Ail Cronicl 6:1-42
6 Bryd hynny, dywedodd Solomon: “Dywedodd Jehofa y byddai’n byw yn y tywyllwch dwfn.
2 Nawr rydw i wedi adeiladu tŷ gogoneddus iti, rhywle iti fyw ynddo am byth.”
3 Yna trodd y brenin i wynebu’r bobl a dechreuodd fendithio holl gynulleidfa Israel wrth i holl gynulleidfa Israel sefyll.
4 Dywedodd: “Clod i Jehofa, Duw Israel, yr un sydd wedi cyflawni â’i ddwylo ei hun yr hyn y gwnaeth ef ei addo i fy nhad Dafydd â’i geg ei hun drwy ddweud,
5 ‘O’r diwrnod y des i â fy mhobl allan o wlad yr Aifft, dydw i ddim wedi dewis dinas allan o holl lwythau Israel i adeiladu tŷ ynddi er mwyn i fy enw gael ei anrhydeddu, a dydw i ddim wedi dewis dyn i fod yn arweinydd dros fy mhobl Israel.
6 Ond rydw i wedi dewis Jerwsalem er mwyn i fy enw gael ei anrhydeddu yno, ac rydw i wedi dewis Dafydd i fod dros fy mhobl Israel.’
7 A dymuniad calon fy nhad Dafydd oedd adeiladu tŷ er mwyn enw Jehofa, Duw Israel.
8 Ond dywedodd Jehofa wrth fy nhad Dafydd, ‘Dymuniad dy galon oedd adeiladu tŷ er mwyn fy enw i, ac mae hynny’n beth da iawn.
9 Er hynny, nid ti fydd yn adeiladu’r tŷ, ond dy fab dy hun fydd yn cael ei eni i ti yw’r un a fydd yn adeiladu tŷ er mwyn fy enw i.’
10 Mae Jehofa wedi cyflawni’r addewid a wnaeth ef, oherwydd rydw i wedi cymryd lle fy nhad Dafydd, ac rydw i’n eistedd ar orsedd Israel, yn union fel gwnaeth Jehofa addo. Hefyd, rydw i wedi adeiladu’r tŷ er mwyn enw Jehofa, Duw Israel,
11 ac yno rydw i wedi gosod yr Arch sy’n cynnwys y cyfamod a wnaeth Jehofa â phobl Israel.”
12 Yna safodd o flaen allor Jehofa yng ngolwg holl gynulleidfa Israel, ac estynnodd ei ddwylo tua’r nefoedd.
13 (Oherwydd roedd Solomon wedi gwneud llwyfan gopr ac wedi ei rhoi ynghanol y cwrt. Roedd yn bum cufydd* o hyd, pum cufydd o led, a thri chufydd o uchder; a safodd arni.) Ac aeth ar ei liniau o flaen holl gynulleidfa Israel ac estynnodd ei ddwylo tua’r nefoedd,
14 a dywedodd: “O Jehofa, Duw Israel, does ’na ddim Duw fel ti yn y nefoedd nac ar y ddaear, sy’n cadw’r cyfamod ac sy’n dangos cariad ffyddlon tuag at dy weision sy’n cerdded o dy flaen di â’u holl galonnau.
15 Rwyt ti wedi cadw’r addewid wnest ti i dy was Dafydd fy nhad. Gwnest ti’r addewid â dy geg dy hun, a heddiw rwyt ti wedi ei gyflawni â dy law dy hun.
16 Ac nawr, O Jehofa, Duw Israel, cadwa’r addewid wnest ti i dy was Dafydd fy nhad pan ddywedaist ti: ‘Os bydd dy feibion yn talu sylw i’r ffordd maen nhw’n byw drwy gerdded yn unol â fy nghyfraith, yn union fel rwyt ti wedi gwneud, yna bydd ’na wastad un o dy ddisgynyddion di yn eistedd ar orsedd Israel.’
