Ail Cronicl 5:1-14

  • Paratoi ar gyfer cysegriad y deml (1-14)

    • Dod â’r Arch i’r deml (2-10)

5  Felly, gorffennodd Solomon yr holl waith roedd rhaid iddo ei wneud ar dŷ Jehofa. Yna dyma Solomon yn dod â’r pethau roedd ei dad Dafydd wedi eu sancteiddio i mewn, a rhoddodd yr arian, yr aur, a’r holl bethau eraill i mewn i drysordai tŷ’r gwir Dduw. 2  Bryd hynny, casglodd Solomon holl henuriaid Israel at ei gilydd—penaethiaid y llwythau a phennau teuluoedd estynedig Israel. Daethon nhw i Jerwsalem i ddod ag arch cyfamod Jehofa i fyny o Ddinas Dafydd, hynny yw, Seion. 3  Daeth holl ddynion Israel at ei gilydd o flaen y brenin yn ystod yr ŵyl* sy’n cael ei chynnal yn y seithfed mis. 4  Unwaith i holl henuriaid Israel gyrraedd, dyma’r Lefiaid yn codi’r Arch. 5  Daethon nhw â’r Arch, pabell y cyfarfod, a’r holl offer sanctaidd oedd yn y babell i dŷ Dduw. Yr offeiriaid a’r Lefiaid* a ddaeth â nhw i fyny. 6  Roedd y Brenin Solomon o flaen yr Arch gyda holl gynulleidfa Israel a oedd wedi cael eu galw at ei gilydd i’w gyfarfod. Roedd cymaint o ddefaid a gwartheg yn cael eu haberthu nes ei bod hi’n amhosib eu cyfri nhw na’u rhifo. 7  Yna daeth yr offeiriaid ag arch cyfamod Jehofa i’w lle yn ystafell fewnol y tŷ, y Mwyaf Sanctaidd, o dan adenydd y cerwbiaid. 8  Felly, roedd adenydd y cerwbiaid yn estyn dros yr Arch, fel bod y cerwbiaid yn gorchuddio’r Arch a’i pholion. 9  Roedd y polion mor hir nes ei bod hi’n bosib gweld blaenau’r polion o’r Sanctaidd, a oedd o flaen yr ystafell fewnol, ond doedd hi ddim yn bosib eu gweld nhw o’r tu allan. Ac maen nhw yno hyd heddiw. 10  Doedd ’na ddim byd yn yr Arch heblaw am y ddwy lech roedd Moses wedi eu rhoi ynddi yn Horeb, pan wnaeth Jehofa gyfamod â phobl Israel tra oedden nhw’n dod allan o wlad yr Aifft. 11  Pan ddaeth yr offeiriaid allan o’r lle sanctaidd (oherwydd roedd yr holl offeiriaid a oedd yn bresennol wedi eu sancteiddio eu hunain, ni waeth pa grŵp roedden nhw’n perthyn iddo), 12  roedd yr holl gantorion a oedd yn Lefiaid ac yn perthyn i Asaff, i Heman, i Jeduthun, ac i’w meibion a’u brodyr yn gwisgo lliain main, yn dal symbalau, offerynnau llinynnol, a thelynau; roedden nhw’n sefyll i’r dwyrain o’r allor, ac roedd ’na 120 o offeiriaid gyda nhw yn canu’r trwmpedi. 13  Roedd y trwmpedwyr a’r cantorion yn moli Jehofa ac yn diolch iddo fel un, ac roedd y sŵn yn mynd i fyny o’r trwmpedi, y symbalau, a’r offerynnau cerdd eraill wrth iddyn nhw foli Jehofa, “oherwydd mae ef yn dda; mae ei gariad ffyddlon yn dragwyddol.” Yna, ar yr union foment honno cafodd y tŷ, tŷ Jehofa, ei lenwi â chwmwl. 14  Roedd yr offeiriaid yn methu parhau â’u dyletswyddau oherwydd y cwmwl, gan fod gogoniant Jehofa wedi llenwi tŷ’r gwir Dduw.

Troednodiadau

Hynny yw, Gŵyl y Pebyll.
Neu “yr offeiriaid a oedd yn Lefiaid.”