Ail Samuel 1:1-27

  • Dafydd yn clywed am farwolaeth Saul (1-16)

  • Galarnad Dafydd dros Saul a Jonathan (17-27)

1  Ar ôl marwolaeth Saul, pan oedd Dafydd wedi dychwelyd o drechu’r Amaleciaid, arhosodd Dafydd yn Siclag am ddau ddiwrnod.  Ar y trydydd diwrnod, cyrhaeddodd dyn o wersyll Saul gyda’i ddillad wedi eu rhwygo a phridd ar ei ben. Pan aeth at Dafydd, syrthiodd i’r ddaear o’i flaen ac ymgrymu.  Gofynnodd Dafydd iddo: “O le rwyt ti wedi dod?” Atebodd: “Rydw i wedi dianc o wersyll Israel.”  Gofynnodd Dafydd iddo: “Sut aeth pethau yno? Plîs dyweda wrtho i.” I hynny dywedodd: “Mae’r milwyr wedi ffoi o’r frwydr ac mae llawer wedi syrthio a marw. Mae hyd yn oed Saul a’i fab Jonathan wedi marw.”  Yna gofynnodd Dafydd i’r dyn ifanc: “Sut rwyt ti’n gwybod bod Saul a’i fab Jonathan wedi marw?”  Atebodd y dyn ifanc: “Digwydd bod, roeddwn i ar Fynydd Gilboa, a dyna lle roedd Saul yn pwyso ar ei waywffon, ac roedd y cerbydau a’r marchogion wedi dal i fyny ag ef.  Wrth iddo droi a fy ngweld i, galwodd arna i, a dywedais, ‘Dyma fi!’  Gofynnodd imi: ‘Pwy wyt ti?’ ac atebais, ‘Amaleciad ydw i.’  A dyma yntau’n dweud, ‘Tyrd yma plîs a fy lladd i oherwydd rydw i mewn poen ofnadwy, ond rydw i’n dal yn fyw.’ 10  Felly gwnes i sefyll drosto a’i ladd, oherwydd roeddwn i’n gwybod na fyddai’n gallu goroesi ar ôl y fath anaf. Yna cymerais y goron oedd ar ei ben, a’r freichled oedd am ei fraich, a des i â nhw yma atat ti, fy arglwydd.” 11  Ar hynny, dyma Dafydd yn gafael yn ei ddillad ac yn eu rhwygo nhw, a dyna wnaeth yr holl ddynion oedd gydag ef hefyd. 12  A dyma nhw’n galaru ac yn wylo ac yn ymprydio nes iddi nosi am fod Saul, ei fab Jonathan, pobl Jehofa,* a thŷ Israel wedi cael eu lladd â’r cleddyf. 13  Gofynnodd Dafydd i’r dyn ifanc: “O le rwyt ti’n dod?” Atebodd: “Rydw i’n fab i un o’r Amaleciaid, estronwr yn Israel.” 14  Yna dywedodd Dafydd wrtho: “Pam doedd gen ti ddim ofn lladd un eneiniog Jehofa?” 15  Gyda hynny, galwodd Dafydd ar un o’r dynion ifanc a dweud: “Cama ymlaen a’i ladd.” Felly tarodd ef i lawr, a bu farw. 16  Dywedodd Dafydd wrtho: “Rwyt ti’n gyfrifol am dy farwolaeth dy hun, oherwydd mae dy geg wedi tystiolaethu yn dy erbyn di drwy ddweud, ‘Y fi wnaeth ladd un eneiniog Jehofa.’” 17  Yna, dyma Dafydd yn canu’r alarnad* hon dros Saul a’i fab Jonathan, 18  a dywedodd y dylai pobl Jwda ddysgu’r alarnad hon o’r enw “Y Bwa,” sydd wedi ei hysgrifennu yn llyfr Jasar: 19  “Mae dy harddwch, O Israel, yn gorwedd yn farw ar dy uchelfannau. O fel mae’r arwyr wedi syrthio! 20  Peidiwch â sôn am hyn yn Gath;Peidiwch â’i gyhoeddi ar strydoedd Ascalon,Neu bydd merched y Philistiaid yn llawenhau,Neu bydd merched y paganiaid* yn gorfoleddu. 21  Chi fynyddoedd Gilboa,Gadewch i chi fod heb wlith na glaw,A gadewch i’ch pridd beidio â chynhyrchu cyfraniadau sanctaidd,Oherwydd dyna lle cafodd tarianau’r arwyr eu difetha,Dydy tarian Saul ddim bellach wedi ei heneinio ag olew. 22  Roedd bwa Jonathan a chleddyf SaulYn trochi yng ngwaed gelynion ac yn trywanu braster y rhai cryf;Wnaethon nhw byth fethu. 23  Saul a Jonathan, mor annwyl a hoffus yn ystod eu bywydau,Hyd yn oed yn eu marwolaeth chawson nhw ddim eu gwahanu. Roedden nhw’n fwy chwim nag eryrod,Yn gryfach na llewod. 24  O ferched Israel, wylwch dros Saul,Yr un a wnaeth eich gwisgo chi mewn ysgarlad a dillad crand,A rhoi addurniadau aur ar eich dillad. 25  O fel mae’r arwyr wedi syrthio yn y frwydr! Mae Jonathan yn gorwedd yn farw ar dy uchelfannau! 26  Rydw i’n torri fy nghalon drostot ti, fy mrawd Jonathan;Roeddet ti mor annwyl imi. Roeddwn i’n trysori dy gariad di yn fwy na chariad merched.* 27  O fel mae’r arwyr wedi syrthioA’r arfau rhyfel wedi cael eu dinistrio!”

Troednodiadau

Enw personol unigryw Duw sy’n cael ei gynrychioli gan y pedair cytsain Hebraeg יהוה (YHWH). Mae’n ymddangos bron 7,000 o weithiau yn yr Ysgrythurau Hebraeg.
Neu “canu’r gân o alar.”
Llyth., “y dynion sydd heb gael eu henwaedu.”
Neu “menywod.”