Ail Cronicl 9:1-31

  • Brenhines Seba yn ymweld â Solomon (1-12)

  • Cyfoeth Solomon (13-28)

  • Marwolaeth Solomon (29-31)

9  Nawr roedd brenhines Seba wedi clywed am Solomon, felly daeth hi i Jerwsalem i roi Solomon ar brawf drwy ofyn cwestiynau cymhleth iddo.* Daeth hi gyda grŵp mawr o weision gyda chamelod yn cario olew balm a llawer iawn o aur a gemau gwerthfawr. Aeth hi i mewn at Solomon a siarad ag ef am bopeth oedd yn agos at ei chalon. 2  Yna atebodd Solomon ei holl gwestiynau. Doedd dim byd yn rhy anodd i Solomon ei esbonio iddi. 3  Pan welodd brenhines Seba ddoethineb Solomon, y tŷ roedd ef wedi ei adeiladu, 4  y bwyd ar ei fwrdd, yr holl swyddogion oedd yn eistedd wrth ei fwrdd, y ffordd roedd ei weision yn gweini a’r dillad crand roedden nhw’n eu gwisgo, ei brif weision gweini* a’r dillad crand roedden nhw’n eu gwisgo, a’r offrymau llosg roedd yn eu cynnig yn nhŷ Jehofa yn rheolaidd, roedd hi wedi ei syfrdanu’n llwyr. 5  Felly dywedodd hi wrth y brenin: “Mae popeth glywais i yn fy ngwlad fy hun am dy ddoethineb a’r pethau rwyt ti wedi eu cyflawni* yn wir. 6  Ond doeddwn i ddim yn credu’r hyn roeddwn i wedi ei glywed nes imi ddod a’i weld â fy llygaid fy hun. Ac edrycha! doeddwn i ddim wedi clywed yr hanner am dy ddoethineb mawr. Rwyt ti’n llawer gwell nag yr oeddwn i wedi clywed. 7  Mor hapus ydy dy bobl, ac mor hapus ydy dy weision sy’n sefyll o dy flaen di o hyd yn gwrando ar dy ddoethineb! 8  Clod i Jehofa dy Dduw, yr un sy’n hapus â’r hyn rwyt ti’n ei wneud ac sydd felly wedi dy roi di ar ei orsedd fel brenin ar gyfer Jehofa dy Dduw. Am fod dy Dduw yn caru Israel, ac er mwyn gwneud i’r bobl hyn barhau am byth, mae ef wedi dy benodi di drostyn nhw, yn frenin i farnu’n deg ac i reoli’n gyfiawn.” 9  Yna, rhoddodd hi 120 talent* o aur a llawer iawn o olew balm a gemau gwerthfawr i’r brenin. Ni ddaeth neb â chymaint â hynny o olew balm i mewn i’r wlad byth eto. 10  Ar ben hynny, dyma weision Hiram a gweision Solomon, y rhai a ddaeth ag aur o Offir, hefyd yn dod â choed sandalwydd* a gemau gwerthfawr. 11  Defnyddiodd y brenin y coed sandalwydd er mwyn gwneud grisiau ar gyfer tŷ Jehofa ac ar gyfer tŷ’r brenin,* a hefyd i wneud telynau ac offerynnau llinynnol ar gyfer y cantorion. Doedd dim byd tebyg iddyn nhw erioed wedi cael ei weld o’r blaen yng ngwlad Jwda. 12  Beth bynnag roedd brenhines Seba eisiau neu’n gofyn amdano roedd y Brenin Solomon yn ei roi iddi, mwy nag yr oedd hi wedi ei roi i’r brenin. Yna, dyma hi’n gadael ac yn mynd yn ôl i’w gwlad ei hun gyda’i gweision. 13  Ac roedd yr holl aur roedd Solomon yn ei dderbyn mewn blwyddyn yn pwyso 666 talent, 14  heb sôn am yr hyn roedd yn ei gael gan y masnachwyr, y marchnadwyr, a gan holl frenhinoedd Arabia a llywodraethwyr y wlad a oedd yn dod ag aur ac arian i Solomon. 