Ail Cronicl 28:1-27

  • Ahas, brenin Jwda (1-4)

  • Ahas yn cael ei orchfygu gan Syria ac Israel (5-8)

  • Oded yn rhybuddio Israel (9-15)

  • Jehofa yn darostwng Jwda (16-19)

  • Eilunaddoliaeth Ahas; ei farwolaeth (20-27)

28  Roedd Ahas yn 20 mlwydd oed pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am 16 mlynedd yn Jerwsalem. Yn wahanol i’w gyndad Dafydd, doedd ef ddim yn gwneud beth oedd yn iawn yng ngolwg Jehofa. 2  Yn hytrach, roedd yn gwneud yr un fath â brenhinoedd Israel, gan hyd yn oed wneud delwau metel o’r duwiau Baal. 3  Ar ben hynny, gwnaeth i fwg godi oddi ar aberthau yn Nyffryn Mab Hinnom,* a llosgodd ei feibion yn y tân. Gwnaeth yr un pethau ffiaidd ag yr oedd y cenhedloedd wedi eu gwneud, y rhai roedd Jehofa wedi eu gyrru allan o flaen yr Israeliaid. 4  Roedd ef hefyd yn parhau i aberthu ac i wneud i fwg godi oddi ar ei aberthau ar yr uchelfannau, ar y bryniau, ac o dan bob coeden ddeiliog. 5  Felly gwnaeth Jehofa ei Dduw ei roi yn nwylo brenin Syria, fel eu bod nhw’n ei orchfygu ac yn caethgludo nifer mawr o bobl i Ddamascus. Hefyd, cafodd ei roi yn nwylo brenin Israel a laddodd lawer iawn o filwyr Ahas. 6  Gwnaeth Peca fab Remaleia ladd 120,000 yn Jwda mewn un diwrnod, pob un yn ddyn dewr, am eu bod nhw wedi cefnu ar Jehofa, Duw eu cyndadau. 7  A gwnaeth Sicri, milwr dewr o Effraim, ladd Maaseia mab y brenin, Asricam a oedd yn gyfrifol am y palas,* ac Elcana a oedd yn ail i’r brenin. 8  Ar ben hynny, cymerodd yr Israeliaid 200,000 o’u perthnasau yn gaeth—merched* a phlant—a hefyd cymeron nhw lawer iawn o ysbail, a mynd â’r ysbail i Samaria. 9  Ond roedd un o broffwydi Jehofa o’r enw Oded yno. Aeth allan o flaen y fyddin a oedd yn dod i Samaria a dweud wrthyn nhw: “Edrychwch! Am fod Jehofa, Duw eich cyndadau, yn ddig gyda Jwda, gwnaeth ef eu rhoi nhw yn eich dwylo, a gwnaethoch chi eu lladd nhw mewn ffordd mor greulon nes bod Duw ei hun wedi dod i wybod am y peth.* 10  Ac nawr, rydych chi’n bwriadu gwneud pobl Jwda a Jerwsalem yn weision ac yn forynion ichi. Ond onid ydych chi hefyd yn euog o flaen Jehofa eich Duw? 11  Nawr gwrandewch arna i, ac anfonwch y caethion y gwnaethoch chi eu cymryd o blith eich perthnasau yn ôl, oherwydd mae dicter tanbaid Jehofa yn eich erbyn chi.” 12  Gyda hynny, dyma rai o benaethiaid llwyth Effraim—Asareia fab Jehohanan, Berecheia fab Mesilemoth, Jehisceia fab Salum, ac Amasa fab Hadlai—yn gwrthwynebu’r rhai a oedd yn dod o’r ymgyrch filwrol, 13  ac yn dweud wrthyn nhw: “Peidiwch â dod â’r caethion i mewn i fan hyn, oherwydd byddai hynny’n ein gwneud ni’n euog o flaen Jehofa. Byddai beth rydych chi’n bwriadu ei wneud yn ychwanegu at ein pechodau ac at ein heuogrwydd, oherwydd mae ein heuogrwydd eisoes yn fawr iawn ac mae dicter Duw yn erbyn Israel yn danbaid.” 