Ail Cronicl 30:1-27
-
Heseceia yn cadw’r Pasg (1-27)
30 Anfonodd Heseceia neges at holl Israel a Jwda, a hyd yn oed ysgrifennu llythyrau at Effraim a Manasse, i ddweud wrthyn nhw am ddod i dŷ Jehofa yn Jerwsalem i gadw’r Pasg i Jehofa, Duw Israel.
2 Ond dyma’r brenin, ei dywysogion, a’r gynulleidfa gyfan yn Jerwsalem yn penderfynu cynnal y Pasg yn yr ail fis,
3 oherwydd doedden nhw ddim wedi gallu ei gynnal ar yr adeg arferol, am nad oedd digon o offeiriaid wedi eu sancteiddio eu hunain, ac am nad oedd y bobl wedi dod at ei gilydd yn Jerwsalem chwaith.
4 Roedd y trefniant hwn i’w weld yn iawn yng ngolwg y brenin a’r gynulleidfa gyfan.
5 Felly penderfynon nhw wneud cyhoeddiad drwy Israel gyfan, o Beer-seba i Dan, i ddweud wrth y bobl am ddod i gadw’r Pasg i Jehofa, Duw Israel, yn Jerwsalem, oherwydd doedden nhw ddim wedi ei gadw fel grŵp yn ôl beth sy’n ysgrifenedig.
6 Yna aeth y negeswyr drwy holl Israel a Jwda gyda’r llythyrau oddi wrth y brenin a’i dywysogion, yn unol â gorchymyn y brenin, gan ddweud: “Bobl Israel, trowch yn ôl at Jehofa, Duw Abraham, Isaac, ac Israel, er mwyn iddo ef droi yn ôl at y gweddill ohonoch chi, y rhai a wnaeth ddianc allan o law brenhinoedd Asyria.
7 Peidiwch â bod fel eich cyndadau a’ch brodyr a oedd yn anffyddlon i Jehofa, Duw eu cyndadau. Oherwydd hynny, daeth Duw â thrychineb arnyn nhw, gan godi arswyd ar unrhyw un a oedd yn gweld neu’n clywed am y peth, yn union fel rydych chi’n gweld.
8 Nawr peidiwch â bod yn ystyfnig fel eich cyndadau. Ildiwch i Jehofa, a dewch i’w gysegr, yr un mae ef wedi ei sancteiddio am byth, a gwasanaethwch Jehofa eich Duw, er mwyn i’w ddicter tanbaid droi i ffwrdd oddi wrthoch chi.
9 Oherwydd pan fyddwch chi’n troi yn ôl at Jehofa, bydd y rhai sydd wedi cymryd eich brodyr a’ch meibion yn gaeth yn dangos trugaredd tuag atyn nhw, a byddan nhw’n cael dychwelyd i’r wlad hon, oherwydd bod Jehofa eich Duw yn dosturiol ac yn drugarog, ac ni fydd ef yn troi ei wyneb oddi wrthoch chi os byddwch chi’n dychwelyd ato.”
10 Felly aeth y negeswyr o un ddinas i’r llall drwy wlad Effraim a Manasse, a hyd yn oed i Sabulon, ond roedd y bobl yn gwneud hwyl am eu pennau ac yn eu gwawdio.
11 Ond, dyma rai unigolion o blith Aser, Manasse, a Sabulon yn dangos gostyngeiddrwydd ac yn dod i Jerwsalem.
12 Roedd llaw y gwir Dduw hefyd yn Jwda, er mwyn eu helpu nhw i ufuddhau yn unedig* i beth roedd y brenin a’r tywysogion wedi ei orchymyn ar ran Jehofa.
13 Daeth tyrfa fawr o bobl at ei gilydd yn Jerwsalem i gadw Gŵyl y Bara Croyw yn yr ail fis; roedd hi’n gynulleidfa fawr iawn.
