Ail Cronicl 4:1-22
4 Yna gwnaeth yr allor gopr, 20 cufydd o hyd, 20 cufydd o led, a 10 cufydd o uchder.
2 Dyma’n castio basn dŵr enfawr o gopr a’i alw y Môr. Roedd yn grwn, yn 10 cufydd o un ymyl i’r llall ac yn 5 cufydd o uchder, ac roedd ganddo gylchedd o 30 cufydd.
3 Ac roedd ’na ffrwythau bach crwn* addurniadol oddi tano, yn mynd o’i amgylch yn gyfan gwbl, deg i bob cufydd yr holl ffordd o gwmpas y Môr. Roedd y ffrwythau bach crwn* mewn dwy res, ac roedden nhw wedi eu castio fel un darn gyda’r basn.
4 Roedd yn sefyll ar 12 tarw, 3 yn wynebu’r gogledd, 3 yn wynebu’r gorllewin, 3 yn wynebu’r de, a 3 yn wynebu’r dwyrain; ac roedd y Môr yn eistedd arnyn nhw, ac roedd eu cynffonnau i gyd tua’r canol.
5 Roedd yn lled llaw* o drwch; ac roedd ei ymyl wedi ei ffurfio fel ymyl cwpan, fel blodyn lili. Roedd y basn yn gallu dal 3,000 mesur bath* o ddŵr.
6 Hefyd, gwnaeth ddeg basn ar gyfer golchi, a rhoddodd bump ar y dde a phump ar y chwith. Bydden nhw’n eu defnyddio nhw i olchi’r pethau oedd yn cael eu defnyddio ar gyfer yr offrymau llosg. Ond roedd yr offeiriaid yn defnyddio’r Môr er mwyn ymolchi.
7 Yna gwnaeth ddeg canhwyllbren aur, yn ôl y cynllun, a’u rhoi nhw yn y deml, pump ar y dde a phump ar y chwith.
8 Hefyd, gwnaeth ddeg bwrdd a’u rhoi nhw yn y deml, pump ar y dde a phump ar y chwith; yn ogystal â 100 powlen aur.
9 Yna adeiladodd gwrt yr offeiriaid a’r cwrt mawr, a’r drysau ar gyfer y cwrt, a gorchuddio eu drysau â chopr.
10 A rhoddodd y Môr ar yr ochr dde, tua’r de-ddwyrain.
11 Hefyd gwnaeth Hiram y llestri lludw, y rhawiau, a’r powlenni.
Felly gorffennodd Hiram y gwaith roedd ganddo i’w wneud ar dŷ’r gwir Dduw ar ran y Brenin Solomon:
12 y ddwy golofn a’r capanau crwn oedd ar ben y ddwy golofn; y ddau rwydwaith oedd yn gorchuddio’r capanau ar ben y colofnau;
13 y 400 o bomgranadau ar gyfer y ddau rwydwaith, dwy res o bomgranadau i bob rhwydwaith i orchuddio’r ddau gapan oedd ar ben y colofnau;
14 y deg cerbyd* a’r deg basn ar ben y cerbydau;
15 y Môr a’r 12 tarw oddi tano;
16 a’r llestri lludw, y rhawiau, y ffyrc, a’u holl offer. Gwnaeth Hiram-abif yr holl bethau hyn allan o gopr wedi ei sgleinio, a hynny ar gyfer tŷ Jehofa ar ran y Brenin Solomon.
17 Gorchmynnodd y brenin fod y copr yn cael ei gastio yn y clai trwchus yn ardal yr Iorddonen, rhwng Succoth a Sereda.
18 Gwnaeth Solomon nifer enfawr o’r holl offer hyn; wnaethon nhw ddim darganfod pwysau’r holl gopr.
19 Gwnaeth Solomon yr holl offer ar gyfer tŷ’r gwir Dduw: yr allor aur; y byrddau ar gyfer y bara oedd wedi ei gyflwyno i Dduw;*
20 y canwyllbrennau a’u lampau o aur pur i losgi o flaen yr ystafell fewnol yn ôl y gofynion;
21 y blodau agored, y lampau, a’r offer i ddal y wic,* wedi eu gwneud o aur, yr aur puraf;
22 yr offer diffodd fflamau,* y powlenni, y cwpanau, a’r llestri i ddal tân, o aur pur; a mynedfa’r tŷ, ei ddrysau mewnol ar gyfer y Mwyaf Sanctaidd, a drysau’r Sanctaidd,* wedi eu gwneud o aur.
Troednodiadau
^ Llyth., “gowrdiau.”
^ Llyth., “gowrdiau.”
^ Tua 7.4 cm (2.9 mod.).
^ Roedd un bath yn gyfartal â 22 L (4.84 gal).
^ Neu “troli dŵr.”
^ Neu “y bara gosod.”
^ Neu “a’r gefeiliau.”
^ Neu “y sisyrnau diffodd fflamau.”
^ Llyth., “tŷ’r deml.”