithfed flwyddyn, gweithredodd Jehoiada yn ddewr a gwneud cytundeb* â’r penaethiaid ar gannoedd, sef Asareia fab Jeroham, Ismael fab Jehohanan, Asareia fab Obed, Maaseia fab Adaia, ac Elisaffat fab Sicri. 2  Yna aethon nhw drwy Jwda gyfan a chasglu pennau teuluoedd estynedig Israel yn ogystal â’r Lefiaid o holl ddinasoedd Jwda. Pan ddaethon nhw i Jerwsalem, 3  gwnaeth y gynulleidfa gyfan gyfamod â’r brenin yn nhŷ’r gwir Dduw, ac ar ôl hynny dywedodd Jehoiada wrthyn nhw: “Edrychwch! Bydd mab y brenin yn teyrnasu, yn union fel gwnaeth Jehofa addo ynglŷn â meibion Dafydd. 4  Dyma beth dylech chi ei wneud: Bydd traean o’r offeiriaid ac o’r Lefiaid a fydd ar ddyletswydd ar y Saboth yn gwarchod y drysau; 5  bydd traean arall wrth dŷ’r brenin,* a bydd y traean olaf wrth Borth y Sylfaen, a bydd y bobl i gyd yng nghyrtiau tŷ Jehofa. 6  Peidiwch â gadael i unrhyw un ddod i mewn i dŷ Jehofa heblaw am yr offeiriaid a’r Lefiaid sy’n gwasanaethu. Bydd y rhain yn cael dod i mewn am eu bod nhw’n grŵp sanctaidd, a bydd y bobl i gyd yn dilyn gorchymyn Jehofa. 7  Mae’n rhaid i’r Lefiaid amgylchynu’r brenin ar bob ochr, pob un gyda’i arfau yn ei law. Bydd unrhyw un sy’n mynd i mewn i’r tŷ yn cael ei ladd. Arhoswch gyda’r brenin ble bynnag mae’n mynd.” 8  Dyma’r Lefiaid a Jwda gyfan yn gwneud yn union fel roedd Jehoiada yr offeiriad wedi gorchymyn. Felly cymerodd pob un ei ddynion oedd ar ddyletswydd ar y Saboth, yn ogystal â’r rhai nad oedden nhw ar ddyletswydd ar y Saboth, oherwydd doedd Jehoiada yr offeiriad ddim wedi rhyddhau’r grwpiau o’u dyletswyddau. 9  Yna gwnaeth Jehoiada yr offeiriad gymryd y gwaywffyn, y bwcleri,* a’r tarianau crwn a oedd yn arfer perthyn i’r Brenin Dafydd, y rhai a oedd yn nhŷ’r gwir Dduw, a’u rhoi nhw i’r penaethiaid ar gannoedd. 10  Yna gosododd y bobl i gyd, pob un gyda’i arf yn ei law, o ochr dde’r tŷ i’r ochr chwith, rhai yn sefyll wrth yr allor a rhai yn sefyll wrth y tŷ, yn amgylchynu’r brenin. 11  Yna daethon nhw â mab y brenin allan a rhoi’r goron a’r Dystiolaeth* ar ei ben, a’i wneud yn frenin, a gwnaeth Jehoiada a’i feibion ei eneinio. Yna dywedon nhw: “Hir oes i’r brenin!” 12  Pan glywodd Athaleia sŵn y bobl yn rhedeg ac yn moli’r brenin, aeth hi atyn nhw ar unwaith yn nhŷ Jehofa. 13  Yna gwelodd hi’r brenin yn sefyll yno wrth ymyl ei golofn wrth y fynedfa. Roedd y tywysogion a’r trwmpedwyr gyda’r brenin, ac roedd holl bobl y wlad yn llawenhau ac yn canu trwmpedi, ac roedd y cantorion a oedd ag offerynnau cerdd yn cymryd y blaen yn dathlu. Gyda hynny, rhwygodd Athaleia ei dillad a gweiddi: “Brad! Brad!” 14  Ond dyma Jehoiada yr offeiriad yn anfon allan y penaethiaid ar gannoedd, y rhai a oedd wedi cael eu penodi dros y fyddin, ac yn dweud wrthyn nhw: “Ewch â hi o ’ma, ac os bydd unrhyw un yn ei dilyn hi, lladdwch ef â’r cleddyf!” Oherwydd roedd yr offeiriad wedi dweud: “Ddylai hi ddim cael ei lladd yn nhŷ Jehofa.” 15  Felly dyma nhw’n ei chymryd hi i fynedfa Porth y Ceffylau yn nhŷ’r brenin,* ac ar unwaith gwnaethon nhw ei lladd hi yno. 16  Yna dyma Jehoiada, yr holl bobl, a’r brenin yn gwneud cyfamod gan addo y byddan nhw’n parhau fel pobl i Jehofa. 17  Wedyn daeth yr holl bobl i dŷ* Baal a’i rwygo i lawr, gwnaethon nhw hefyd falu ei allorau a’i ddelwau, a lladd Mattan, offeiriad Baal, o flaen yr allorau. 18  Yna rhoddodd Jehoiada y cyfrifoldeb o arolygu tŷ Jehofa i’r offeiriaid a’r Lefiaid, y rhai roedd Dafydd wedi eu trefnu mewn grwpiau i fod dros dŷ Jehofa i offrymu’r aberthau llosg i Jehofa, yn ôl beth sydd wedi ei ysgrifennu yng Nghyfraith Moses, a hynny gyda llawenydd a gyda chân, fel roedd Dafydd wedi gorchymyn. 19  Hefyd gosododd y porthorion wrth byrth tŷ Jehofa, fel nad oedd unrhyw un a oedd yn aflan mewn unrhyw ffordd yn gallu dod i mewn. 20  Yna aeth gyda’r penaethiaid ar gannoedd, y boneddigion, rheolwyr y bobl, a holl bobl y wlad, a hebrwng y brenin i lawr o dŷ Jehofa. Yna aethon nhw i mewn drwy’r porth uchaf i dŷ’r brenin* a rhoi’r brenin i eistedd ar orsedd y deyrnas. 21  Felly roedd holl bobl y wlad yn llawen, ac roedd ’na heddwch yn y ddinas am fod Athaleia wedi cael ei lladd â’r cleddyf.

Troednodiadau

Neu “cyfamod.”
Neu “wrth balas y brenin.”
Tarianau bach a oedd yn aml yn cael eu cario gan fwasaethwyr.
Efallai sgrôl a oedd yn cynnwys Cyfraith Duw.
Neu “ym mhalas y brenin.”
Neu “i deml.”
Neu “i balas y brenin.”