14 Dyma nhw’n codi ac yn cael gwared ar yr allorau a oedd yn Jerwsalem, yn ogystal â’r allorau arogldarth, ac yn eu taflu nhw i gyd i Ddyffryn Cidron.
15 Yna, lladdon nhw’r anifeiliaid ar gyfer aberth y Pasg ar y pedwerydd diwrnod ar ddeg* o’r ail fis. Roedd yr offeiriaid a’r Lefiaid yn teimlo cywilydd, felly gwnaethon nhw eu sancteiddio eu hunain a dod ag offrymau llosg i dŷ Jehofa.
16 Cymeron nhw eu llefydd arferol, yn ôl Cyfraith Moses, dyn y gwir Dduw; yna dyma’r offeiriaid yn taenellu’r gwaed a gawson nhw gan y Lefiaid ar yr allor.
17 Roedd llawer yn y gynulleidfa heb eu sancteiddio eu hunain, ac roedd y Lefiaid yn gyfrifol am ladd yr anifeiliaid ar gyfer aberthau’r Pasg ar ran pawb nad oedden nhw’n lân, er mwyn eu sancteiddio nhw i Jehofa.
18 Oherwydd roedd nifer mawr o’r bobl, yn enwedig o blith Effraim, Manasse, Issachar, a Sabulon, heb eu puro eu hunain, ond gwnaethon nhw fwyta bwyd y Pasg beth bynnag, yn groes i beth sy’n ysgrifenedig. Ond gweddïodd Heseceia drostyn nhw, gan ddweud: “Gad i Jehofa, sy’n dda, faddau i
19 bob un sydd wedi paratoi ei galon i chwilio am y gwir Dduw Jehofa, Duw ei gyndadau, er nad ydy ef wedi cael ei buro yn unol â’r safonau sanctaidd.”
20 A gwrandawodd Jehofa ar Heseceia a maddau* i’r bobl.
21 Felly dyma’r Israeliaid a oedd yn Jerwsalem yn cadw Gŵyl y Bara Croyw am saith diwrnod gyda llawenydd mawr, ac roedd y Lefiaid a’r offeiriaid yn moli Jehofa bob dydd, gan ganu eu hofferynnau yn uchel i Jehofa.
22 Ar ben hynny, siaradodd Heseceia â’r holl Lefiaid a oedd yn gwasanaethu Jehofa gyda doethineb, gan eu calonogi nhw. A gwnaethon nhw fwyta drwy gydol yr ŵyl am saith diwrnod, gan wneud aberthau heddwch a rhoi diolch i Jehofa, Duw eu cyndadau.
23 Yna penderfynodd y gynulleidfa gyfan ei chynnal am saith diwrnod arall, felly dyma nhw’n ei chynnal yn llawen am saith diwrnod arall.
24 Ac fe gyfrannodd Heseceia brenin Jwda 1,000 o deirw a 7,000 o ddefaid i’r gynulleidfa, a chyfrannodd y tywysogion 1,000 o deirw a 10,000 o ddefaid i’r gynulleidfa, ac roedd ’na nifer enfawr o offeiriaid yn eu sancteiddio eu hunain.
25 A dyma holl gynulleidfa Jwda, yr offeiriaid, y Lefiaid, yr holl gynulleidfa a ddaeth o Israel, yr estroniaid a ddaeth o wlad Israel, a’r estroniaid a oedd yn byw yn Jwda yn parhau i lawenhau.
26 Roedd y bobl yn Jerwsalem wrth eu boddau, oherwydd doedd dim byd tebyg i hyn wedi digwydd yn Jerwsalem ers dyddiau Solomon fab Dafydd, brenin Israel.
27 Yn y pen draw, safodd yr offeiriaid a oedd yn Lefiaid a bendithio’r bobl; a chlywodd Duw eu llais, a dyma eu gweddi yn cyrraedd ei le sanctaidd, y nefoedd, lle mae ef yn byw.