Ail Cronicl 34:1-33

  • Joseia, brenin Jwda (1, 2)

  • Newidiadau Joseia (3-13)

  • Darganfod llyfr y Gyfraith (14-21)

  • Hulda yn proffwydo trychineb (22-28)

  • Joseia yn darllen y llyfr i’r bobl (29-33)

34  Roedd Joseia yn wyth mlwydd oed pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am 31 mlynedd yn Jerwsalem. 2  Gwnaeth beth oedd yn iawn yng ngolwg Jehofa a dilynodd ôl traed Dafydd ei gyndad heb wyro i’r dde nac i’r chwith. 3  Yn yr wythfed flwyddyn o’i deyrnasiad, pan oedd yn dal yn ifanc, dechreuodd chwilio am Dduw Dafydd ei gyndad, ac yn y ddeuddegfed* flwyddyn, dechreuodd buro Jwda a Jerwsalem drwy gael gwared ar yr uchelfannau, y polion cysegredig, y delwau a oedd wedi eu cerfio, a’r delwau metel. 4  Ar ben hynny, gwnaethon nhw ddinistrio allorau’r duwiau Baal o’i flaen ef, a thorrodd ef i lawr bob stand arogldarth a oedd ar ben yr allorau. Gwnaeth ef hefyd dorri’n ddarnau y polion cysegredig, y delwau a oedd wedi eu cerfio, a’r delwau metel, a’u malu nhw’n llwch mân a’i daenellu dros feddau’r rhai a oedd yn arfer aberthu iddyn nhw. 5  Llosgodd hefyd esgyrn yr offeiriaid ar eu hallorau. Drwy wneud hyn i gyd, fe wnaeth buro Jwda a Jerwsalem. 6  Yn ninasoedd Manasse, Effraim, Simeon, ac mor bell â Nafftali, gan gynnwys y llefydd o’u cwmpas a oedd yn adfeilion, 7  dinistriodd yr allorau a malodd y polion cysegredig a’r delwau cerfiedig nes eu bod nhw’n llwch mân, a thorrodd i lawr bob allor arogldarth yng ngwlad Israel. Yna, aeth yn ôl i Jerwsalem. 8  Yn y ddeunawfed* flwyddyn o’i deyrnasiad, pan oedd wedi puro’r wlad a’r deml,* anfonodd ef Saffan fab Asaleia, Maaseia pennaeth y ddinas, a Joa fab Jehoas y cofnodwr i drwsio tŷ Jehofa ei Dduw. 9  Aethon nhw at Hilceia yr archoffeiriad a rhoddon nhw iddo’r arian a oedd wedi dod i mewn i dŷ Dduw, yr arian roedd y Lefiaid a oedd yn borthorion wedi ei gasglu gan Manasse, Effraim, a gweddill Israel, yn ogystal â Jwda, Benjamin, a phobl Jerwsalem. 10  Yna, rhoddon nhw’r arian i’r rhai a oedd wedi cael eu penodi dros y gwaith yn nhŷ Jehofa, a gwnaeth y gweithwyr ei ddefnyddio i drwsio tŷ Jehofa. 11  Gwnaethon nhw ei roi i’r crefftwyr a’r adeiladwyr i brynu cerrig wedi eu naddu, pren ar gyfer y cysylltiadau, a thrawstiau er mwyn trwsio’r tai roedd brenhinoedd Jwda wedi eu hesgeuluso. 12  Ac roedd y dynion yn ffyddlon wrth wneud y gwaith. Roedd y Lefiaid—Jahath ac Obadeia o blith y Merariaid, a Sechareia a Mesulam o blith y Cohathiaid—wedi cael eu penodi fel arolygwyr drostyn nhw. Ac roedd pob un o’r Lefiaid a oedd yn gerddorion dawnus 13  yn arolygu’r gweithwyr a phawb arall a oedd yn gwneud pob math o wasanaeth, ac roedd rhai o’r Lefiaid yn ysgrifenyddion, yn swyddogion, ac yn borthorion. 14  Tra oedden nhw’n cymryd yr arian a oedd wedi dod i dŷ Jehofa allan, dyma Hilceia yr offeiriad yn dod ar draws llyfr Cyfraith Jehofa a ddaeth trwy law Moses. 15  Felly dywedodd Hilceia wrth Saffan yr ysgrifennydd: “Rydw i wedi dod o hyd i lyfr y Gyfraith yn nhŷ Jehofa.” Gyda hynny, rhoddodd Hilceia y llyfr i Saffan. 16  Yna, daeth Saffan â’r llyfr at y brenin a dweud wrtho: “Mae dy weision yn gwneud popeth sydd wedi cael ei aseinio iddyn nhw. 17  Maen nhw wedi gwagio’r gist arian a oedd yn nhŷ Jehofa, ac maen nhw wedi rhoi’r arian i’r arolygwyr a’r rhai sy’n gwneud y gwaith.” 