Ail Samuel 10:1-19

  • Buddugoliaethau dros Ammon a Syria (1-19)

10  Yn hwyrach ymlaen bu farw brenin yr Ammoniaid, a daeth ei fab Hanun yn frenin yn ei le.  Gyda hynny dywedodd Dafydd: “Gwna i ddangos cariad ffyddlon tuag at Hanun fab Nahas fel gwnaeth ei dad ddangos cariad ffyddlon tuag ata i.” Felly anfonodd Dafydd ei weision i’w gysuro ar ôl iddo golli ei dad. Ond pan ddaeth gweision Dafydd i wlad yr Ammoniaid,  dywedodd tywysogion yr Ammoniaid wrth eu harglwydd Hanun: “Wyt ti’n meddwl bod Dafydd yn anrhydeddu dy dad drwy anfon cysurwyr atat ti? Onid ydy ef yn eu hanfon i chwilio trwy’r ddinas ac i’w hysbïo ac i’w choncro?”  Felly dyma Hanun yn cymryd gweision Dafydd ac yn siafio hanner barf pob un ac yn torri eu dillad yn eu hanner at eu penolau a’u hanfon nhw i ffwrdd.  Pan glywodd Dafydd am y peth, anfonodd ddynion ar unwaith i gyfarfod â’i weision, am fod dynion Hanun wedi codi cywilydd mawr arnyn nhw; a dywedodd y brenin wrthyn nhw: “Arhoswch yn Jericho nes bydd barf pob un ohonoch chi wedi tyfu eto, ac yna dewch yn ôl.”  Ymhen amser sylweddolodd yr Ammoniaid eu bod nhw wedi dod yn ddrewdod i Dafydd, felly dyma nhw’n talu Syriaid o Beth-rehob a Syriaid o Soba i frwydro gyda nhw, 20,000 o filwyr; a brenin Maacha, gyda’i 1,000 o filwyr; ac o Istob,* 12,000 o filwyr.  Pan glywodd Dafydd am hyn, dyma’n anfon Joab a’r fyddin gyfan, gan gynnwys ei filwyr gorau, i frwydro yn eu herbyn.  Ac aeth yr Ammoniaid allan a threfnu eu hunain yn barod i frwydro wrth fynedfa porth y ddinas tra bod y Syriaid o Soba a Rehob, yn ogystal ag Istob* a Maacha, ar eu pennau eu hunain yn y caeau agored.  Pan welodd Joab fod y gelyn yn dod yn ei erbyn o’r tu blaen ac o’r tu ôl, dewisodd rai o filwyr gorau Israel a’u trefnu nhw’n barod i frwydro yn erbyn y Syriaid. 10  Rhoddodd weddill y dynion o dan awdurdod ei frawd Abisai, er mwyn eu trefnu nhw yn barod i frwydro yn erbyn yr Ammoniaid. 11  Yna dywedodd: “Os bydd y Syriaid yn dod yn rhy gryf i mi, yna bydd rhaid i ti ddod i fy achub i; ond os bydd yr Ammoniaid yn dod yn rhy gryf i ti, bydda i’n dod i dy achub di. 12  Rhaid inni fod yn gryf ac yn ddewr ar gyfer ein pobl a dinasoedd ein Duw, a bydd Jehofa yn gwneud beth sy’n dda yn ei olwg.” 13  Yna dyma Joab a’i ddynion yn mynd allan i ymosod ar y Syriaid, a dyma nhw’n ffoi oddi wrtho. 14  Pan welodd yr Ammoniaid fod y Syriaid wedi ffoi, dyma nhwthau’n ffoi oddi wrth Abisai ac yn mynd i mewn i’r ddinas. Ar ôl brwydro yn erbyn yr Ammoniaid, daeth Joab yn ôl i Jerwsalem. 15  Pan welodd y Syriaid eu bod nhw wedi cael eu trechu gan Israel, dyma nhw’n casglu at ei gilydd unwaith eto. 16  Felly anfonodd Hadadeser am y Syriaid yn ardal yr Afon,* ac yna daethon nhw i Helam, gyda Sobach, pennaeth byddin Hadadeser, yn eu harwain nhw. 17  Pan glywodd Dafydd am hyn, dyma’n casglu Israel i gyd at ei gilydd ar unwaith a chroesi’r Iorddonen a dod i Helam. Yna trefnodd y Syriaid eu hunain yn barod i frwydro yn erbyn Dafydd a dechrau ymladd. 18  Ond gwnaeth y Syriaid ffoi oddi wrth Israel; a lladdodd Dafydd 700 o filwyr cerbyd, 40,000 o farchogion y Syriaid, a Sobach, pennaeth eu byddin. 19  Pan welodd yr holl frenhinoedd oedd yn weision i Hadadeser eu bod nhw wedi cael eu trechu gan Israel, dyma nhw’n gwneud heddwch ag Israel ar unwaith ac yn ildio i’w hawdurdod; ac roedd y Syriaid yn ofni helpu’r Ammoniaid ar ôl hynny.

Troednodiadau

Neu “o ddynion Tob.”
Neu “â dynion Tob.”
Hynny yw, Afon Ewffrates.