Ail Samuel 14:1-33
14 Nawr sylwodd Joab fab Seruia fod calon y brenin yn dyheu am Absalom.
2 Felly anfonodd Joab am ddynes* graff o Tecoa a dywedodd wrthi: “Esgus* dy fod ti’n galaru, plîs, a gwisga ddillad galar, a phaid â rhoi olew arnat ti dy hun. Rydw i eisiau iti ymddwyn fel dynes* sydd wedi bod yn galaru am oes.
3 Yna dos i mewn a siarada â’r brenin fel hyn.” Gyda hynny, dyma Joab yn dweud wrthi beth i’w ddweud.
4 Aeth y ddynes* o Tecoa i mewn at y brenin ac ymgrymu o’i flaen â’i hwyneb ar y llawr a dweud: “Helpa fi, O frenin!”
5 Atebodd y brenin: “Beth sy’n bod?” I hynny dywedodd hi: “Rydw i’n weddw; mae fy ngŵr i wedi marw.
6 Fy arglwydd, roedd gen i ddau fab, a dyma nhw’n ymladd yn erbyn ei gilydd yn y cae. Doedd ’na neb i’w gwahanu nhw, a dyma un yn taro’r llall i lawr ac yn ei ladd.
7 Nawr, fy arglwydd, mae fy nheulu cyfan wedi troi yn fy erbyn i ac maen nhw’n dweud, ‘Rho inni’r un wnaeth daro ei frawd i lawr er mwyn inni ei ladd i dalu am fywyd ei frawd, hyd yn oed os mai ef yw’r unig fab sydd gen ti ar ôl!’ Bydden nhw’n diffodd yr unig fflam* sydd gen i ar ôl, heb adael enw na disgynyddion ar wyneb y ddaear i fy ngŵr.”
8 Yna dywedodd y brenin wrth y ddynes:* “Dos adref, a gwna i setlo’r mater drostot ti.”
9 Gyda hynny, dywedodd y ddynes* o Tecoa wrth y brenin: “O fy arglwydd y brenin, gad i’r bai fod arna i ac ar dŷ fy nhad, ond gad i’r brenin a’i orsedd fod yn ddieuog.”
10 Yna dywedodd y brenin: “Os bydd unrhyw un yn sôn mwy am hyn wrthot ti, tyrd ag ef ata i, a fydd ef ddim yn dy boeni di eto.”
11 Ond dywedodd hi: “Plîs, O frenin, cofia am Jehofa dy Dduw fel na fydd yr un sy’n dial gwaed yn gwneud mwy o niwed byth ac yn lladd fy mab.” Ac atebodd yntau: “Mor sicr â’r ffaith fod Jehofa yn fyw, ni fydd yr un blewyn o wallt dy fab yn disgyn i’r ddaear.”
12 Yna dywedodd y ddynes:* “Plîs ga i ddweud rhywbeth arall wrthot ti, fy arglwydd y brenin?” Ac atebodd: “Cei, siarada!”
13 Dywedodd y ddynes:* “Pam rwyt ti wedi meddwl gwneud rhywbeth fel hyn yn erbyn pobl Dduw? Pan mae’r brenin yn siarad fel hyn mae’n gwneud ei hun yn euog, oherwydd dwyt ti ddim yn dod â dy fab dy hun yn ôl, yr un gwnest ti ei alltudio.
14 Byddwn ni i gyd yn marw, a byddwn ni fel dŵr sy’n cael ei dywallt* ar y ddaear all neb ei gasglu yn ôl. Ond fyddai Duw ddim yn cymryd bywyd rhywun. Os ydy rhywun yn cael ei alltudio oddi wrtho, yna mae Duw yn edrych am resymau i ddod â’r un a gafodd ei alltudio yn ôl.
15 Rydw i wedi dod i mewn i ddweud hyn wrth fy arglwydd y brenin am fod y bobl wedi codi ofn arna i. Felly, fy arglwydd, dyna pam gwnes i ofyn i siarad â’r brenin gan ddweud, ‘Efallai bydd y brenin yn gweithredu ar fy rhan.
16 Efallai bydd y brenin yn gwrando arna i, ei forwyn, ac yn fy achub i o law’r dyn sydd eisiau fy amddifadu i a fy unig fab o’r etifeddiaeth roddodd Duw inni.’
17 Yna gwnes i ddweud, ‘Gad i air fy arglwydd y brenin roi tawelwch meddwl imi,’ oherwydd mae fy arglwydd y brenin fel angel y gwir Dduw sy’n gallu gwahaniaethu rhwng beth sy’n dda a beth sy’n ddrwg. Gad i Jehofa dy Dduw fod gyda ti.”