18  Hefyd, dywedodd Saffan yr ysgrifennydd wrth y brenin: “Mae Hilceia yr offeiriad wedi rhoi llyfr imi.” Yna dechreuodd Saffan ddarllen ohono o flaen y brenin. 19  Unwaith i’r brenin glywed geiriau’r Gyfraith, rhwygodd ei ddillad. 20  Yna rhoddodd y brenin y gorchymyn hwn i Hilceia, Ahicam fab Saffan, Abdon fab Micha, Saffan yr ysgrifennydd, ac Asaia gwas y brenin: 21  “Ewch i ofyn am arweiniad Jehofa ar fy rhan i ac ar ran y bobl sydd ar ôl yn Israel a Jwda ynglŷn â geiriau’r llyfr hwn sydd wedi cael ei ddarganfod; mae Jehofa wedi gwylltio’n lân â ni, oherwydd wnaeth ein cyndadau ddim ufuddhau i eiriau Jehofa drwy gadw at bopeth sydd yn y llyfr hwn.” 22  Felly aeth Hilceia, ynghyd â’r rhai a oedd wedi cael eu hanfon gan y brenin, at Hulda y broffwydes. Hi oedd gwraig Salum, mab Ticfa, mab Harhas, gofalwr y gwisgoedd. Roedd hi’n byw yn rhan newydd Jerwsalem, a gwnaethon nhw siarad â hi yno. 23  Dywedodd hi wrthyn nhw: “Dyma mae Jehofa, Duw Israel, yn ei ddweud, ‘Dywedwch wrth y dyn a wnaeth eich anfon chi ata i: 24  “Dyma mae Jehofa yn ei ddweud, ‘Bydda i’n dod â thrychineb ar y lle hwn ac ar y bobl sy’n byw yma, a bydd yr holl felltithion sydd wedi eu hysgrifennu yn y llyfr gwnaethon nhw ei ddarllen o flaen brenin Jwda yn dod yn wir. 25  Am eu bod nhw wedi cefnu arna i, ac yn gwneud i fwg godi oddi ar eu haberthau o flaen duwiau eraill er mwyn fy nigio i â holl waith eu dwylo, bydd fy nicter yn cael ei dywallt* yn erbyn y lle hwn fel tân na fydd yn cael ei ddiffodd.’” 26  Ond dyma beth dylech chi ei ddweud wrth frenin Jwda sydd wedi eich anfon chi i ofyn am arweiniad Jehofa, “Dyma mae Jehofa, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Ynglŷn â’r geiriau rwyt ti wedi eu clywed, 27  am fod dy galon wedi meddalu, ac am dy fod ti wedi dy wneud dy hun yn isel o flaen Duw ar ôl clywed ei eiriau ynglŷn â’r lle hwn a’r bobl sy’n byw yma, ac am dy fod ti wedi dangos gostyngeiddrwydd ac wedi rhwygo dy ddillad ac wylo o fy mlaen i, rydw i hefyd wedi dy glywed di, meddai Jehofa. 28  Dyna pam bydda i’n dy gasglu di at dy hynafiaid* a byddi di’n cael dy gladdu mewn heddwch, ac ni fydd dy lygaid yn gweld yr holl drychineb y bydda i’n dod ar y lle hwn ac ar y bobl sy’n byw yma.’”’” A dyma nhw’n adrodd hyn yn ôl wrth y brenin. 29  Felly dyma’r brenin yn galw am holl henuriaid Jwda a Jerwsalem ac yn eu casglu nhw at ei gilydd. 30  Yna aeth y brenin i fyny i dŷ Jehofa gyda holl ddynion Jwda, pawb a oedd yn byw yn Jerwsalem, yr offeiriaid a’r Lefiaid—y bobl i gyd, yn fach neu’n fawr.* A darllenodd yn eu clyw holl eiriau llyfr y cyfamod a oedd wedi cael ei ddarganfod yn nhŷ Jehofa. 31  Safodd y brenin yn ei le, a gwneud cyfamod â Jehofa, gan addo y byddai’n dilyn Jehofa ac yn cadw ei orchmynion, ei gyfreithiau, a’i ddeddfau â’i holl galon ac â’i holl enaid drwy gyflawni geiriau’r cyfamod hwn a oedd wedi eu hysgrifennu yn y llyfr. 32  Ar ben hynny, anogodd bawb a oedd yn Jerwsalem a Benjamin i gadw at y cyfamod hwnnw. A gweithredodd pobl Jerwsalem yn unol â chyfamod Duw, Duw eu cyndadau. 33  Yna gwnaeth Joseia gael gwared ar yr holl bethau ffiaidd* o’r gwledydd a oedd yn perthyn i’r Israeliaid, a gwneud i bawb yn Israel wasanaethu Jehofa eu Duw. Drwy gydol ei fywyd, ni wnaethon nhw grwydro oddi wrth ffyrdd Jehofa, Duw eu cyndadau.

Troednodiadau

Neu “12fed.”
Neu “18fed.”
Llyth., “a’r tŷ.”
Neu “arllwys.”
Mae hyn yn ymadrodd barddonol ar gyfer marwolaeth.
Neu “yn hen neu’n ifanc.”
Neu “eilunod.”