Ail Ioan 1:1-13
1 Yr henuriad* at y wraig sydd wedi cael ei dewis* ac at ei phlant, y rhai rydw i’n wir yn eu caru, ac nid fi’n unig ond pawb sydd wedi dod i adnabod y gwir,
2 o achos y gwir sy’n aros ynon ni ac a fydd gyda ni am byth.
3 Fe fydd caredigrwydd rhyfeddol, trugaredd, a heddwch gyda ni, oddi wrth Dduw y Tad ac oddi wrth Iesu Grist, Mab y Tad, ynghyd â’r gwir a chariad.
4 Rydw i’n llawenhau yn fawr iawn oherwydd fy mod i wedi dysgu bod rhai o dy blant yn cerdded yn y gwir, yn union fel y cawson ni ein gorchymyn gan y Tad.
5 Felly rydw i’n erfyn arnat ti, wraig, inni garu ein gilydd. (Rydw i’n ysgrifennu, nid gorchymyn newydd iti, ond un rydyn ni wedi ei gael o’r cychwyn.)
6 A dyma beth mae cariad yn ei olygu, ein bod ni’n parhau i gerdded yn ôl ei orchmynion. Dyma yw’r gorchymyn, yn union fel y clywsoch chi o’r cychwyn, eich bod chi’n parhau i gerdded ynddo.
7 Oherwydd mae llawer o dwyllwyr wedi mynd allan i’r byd, y rhai nad ydyn nhw’n cydnabod bod Iesu Grist wedi dod yn y cnawd. Hwn yw’r twyllwr a’r anghrist.
8 Cadwch lygad arnoch chi’ch hunain, rhag ofn ichi golli’r pethau rydyn ni wedi gweithio’n galed amdanyn nhw, er mwyn ichi dderbyn gwobr lawn.
9 Unrhyw un sy’n gwrthod y Mab, dydy cymeradwyaeth Duw ddim ganddo. Yr un sy’n cyffesu’r Mab yw’r un y mae’r Tad wedi ei gymeradwyo.
10 Os yw rhywun yn dod atoch chi ac nid yw’n dysgu yn unol â’r hyn a ddysgodd Crist, peidiwch â’i wahodd i mewn i’ch cartrefi na’i gyfarch.
11 Oherwydd bod yr un sy’n ei gyfarch yn rhannu yn ei weithredoedd drwg.
12 Er bod gen i lawer o bethau i’w hysgrifennu atoch chi, dydw i ddim eisiau gwneud hynny â phapur ac inc, ond rydw i’n gobeithio dod atoch chi a siarad wyneb yn wyneb, er mwyn i’ch llawenydd fod yn llawn.
13 Mae plant dy chwaer, y wraig sydd wedi cael ei dewis, yn anfon eu cyfarchion atat ti.
Troednodiadau
^ Neu “Y dyn oedrannus.”
^ Gallai “y wraig sydd wedi cael ei dewis” gyfeirio at un wraig benodol neu gynulleidfa Gristnogol yn y ganrif gyntaf.