Ail Samuel 11:1-27
11 Ar ddechrau’r flwyddyn,* ar yr adeg pan oedd brenhinoedd yn arfer mynd allan i ryfela, anfonodd Dafydd Joab a’i weision a byddin gyfan Israel i ddinistrio’r Ammoniaid, a gwnaethon nhw amgylchynu* Rabba tra oedd Dafydd yn aros yn Jerwsalem.
2 Un noswaith,* cododd Dafydd o’i wely a cherdded o gwmpas to tŷ* y brenin. O fan ’na, gwelodd ddynes* yn ymolchi, ac roedd y ddynes* yn brydferth iawn.
3 Anfonodd Dafydd rywun i holi am y ddynes* a chafodd yr ateb: “Onid hon ydy Bath-seba ferch Eliam a gwraig Ureia yr Hethiad?”
4 Yna anfonodd Dafydd negesydd i’w nôl hi. Felly aeth hi i mewn ato, a gwnaeth ef gysgu gyda hi. (Digwyddodd hyn tra oedd hi’n ei phuro ei hun o’i haflendid.*) Wedyn, aeth hi yn ôl i’w thŷ.
5 Daeth y ddynes* yn feichiog, ac anfonodd hi neges at Dafydd yn dweud: “Rydw i’n feichiog.”
6 Gyda hynny, anfonodd Dafydd neges at Joab yn dweud: “Anfona Ureia yr Hethiad ata i.” Felly dyma Joab yn gwneud hynny.
7 Pan ddaeth Ureia ato, dyma Dafydd yn gofyn iddo sut roedd Joab a’r fyddin, a sut roedd y rhyfel yn mynd.
8 Yna dywedodd Dafydd wrth Ureia: “Dos i lawr i dy dŷ i ymlacio.”* Pan adawodd Ureia dŷ y brenin, cafodd anrheg y brenin* ei hanfon ar ei ôl.
9 Ond, cysgodd Ureia wrth fynedfa tŷ y brenin gyda holl weision eraill ei arglwydd, a wnaeth ef ddim mynd i lawr i’w dŷ ei hun.
10 Felly cafodd Dafydd wybod: “Wnaeth Ureia ddim mynd i lawr i’w dŷ ei hun.” Gyda hynny, dywedodd Dafydd wrth Ureia: “Onid wyt ti newydd ddod yn ôl o daith? Pam na wnest ti fynd i lawr i dy dŷ?”
11 Atebodd Ureia: “Mae’r Arch ac Israel a Jwda yn byw mewn pebyll, ac mae fy arglwydd Joab a gweision fy arglwydd yn gwersylla yn y caeau agored. Felly a ddylwn i fynd i mewn i fy nhŷ i fwyta ac yfed a chysgu gyda fy ngwraig? Mor sicr â’r ffaith dy fod ti’n fyw,* wna i ddim gwneud y fath beth!”
12 Yna dywedodd Dafydd wrth Ureia: “Arhosa yma heddiw hefyd, ac yfory gwna i dy anfon di i ffwrdd.” Felly arhosodd Ureia yn Jerwsalem y diwrnod hwnnw a’r diwrnod wedyn.
13 Yna gwnaeth Dafydd ei wahodd i ddod i fwyta ac yfed gydag ef, a dyma Dafydd yn gwneud iddo feddwi. Ond gyda’r nos, aeth allan i gysgu ar ei wely gyda gweision ei arglwydd, a wnaeth ef ddim mynd i lawr i’w dŷ.
14 Yn y bore, ysgrifennodd Dafydd lythyr at Joab a’i anfon drwy law Ureia.
15 Ysgrifennodd yn y llythyr: “Rhowch Ureia ar flaen y gad lle mae’r ymladd ar ei fwyaf ffyrnig. Yna ciliwch yn ôl y tu ôl iddo fel y bydd yn cael ei daro i lawr ac yn marw.”
16 Roedd Joab wedi bod yn gwylio’r ddinas yn ofalus, a gwnaeth ef osod Ureia lle roedd yn gwybod bod ’na filwyr cryf.
17 Pan ddaeth dynion y ddinas allan ac ymladd yn erbyn Joab, syrthiodd rhai o weision Dafydd, ac roedd Ureia yr Hethiad ymhlith y rhai a fu farw.
18 Yna adroddodd Joab yr holl newyddion am y rhyfel wrth Dafydd.
19 Gorchmynnodd i’r negesydd: “Ar ôl iti orffen sôn wrth y brenin am holl newyddion y rhyfel,
20 efallai bydd y brenin yn gwylltio ac yn dweud wrthot ti, ‘Pam roedd rhaid ichi fynd mor agos at y ddinas i frwydro? Onid oeddech chi’n gwybod y bydden nhw’n saethu oddi ar ben y wal?
21 Pwy wnaeth daro i lawr Abimelech fab Jerwbbeseth? Onid dynes* wnaeth daflu maen melin arno oddi ar ben y wal gan wneud iddo farw yn Thebes? Pam roedd rhaid ichi fynd mor agos at y wal?’ Yna dyweda, ‘Mae dy was Ureia yr Hethiad wedi marw hefyd.’”
22 Felly, aeth y negesydd i ddweud wrth Dafydd bopeth roedd Joab wedi gorchymyn iddo ei ddweud.
23 Yna dywedodd y negesydd wrth Dafydd: “Roedd eu dynion yn gryfach na ni, a daethon nhw allan yn ein herbyn ni yn y cae; ond gwnaethon ni eu gyrru nhw yn ôl at fynedfa porth y ddinas.
24 Roedd y bwa saethwyr yn saethu at dy weision oddi ar ben y wal a bu farw rhai o weision y brenin; bu farw dy was Ureia yr Hethiad hefyd.”
25 I hynny dywedodd Dafydd wrth y negesydd: “Dyweda hyn wrth Joab: ‘Paid â gadael i’r mater hwn dy boeni di, oherwydd mae’r cleddyf yn lladd y naill fel y llall. Brwydra’n galetach yn erbyn y ddinas a’i choncro.’ A rho anogaeth iddo.”
26 Pan glywodd gwraig Ureia fod ei gŵr wedi marw, dechreuodd hi alaru drosto.
27 Unwaith i’r cyfnod o alaru ddod i ben, anfonodd Dafydd amdani a daeth ef â hi i’w dŷ, a daeth hi yn wraig iddo a geni mab iddo. Ond doedd Jehofa ddim yn hapus o gwbl am beth roedd Dafydd wedi ei wneud.*
Troednodiadau
^ Hynny yw, yn y gwanwyn.
^ Neu “gwnaethon nhw warchae ar.”
^ Neu “Yn hwyr un prynhawn.”
^ Neu “palas.”
^ Neu “gwelodd fenyw.”
^ Neu “y fenyw.”
^ Neu “y fenyw.”
^ Efallai aflendid ar ôl ei misglwyf.
^ Neu “y fenyw.”
^ Llyth., “i olchi dy draed.”
^ Efallai yn cyfeirio at fwyd roedd rhywun yn ei anfon at ei westeion anrhydeddus.
^ Neu “fod dy enaid di’n fyw.”
^ Neu “menyw.”
^ Llyth., “Ond roedd yr hyn a wnaeth Dafydd yn ddrwg yng ngolwg Jehofa.”