Ail Cronicl 7:1-22

  • Y deml yn llenwi â gogoniant Jehofa (1-3)

  • Seremonïau yn ystod y cysegriad (4-10)

  • Jehofa yn ymddangos i Solomon (11-22)

7  Nawr unwaith i Solomon orffen gweddïo, daeth tân i lawr o’r nefoedd a llosgi’r offrwm llosg a’r aberthau, a gwnaeth gogoniant Jehofa lenwi’r tŷ. 2  Roedd yr offeiriaid yn methu mynd i mewn i dŷ Jehofa gan fod gogoniant Jehofa wedi llenwi tŷ Jehofa. 3  Ac roedd holl bobl Israel yn gwylio pan ddaeth y tân i lawr a phan oedd gogoniant Jehofa ar y tŷ, a dyma nhw’n mynd ar eu gliniau ar y palmant ac yn ymgrymu’n isel â’u hwynebau i’r llawr gan ddiolch i Jehofa, “oherwydd mae ef yn dda; mae ei gariad ffyddlon yn dragwyddol.” 4  Nawr dyma’r brenin a’r bobl i gyd yn offrymu aberthau o flaen Jehofa. 5  Aberthodd y Brenin Solomon 22,000 o wartheg a 120,000 o ddefaid. A gwnaeth y brenin a’r bobl i gyd ddathlu’r ffaith fod tŷ’r gwir Dduw wedi ei gwblhau. 6  Roedd yr offeiriaid yn sefyll ar ddyletswydd, ynghyd â’r Lefiaid a oedd â’r offerynnau a oedd yn cael eu defnyddio fel cyfeiliant ar gyfer y gân i Jehofa. (Roedd y Brenin Dafydd wedi gwneud yr offerynnau hyn er mwyn diolch i Jehofa a’i foli gyda nhw*—“oherwydd mae ei gariad ffyddlon yn dragwyddol.”) Ac roedd yr offeiriaid yn canu’r trwmpedi yn uchel o’u blaenau nhw, tra bod yr Israeliaid i gyd yn sefyll. 7  Yna sancteiddiodd Solomon ganol y cwrt a oedd o flaen tŷ Jehofa, oherwydd dyna lle roedd rhaid iddo gynnig yr offrymau llosg a braster yr aberthau heddwch, oherwydd roedd yr allor gopr roedd Solomon wedi ei gwneud yn rhy fach i ddal yr holl aberthau llosg, yr offrymau grawn, a braster yr aberthau heddwch. 8  Bryd hynny, gwnaeth Solomon gynnal yr ŵyl am saith diwrnod gydag Israel gyfan, cynulleidfa enfawr o Lebo-hamath* i lawr at Wadi’r Aifft. 9  Ond ar yr wythfed diwrnod,* dyma nhw’n cynnal cynulliad sanctaidd am eu bod nhw wedi cynnal cysegriad yr allor am saith diwrnod a’r ŵyl am saith diwrnod arall. 10  Yna ar y trydydd diwrnod ar hugain* o’r seithfed mis, anfonodd y bobl i ffwrdd i’w cartrefi yn llawen ac â chalonnau hapus oherwydd yr holl ddaioni roedd Jehofa wedi ei ddangos tuag at Dafydd a Solomon a’i bobl Israel. 11  Felly dyma Solomon yn gorffen tŷ Jehofa a thŷ’r brenin;* a llwyddodd Solomon i wneud popeth roedd ei galon yn dymuno ei wneud ynglŷn â thŷ Jehofa a’i dŷ ei hun. 12  Yna ymddangosodd Jehofa i Solomon yn ystod y nos a dweud wrtho: “Rydw i wedi clywed dy weddi, ac rydw i wedi dewis y lle hwn i fi fy hun fel tŷ ar gyfer aberthau. 13  Pan fydda i’n cau’r nefoedd fel na fydd hi’n glawio, a phan fydda i’n gorchymyn i’r locustiaid* ddifa’r wlad, ac os bydda i’n anfon pla ymysg fy mhobl, 14  wedyn os bydd fy mhobl, y rhai sy’n dwyn fy enw, yn eu gwneud eu hunain yn ostyngedig ac yn gweddïo ac yn cefnu ar eu ffyrdd drygionus, yna bydda i’n clywed o’r nefoedd ac yn maddau eu pechod ac yn gwneud eu gwlad yn ffrwythlon unwaith eto. 15  Nawr bydd fy llygaid yn agored a fy nghlustiau’n gwrando’n astud ar weddïau sy’n cael eu cyflwyno yn y lle hwn. 16  Ac nawr rydw i wedi dewis y tŷ a’i sancteiddio fel y bydd fy enw i yno yn barhaol, a bydd fy llygaid a fy nghalon yn wastad yno. 17  “A tithau, os byddi di’n cerdded o fy mlaen i fel gwnaeth dy dad Dafydd drwy wneud popeth rydw i wedi ei orchymyn iti, ac os byddi di’n ufuddhau i fy neddfau a fy marnedigaethau, 18  yna bydda i’n sefydlu gorsedd dy frenhiniaeth, yn union fel gwnes i gyfamod â dy dad Dafydd drwy ddweud, ‘Bydd ’na wastad un o dy ddisgynyddion di yn teyrnasu dros Israel.’ 19  Ond os byddwch chi’n cefnu arna i, ac yn gwrthod fy neddfau a’r gorchmynion rydw i wedi eu rhoi o’ch blaenau chi, ac os byddwch chi’n mynd ac yn gwasanaethu duwiau eraill ac yn ymgrymu iddyn nhw, 20  bydda i’n dadwreiddio Israel o’r wlad rydw i wedi ei rhoi iddyn nhw, ac yn gwrthod* y tŷ rydw i wedi ei sancteiddio ar gyfer fy enw, a bydda i’n gwneud i’r holl bobloedd ddirmygu’r tŷ* a bydd yn destun sbort. 21  Bydd y tŷ hwn yn adfeilion, a bydd pawb sy’n mynd heibio yn syllu ac yn rhyfeddu, gan ddweud, ‘Pam gwnaeth Jehofa hynny i’r wlad hon ac i’r tŷ hwn?’ 22  Yna byddan nhw’n dweud, ‘Am eu bod nhw wedi cefnu ar Jehofa, Duw eu cyndadau, a ddaeth â nhw allan o wlad yr Aifft, ac am eu bod nhw wedi croesawu duwiau eraill ac wedi ymgrymu iddyn nhw a’u gwasanaethu nhw. Dyna pam daeth ef â’r trychineb hwn i gyd arnyn nhw.’”

Troednodiadau

Efallai yn cyfeirio at y Lefiaid.
Neu “o fynedfa Hamath.”
Y diwrnod ar ôl yr ŵyl, neu’r 15fed diwrnod.
Neu “23ain diwrnod.”
Neu “a phalas y brenin.”
Neu “ceiliogod rhedyn; sioncod gwair.”
Neu “bwrw allan o fy ngolwg.”
Llyth., “a bydd yn ddihareb ymysg y bobloedd.”