15  Gwnaeth y Brenin Solomon 200 tarian fawr o aloi aur (aeth 600 sicl* o aloi aur ar bob tarian) 16  a 300 bwcler* o aloi aur (aeth tri mina* o aur ar bob bwcler). Yna dyma’r brenin yn eu rhoi nhw yn Nhŷ Coedwig Lebanon. 17  Hefyd, dyma’r brenin yn gwneud gorsedd fawr ifori a’i gorchuddio ag aur pur. 18  Roedd ’na chwe stepen yn arwain at yr orsedd, ac roedd ’na stôl droed aur wedi ei chysylltu â hi, ac roedd gan yr orsedd ddwy fraich, ac roedd ’na ddau lew yn sefyll bob ochr iddi. 19  Roedd ’na 12 llew yn sefyll ar y chwe stepen, un ar bob pen i’r chwe stepen. Doedd dim teyrnas arall wedi gwneud unrhyw beth tebyg. 20  Roedd holl gwpanau y Brenin Solomon wedi eu gwneud o aur, ac roedd holl lestri ac offer gweini Tŷ Coedwig Lebanon wedi eu gwneud o aur pur. Doedd dim byd wedi ei wneud o arian oherwydd roedd arian yn cael ei ystyried yn ddiwerth yn nyddiau Solomon. 21  Byddai llongau’r brenin yn mynd i Tarsis gyda gweision Hiram. Unwaith bob tair blynedd, byddai llongau Tarsis yn dychwelyd wedi eu llwytho ag aur, arian, ifori, epaod, a pheunod. 22  Felly roedd y Brenin Solomon yn fwy cyfoethog ac yn ddoethach na holl frenhinoedd eraill y ddaear. 23  Ac roedd brenhinoedd y ddaear gyfan eisiau mynd i weld Solomon i glywed y doethineb roedd y gwir Dduw wedi ei roi yn ei galon. 24  Byddai pob un yn dod ag anrheg—pethau wedi eu gwneud o arian, pethau wedi eu gwneud o aur, dillad, arfau, olew balm, ceffylau, a mulod—ac roedd hyn yn digwydd flwyddyn ar ôl blwyddyn. 25  Roedd gan Solomon 4,000 o stablau ar gyfer ei geffylau yn ogystal â cherbydau a 12,000 o geffylau,* ac roedd yn eu cadw nhw yn y dinasoedd cerbyd ac yn agos at y brenin yn Jerwsalem. 26  Roedd yn teyrnasu dros yr holl frenhinoedd o’r Afon* hyd at wlad y Philistiaid ac at ffin yr Aifft. 27  Dyma’r brenin yn gwneud yr arian yn Jerwsalem mor gyffredin â’r cerrig, a’r coed cedrwydd mor gyffredin â’r coed sycamor yn y Seffela. 28  A byddan nhw’n dod â cheffylau i Solomon o’r Aifft ac o’r gwledydd eraill i gyd. 29  Ynglŷn â gweddill hanes Solomon, o’r dechrau i’r diwedd, onid ydy hynny wedi ei ysgrifennu ymhlith geiriau Nathan y proffwyd, ym mhroffwydoliaeth Aheia o Seilo, ac yn y cofnod o weledigaethau a gafodd Ido y gweledydd ynglŷn â Jeroboam fab Nebat? 30  Teyrnasodd Solomon yn Jerwsalem dros Israel gyfan am 40 mlynedd. 31  Yna bu farw Solomon,* felly dyma nhw’n ei gladdu yn Ninas Dafydd ei dad; a daeth ei fab Rehoboam yn frenin yn ei le.

Troednodiadau

Neu “drwy osod posau.”
Neu “ei drulliaid,” swyddogion y llys brenhinol a oedd yn tywallt gwin neu ddiodydd eraill i’r brenin.
Neu “dweud.”
Roedd talent yn gyfartal â 34.2 kg (1,101 oz t).
Hynny yw, coed almug.
Neu “palas y brenin.”
Roedd sicl yn gyfartal ag 11.4 g (0.367 oz t).
Tarian fach oedd yn aml yn cael ei chario gan fwasaethwyr.
Yn yr Ysgrythurau Hebraeg roedd mina yn gyfartal â 570 g (18.35 oz t).
Neu “o farchogion.”
Hynny yw, Afon Ewffrates.
Neu “Yna gorweddodd Solomon i lawr i orffwys gyda’i gyndadau.”