Ail Cronicl 31:1-21

  • Heseceia yn cael gwared ar wrthgiliad (1)

  • Offeiriaid a Lefiaid yn cael eu cefnogi (2-21)

31  Unwaith iddyn nhw orffen hyn i gyd, aeth yr holl Israeliaid a oedd yno allan i ddinasoedd Jwda, a gwnaethon nhw falu’r colofnau cysegredig, torri i lawr y polion cysegredig, a rhwygo i lawr yr uchelfannau a’r allorau drwy Jwda a Benjamin i gyd, yn ogystal ag yn Effraim a Manasse, nes eu bod nhw wedi eu dinistrio nhw’n llwyr. Ar ôl hynny aeth yr Israeliaid i gyd yn ôl i’w dinasoedd, pob un i’w gartref. 2  Yna dyma Heseceia yn trefnu’r offeiriaid yn ôl eu grwpiau, a’r Lefiaid yn ôl eu grwpiau, pob un o’r offeiriaid a’r Lefiaid ar gyfer eu gwasanaeth, ar gyfer yr offrymau llosg a’r aberthau heddwch, i wasanaethu ac i roi diolch i Dduw a’i foli ym mhyrth cyrtiau Jehofa. 3  Rhoddodd y brenin ychydig o’i eiddo ei hun ar gyfer yr offrymau llosg, gan gynnwys offrymau’r bore a’r noswaith, yn ogystal â’r offrymau llosg ar gyfer y Sabothau, y lleuadau newydd, a’r gwyliau, yn ôl beth sydd wedi ei ysgrifennu yng Nghyfraith Jehofa. 4  Ar ben hynny, gorchmynnodd i’r bobl a oedd yn byw yn Jerwsalem roi i’r offeiriaid a’r Lefiaid y cyfraniadau a oedd wedi eu haseinio iddyn nhw, fel eu bod nhw’n gallu glynu’n agos wrth* gyfraith Jehofa. 5  Unwaith i hyn gael ei orchymyn, rhoddodd yr Israeliaid niferoedd mawr o’r cyntaf a’r gorau o’r grawn, y gwin newydd, yr olew, a’r mêl, ac o holl gynnyrch y tir; daethon nhw â’r ddegfed ran o bopeth mewn digonedd. 6  A gwnaeth pobl Israel a Jwda a oedd yn byw yn ninasoedd Jwda hefyd ddod â’r ddegfed ran o’r defaid a’r gwartheg, a’r ddegfed ran o’r pethau sanctaidd a oedd wedi eu sancteiddio i Jehofa eu Duw. Daethon nhw â’r cyfan i mewn a’u rhoi mewn llawer o bentyrrau. 7  Yn y trydydd mis dechreuon nhw osod eu cyfraniadau mewn pentyrrau; a gorffennon nhw yn y seithfed mis. 8  Pan ddaeth Heseceia a’r tywysogion a gweld y pentyrrau, gwnaethon nhw foli Jehofa a bendithio ei bobl Israel. 9  Dyma Heseceia yn holi’r offeiriaid a’r Lefiaid ynglŷn â’r pentyrrau, 10  a dywedodd Asareia, prif offeiriad tŷ Sadoc, wrtho: “O’r adeg dechreuon nhw ddod â’r cyfraniadau i mewn i dŷ Jehofa, mae’r bobl wedi cael digon i fwyta, ac mae ’na ddigonedd ar ôl, oherwydd mae Jehofa wedi bod yn bendithio ei bobl, ac mae ’na gymaint dros ben.” 11  Gyda hynny dywedodd Heseceia wrthyn nhw am baratoi stordai* yn nhŷ Jehofa, felly dyma nhw’n gwneud hynny. 12  Roedden nhw’n dal ati yn ffyddlon i ddod â’r cyfraniadau, y degymau, a’r pethau sanctaidd i mewn; cafodd Conaneia y Lefiad ei wneud yn gyfrifol am hyn i gyd fel yr arolygwr, ac roedd ei frawd Simei yn ail iddo. 13  Roedd Jehiel, Asaseia, Nahath, Asahel, Jerimoth, Josabad, Eliel, Ismacheia, Mahath, a Benaia yn gomisiynwyr a oedd yn helpu Conaneia a’i frawd Simei, yn ôl gorchymyn y Brenin Heseceia, ac Asareia oedd yn arolygu tŷ’r gwir Dduw. 14  Ac roedd Core fab Imna, y Lefiad a oedd yn borthor ar yr ochr ddwyreiniol, yn gyfrifol am yr offrymau gwirfoddol i’r gwir Dduw, ac roedd yn dosbarthu’r pethau a gafodd eu cyfrannu i Jehofa a’r pethau mwyaf sanctaidd. 15  Ac roedd Eden, Miniamin, Jesua, Semaia, Amareia, a Sechaneia, yn ninasoedd yr offeiriaid, yn eu swyddi cyfrifol, i ddosbarthu’r cyfraniadau yn gyfartal rhwng eu brodyr yn y grwpiau, i’r hen ac i’r ifanc. 16  Roedd hyn yn ychwanegol i’r bwyd a gafodd ei ddosbarthu i bob gwryw a oedd yn dair blwydd oed neu’n hŷn a oedd wedi ei restru yng nghofrestrau’r achau teuluol, ac a oedd yn dod bob dydd i wasanaethu yn nhŷ Jehofa ac i gyflawni dyletswyddau ei grŵp. 17  Roedd yr offeiriaid wedi eu cofrestru yn eu hachau teuluol yn ôl eu teuluoedd estynedig, yn union fel roedd y Lefiaid a oedd yn 20 mlwydd oed neu’n hŷn, yn ôl dyletswyddau eu grwpiau. 18  Roedd cofrestrau eu hachau teuluol yn cynnwys eu holl blant, eu gwragedd, eu meibion, a’u merched, eu cynulleidfa gyfan. (Roedden nhw’n gwneud yn siŵr eu bod nhw’n sanctaidd bob amser am fod ganddyn nhw’r cyfrifoldeb o wneud dyletswyddau sanctaidd.) 19  Roedd y cofrestrau hyn hefyd yn cynnwys disgynyddion Aaron, hynny yw, yr offeiriaid a oedd yn byw yng nghaeau’r tiroedd pori o amgylch eu dinasoedd. Yn yr holl ddinasoedd hynny, cafodd rhai dynion eu dewis i gael y cyfrifoldeb o ddosbarthu bwyd i’r offeiriaid ac i bawb a oedd wedi eu cofrestru yn achau teuluol y Lefiaid. 20  Dyma beth wnaeth Heseceia drwy Jwda gyfan, a pharhaodd i wneud beth oedd yn dda ac yn iawn ac yn ffyddlon o flaen Jehofa ei Dduw. 21  Ac ym mha bynnag waith roedd Heseceia yn mynd ati i’w wneud er mwyn ceisio ei Dduw, naill ai yn ymwneud â gwasanaeth tŷ’r gwir Dduw neu â’r Gyfraith a’r gorchymyn, gwnaeth hynny â’i holl galon, ac roedd yn llwyddiannus.

Troednodiadau

Neu “ymroi eu hunain yn llwyr i.”
Neu “ystafelloedd bwyta.”