Ail Cronicl 8:1-18

  • Prosiectau adeiladu eraill Solomon (1-11)

  • Trefnu addoliad yn y deml (12-16)

  • Llynges Solomon (17, 18)

8  Adeiladodd Solomon dŷ Jehofa a’i dŷ* ei hun mewn 20 mlynedd. 2  Wedyn, ailadeiladodd y dinasoedd roedd Hiram wedi eu rhoi iddo a symud Israeliaid i fyw yno. 3  Ar ben hynny, aeth Solomon i Hamath-soba a’i chipio. 4  Yna ailadeiladodd Tadmor yn yr anialwch yn ogystal â’r holl ddinasoedd roedd ef wedi eu hadeiladu yn Hamath ar gyfer storio nwyddau. 5  Hefyd, ailadeiladodd Beth-horon Uchaf a Beth-horon Isaf, dinasoedd caerog gyda waliau, giatiau, a barrau, 6  yn ogystal â Balath a’r holl ddinasoedd lle roedd Solomon yn storio nwyddau, holl ddinasoedd y cerbydau, dinasoedd y marchogion, a beth bynnag roedd Solomon eisiau ei adeiladu yn Jerwsalem, yn Lebanon, ac yn yr holl wlad oedd o dan ei awdurdod. 7  Ynglŷn â’r holl bobl oedd ar ôl o blith yr Hethiaid, yr Amoriaid, y Peresiaid, yr Hefiaid, a’r Jebusiaid, y rhai nad oedden nhw’n rhan o Israel, 8  eu disgynyddion oedd ar ôl yn y wlad—y rhai doedd yr Israeliaid ddim wedi eu dinistrio—cawson nhw eu gorfodi gan Solomon i lafurio hyd heddiw. 9  Ond ni wnaeth Solomon orfodi unrhyw un o’r Israeliaid i weithio fel caethweision, oherwydd nhw oedd ei filwyr, penaethiaid ei swyddogion, a phenaethiaid ei yrwyr cerbydau a’i farchogion. 10  Roedd ’na 250 o benaethiaid ar swyddogion y Brenin Solomon, y fformyn dros y bobl. 11  Hefyd daeth Solomon â merch Pharo i fyny o Ddinas Dafydd i’r tŷ roedd ef wedi ei adeiladu iddi, am ei fod wedi dweud: “Er mai hi yw fy ngwraig, ni ddylai hi fyw yn nhŷ Dafydd, brenin Israel, oherwydd mae pob man mae Arch Jehofa wedi bod yn sanctaidd.” 12  Yna offrymodd Solomon aberthau llosg i Jehofa ar allor Jehofa, yr un roedd ef wedi ei hadeiladu o flaen y cyntedd. 13  Dilynodd y drefn ddyddiol a gwnaeth offrymau yn ôl gorchymyn Moses ar gyfer y Sabothau, y lleuadau newydd, a’r tair gŵyl flynyddol—Gŵyl y Bara Croyw, Gŵyl yr Wythnosau, a Gŵyl y Pebyll. 14  Ar ben hynny, penododd grwpiau o offeiriaid i wasanaethu yn ôl cyfarwyddiadau ei dad Dafydd, yn ogystal ag aseinio dyletswyddau i’r Lefiaid, i foli Duw ac i wasanaethu ym mhresenoldeb yr offeiriaid yn ôl y drefn ddyddiol. Ac ynglŷn â’r grwpiau o borthorion, rhoddodd ddyletswyddau iddyn nhw ar gyfer y gwahanol byrth. Gwnaeth hyn i gyd yn ôl gorchymyn Dafydd, dyn y gwir Dduw. 15  Ac ni wnaethon nhw wyro o’r gorchymyn a roddodd y brenin i’r offeiriaid a’r Lefiaid ynglŷn ag unrhyw fater nac ynglŷn â’r stordai. 16  Felly roedd holl waith Solomon yn drefnus iawn,* o’r diwrnod y cafodd sylfaen tŷ Jehofa ei gosod nes iddo gael ei orffen. Felly cafodd tŷ Jehofa ei gwblhau. 17  Dyna pryd aeth Solomon i Esion-geber ac i Eloth ar lan y môr yng ngwlad Edom. 18  Anfonodd Hiram longau a morwyr profiadol ato yng ngofal ei weision ei hun. Aethon nhw gyda gweision Solomon i Offir a chymryd 450 talent* o aur o fan ’na a mynd â’r aur at y Brenin Solomon.

Troednodiadau

Neu “a’i balas.”
Neu “wedi ei gwblhau.”
Roedd talent yn gyfartal â 34.2 kg (1,101 oz t).