17 O Jehofa, Duw Israel, plîs gad i’r addewid wnest ti i dy was Dafydd fy nhad ddod yn wir.
18 “Ond a fydd Duw yn wir yn byw gyda’r ddynoliaeth ar y ddaear? Edrycha! Ni all y nefoedd, na nefoedd y nefoedd, dy ddal di, felly sut gall y tŷ hwn rydw i wedi ei adeiladu dy ddal di?
19 Nawr plîs tala sylw i fy ngweddi ac i fy nghais am drugaredd, O Jehofa fy Nuw, a gwranda ar fy nghri am help ac ar y weddi rydw i’n ei chyflwyno o dy flaen di.
20 Cadwa dy lygaid ar y tŷ hwn ddydd a nos, ar y lle hwn y dywedaist ti y byddet ti’n rhoi dy enw arno, er mwyn gwrando ar fy ngweddi pan fydda i, dy was, yn troi at y deml ac yn gweddïo.
21 A gwranda ar fy erfyniadau am help, ac ar erfyniadau dy bobl Israel pan fyddan nhw’n gweddïo i gyfeiriad y deml hon, a gwranda o’r nefoedd lle rwyt ti’n byw; ie, plîs gwranda arnon ni a maddau inni.
22 “Os bydd dyn yn pechu yn erbyn dyn arall ac yn gorfod tyngu llw* y mae’n atebol iddo, ac yn dod o flaen dy allor yn y tŷ hwn ar ôl tyngu’r llw,
23 yna gwranda o’r nefoedd a gweithreda, a barna dy weision drwy ddial ar yr un drygionus, a’i gosbi am beth mae ef wedi ei wneud, a thrwy gyhoeddi bod yr un cyfiawn yn ddieuog a’i wobrwyo yn ôl ei gyfiawnder.
24 “Ac os bydd dy bobl Israel yn cael eu trechu gan elyn am eu bod nhw wedi parhau i bechu yn dy erbyn di, ond maen nhw wedyn yn troi yn ôl atat ti ac yn clodfori dy enw ac yn gweddïo ac yn erfyn arnat ti am drugaredd yn y tŷ hwn,
25 yna plîs gwranda o’r nefoedd a maddau i dy bobl Israel am eu pechod a thyrd â nhw yn ôl i’r wlad y gwnest ti ei rhoi iddyn nhw a’u cyndadau.
26 “Pan fydd y nefoedd wedi cau a does ’na ddim glaw am eu bod nhw wedi parhau i bechu yn dy erbyn di, ac maen nhw’n troi at y lle hwn i weddïo ac yn clodfori dy enw ac yn troi yn ôl o’u pechod am dy fod ti wedi eu disgyblu nhw,*
27 yna plîs gwranda o’r nefoedd a maddeua i dy weision, dy bobl Israel, am eu pechod, oherwydd byddi di’n eu dysgu nhw ynglŷn â’r ffordd dda y dylen nhw gerdded ynddi; a gwna iddi lawio ar y wlad gwnest ti ei rhoi i dy bobl fel etifeddiaeth.
28 “Os bydd newyn neu haint yn dod ar y wlad, os bydd y cnydau yn cael eu difetha gan lwydni, gwyntoedd poeth, neu heidiau o locustiaid;* os bydd eu gelynion yn ymosod arnyn nhw yn unrhyw un o ddinasoedd y wlad, neu os bydd unrhyw fath arall o bla neu haint yn digwydd,
29 pa bynnag weddi, pa bynnag gais am drugaredd fydd yn cael ei wneud gan unrhyw ddyn neu gan dy holl bobl Israel (oherwydd mae pob un yn gwybod ei bla ei hun a’i boen ei hun) pan fyddan nhw’n estyn eu dwylo allan tuag at y tŷ hwn,
30 yna plîs gwranda o’r nefoedd lle rwyt ti’n byw a plîs maddeua; a gwobrwya bob un yn ôl ei ffyrdd am dy fod ti’n adnabod ei galon (ti yn unig sy’n gwybod beth sydd yn y galon),
31 fel y byddan nhw’n dy ofni di drwy gerdded yn dy ffyrdd am yr holl ddyddiau byddan nhw’n byw yn y wlad gwnest ti ei rhoi i’n cyndadau.