18 Atebodd y brenin: “Plîs ateba fi, a phaid â chuddio unrhyw beth.” Ac atebodd y ddynes:* “Plîs, siarada, fy arglwydd y brenin.”
19 Yna gofynnodd y brenin: “Ai Joab sydd wedi gofyn iti wneud hyn?” Atebodd y ddynes:* “Mor sicr â’r ffaith dy fod ti’n fyw, O fy arglwydd y brenin, dyna yn union sydd wedi digwydd. Dy was Joab wnaeth ddweud wrtho i beth i’w wneud a beth i’w ddweud.
20 Dy was Joab sydd wedi gwneud hyn er mwyn iti weld pethau o safbwynt gwahanol, ond mae gen ti, fy arglwydd, ddoethineb fel angel y gwir Dduw ac rwyt ti’n gwybod am bopeth sy’n digwydd yn y wlad.”
21 Yna dywedodd y brenin wrth Joab: “Iawn, dyna wna i. Dos i nôl y dyn ifanc Absalom.”
22 Gyda hynny, ymgrymodd Joab ar y llawr o flaen y brenin a’i foli, a dywedodd: “Heddiw mae dy was yn gwybod fy mod i wedi dy blesio di, O fy arglwydd y brenin, oherwydd rwyt ti wedi gweithredu ar fy nymuniad.”
23 Yna cododd Joab a mynd i Gesur, a daeth ag Absalom i Jerwsalem.
24 Ond dywedodd y brenin: “Gad iddo fynd yn ôl i’w dŷ ei hun, ond chaiff ef ddim gweld fy wyneb i.” Felly aeth Absalom yn ôl i’w dŷ ei hun a wnaeth ef ddim gweld wyneb y brenin.
25 Nawr yn Israel gyfan, doedd ’na’r un dyn mor olygus ag Absalom. Roedd yn berffaith ei olwg o’i gorun i’w sawdl.
26 Pan oedd yn siafio ei ben roedd ei wallt yn pwyso 200 sicl* yn ôl y safon frenhinol.* Roedd rhaid iddo ei siafio ar ddiwedd bob blwyddyn am ei fod mor drwm.
27 Cafodd Absalom dri mab ac un ferch o’r enw Tamar. Roedd hi’n ddynes brydferth iawn.
28 Parhaodd Absalom i fyw yn Jerwsalem am ddwy flynedd gyfan, ond wnaeth ef ddim gweld wyneb y brenin.
29 Felly dyma Absalom yn galw am Joab er mwyn ei anfon i siarad â’r brenin drosto, ond gwrthododd Joab fynd ato. Yna anfonodd amdano unwaith eto, ond roedd yn dal i wrthod.
30 Yn y pen draw, dywedodd wrth ei weision: “Mae cae Joab wrth ymyl fy nghae i, ac mae’n tyfu haidd ynddo. Ewch a’i roi ar dân.” Felly aeth gweision Absalom a rhoi’r cae ar dân.
31 Gyda hynny, cododd Joab a mynd i dŷ Absalom a dweud wrtho: “Pam gwnaeth dy weision roi fy nghae i ar dân?”
32 Atebodd Absalom: “Edrycha! Anfonais y neges hon atat ti, ‘Tyrd yma, a gad imi dy anfon di at y brenin i ofyn: “Pam rydw i wedi dod o Gesur? Byddai wedi bod yn well imi aros yno. Nawr gad imi weld wyneb y brenin, ac os oes ’na fai arna i, yna dylai fy lladd i.”’”
33 Felly dyma Joab yn mynd i mewn at y brenin ac yn dweud hyn wrtho. Yna galwodd ar Absalom a ddaeth i mewn at y brenin a syrthio ar ei wyneb ar y llawr o’i flaen ac ymgrymu. A dyma’r brenin yn rhoi cusan i Absalom.
Troednodiadau
^ Neu “am fenyw.”
^ Neu “Smalio; cogio.”
^ Neu “menyw.”
^ Neu “y fenyw.”
^ Hynny yw, yr unig obaith am ddisgynyddion.
^ Neu “y fenyw.”
^ Neu “y fenyw.”
^ Neu “y fenyw.”
^ Neu “y fenyw.”
^ Neu “arllwys.”
^ Neu “y fenyw.”
^ Neu “y fenyw.”
^ Tua 2.3 kg (5 lb).
^ Efallai roedd hyn yn bwys safonol oedd yn cael ei gadw yn y palas brenhinol, neu yn sicl “brenhinol” a oedd yn wahanol i’r sicl cyffredin.