14  Felly dyma’r milwyr arfog yn rhoi’r caethion a’r ysbail yn ôl i’r tywysogion ac i’r gynulleidfa gyfan. 15  Yna dyma’r dynion a oedd wedi cael eu henwi yn codi ac yn gofalu am y caethion, ac yn darparu dillad o blith yr ysbail i bawb yn eu mysg a oedd yn noeth. Felly rhoddon nhw ddillad iddyn nhw, yn ogystal â sandalau, bwyd a diod, ac olew ar gyfer eu croen. Ar ben hynny, aethon nhw â’r rhai gwan ar gefn asynnod a mynd â nhw at eu brodyr yn Jericho, dinas y palmwydd. Ar ôl hynny, aethon nhw’n ôl i Samaria. 16  Bryd hynny, gofynnodd y Brenin Ahas i frenhinoedd Asyria am help. 17  Ac unwaith eto, dyma’r Edomiaid yn ymosod ar Jwda ac yn caethgludo rhai o’r bobl. 18  Hefyd, ymosododd y Philistiaid ar ddinasoedd y Seffela a Negef Jwda, gan gipio Beth-semes, Ajalon, a Gederoth, yn ogystal â Socho a’i threfi cyfagos, Timna a’i threfi cyfagos, a Gimso a’i threfi cyfagos; a setlo yno. 19  Dyma Jehofa yn darostwng* Jwda oherwydd Ahas brenin Israel, am ei fod wedi caniatáu i Jwda golli pob rheolaeth, gan achosi iddyn nhw fod yn anffyddlon iawn i Jehofa. 20  Yn y pen draw, daeth Tilgath-pilneser brenin Asyria yn ei erbyn, ac achosi gofid iddo yn hytrach na’i gryfhau. 21  Er bod Ahas wedi gwagio tŷ Jehofa, tŷ’r brenin,* a thai y tywysogion, a rhoi’r cwbl fel anrheg i frenin Asyria, wnaeth hynny ddim ei helpu. 22  Ac yn ystod ei holl drafferthion, roedd y Brenin Ahas yn ymddwyn yn fwy ac yn fwy anffyddlon i Jehofa. 23  Dechreuodd aberthu i dduwiau Damascus, a oedd wedi ei orchfygu, ac aeth ymlaen i ddweud: “Am fod duwiau brenhinoedd Asyria yn eu helpu nhw, bydda i’n aberthu iddyn nhw fel y byddan nhw’n fy helpu i.” Ond dyma nhw’n achosi iddo ef ac Israel gyfan faglu. 24  Ar ben hynny, casglodd Ahas lestri tŷ’r gwir Dduw; ac yna torrodd lestri tŷ’r gwir Dduw yn ddarnau, caeodd ddrysau tŷ Jehofa, a chododd allorau ym mhob cornel o Jerwsalem. 25  Ac yn holl ddinasoedd Jwda, gwnaeth uchelfannau er mwyn gwneud i fwg godi oddi ar ei aberthau i dduwiau eraill, gan ddigio Jehofa, Duw ei gyndadau. 26  Ynglŷn â gweddill ei hanes, popeth a wnaeth o’r dechrau i’r diwedd, mae wedi ei ysgrifennu yn Llyfr Brenhinoedd Jwda ac Israel. 27  Yna bu farw Ahas,* a gwnaethon nhw ei gladdu yn y ddinas, yn Jerwsalem, oherwydd wnaethon nhw ddim ei roi ym meddau brenhinoedd Israel. A daeth ei fab Heseceia yn frenin yn ei le.

Troednodiadau

Gweler Geirfa, “Gehenna.”
Llyth., “tŷ.”
Neu “menywod.”
Llyth., “gyda chreulondeb sydd wedi cyrraedd y nefoedd.”
Neu “cosbi.”
Neu “palas y brenin.”
Neu “Yna gorweddodd Ahas i lawr i orffwys gyda’i gyndadau.”