32 “Hefyd, ynglŷn â’r estronwr sydd ddim yn un o dy bobl Israel, ac sy’n dod o wlad bell oherwydd dy enw mawr* a dy law gref a dy fraich sydd wedi ei hestyn allan i weithredu, ac sy’n dod ac yn gweddïo i gyfeiriad y tŷ hwn,
33 yna plîs gwranda o’r nefoedd lle rwyt ti’n byw, a gwna bopeth mae’r estronwr yn ei ofyn gen ti er mwyn i holl bobl y ddaear adnabod dy enw a dy ofni di, fel mae dy bobl Israel yn gwneud, ac er mwyn iddyn nhw wybod bod y tŷ hwn rydw i wedi ei adeiladu yn anrhydeddu dy enw.
34 “Os byddi di’n anfon dy bobl i ryfela yn erbyn eu gelynion, ni waeth ble maen nhw, ac maen nhw’n gweddïo arnat ti i gyfeiriad y ddinas rwyt ti wedi ei dewis, ac i gyfeiriad y tŷ rydw i wedi ei adeiladu er mwyn dy enw,
35 yna gwranda o’r nefoedd ar eu gweddi ac ar eu cais am drugaredd a gweithreda ar eu rhan.
36 “Os byddan nhw’n pechu yn dy erbyn di (oherwydd does ’na neb sydd byth yn pechu), ac os byddi di’n gwylltio’n lân â nhw ac yn gadael iddyn nhw syrthio i ddwylo eu gelynion, ac mae’r gelyn yn eu cymryd nhw i ffwrdd yn gaeth i wlad sy’n bell neu’n agos,
37 ac os byddan nhw wedyn yn callio yn y wlad lle maen nhw’n gaeth, ac yn troi yn ôl atat ti ac yn erfyn arnat ti am ffafr yng ngwlad eu caethiwed gan ddweud, ‘Rydyn ni wedi pechu a gwneud drygioni,’
38 ac yna’n troi yn ôl atat ti â’u holl galonnau ac â’u holl eneidiau* yng ngwlad eu gelynion, yng ngwlad eu caethiwed, ac yn gweddïo arnat ti i gyfeiriad y wlad a roddaist ti i’w cyndadau ac i gyfeiriad y ddinas rwyt ti wedi ei dewis a’r tŷ rydw i wedi ei adeiladu er mwyn dy enw,
39 yna o’r nefoedd lle rwyt ti’n byw, gwranda ar eu gweddi ac ar eu cais am drugaredd a gweithreda ar eu rhan, a maddau i dy bobl sydd wedi pechu yn dy erbyn di.
40 “Nawr, O fy Nuw, plîs agora dy lygaid a thala sylw i’r gweddïau sy’n cael eu cyflwyno yn y lle hwn.
41 Ac nawr, O Jehofa Dduw, dos i fyny gydag Arch dy nerth i dy orffwysfa. Gad i dy offeiriaid, O Jehofa Dduw, wisgo achubiaeth, a gad i dy rai ffyddlon lawenhau yn dy ddaioni.
42 O Jehofa Dduw, paid â gwrthod dy un eneiniog. Cofia’r cariad ffyddlon gwnest ti ei ddangos i dy was Dafydd.”
Troednodiadau
^ Roedd cufydd yn gyfartal â 44.5 cm (17.5 mod.).
^ Hynny yw, llw fyddai’n dod â chosb ar yr un a fyddai’n ei dorri.
^ Neu “eu gwneud nhw’n ostyngedig.”
^ Neu “o geiliogod y rhedyn; sioncod y gwair.”
^ Neu “dy enw da.”