Ail Samuel 15:1-37

  • Cynllwyn Absalom a’i wrthryfel (1-12)

  • Dafydd yn ffoi o Jerwsalem (13-30)

  • Ahitoffel yn ymuno ag Absalom (31)

  • Husai yn cael ei anfon i wrthwynebu Ahitoffel (32-37)

15  Ar ôl y pethau hyn i gyd, dyma Absalom yn paratoi cerbyd a cheffylau iddo’i hun a threfnu i 50 o ddynion redeg o’i flaen.  Byddai Absalom yn codi’n gynnar ac yn sefyll wrth ymyl y ffordd sy’n mynd at borth y ddinas. Bryd bynnag byddai unrhyw ddyn yn dod ag achos cyfreithiol i’r brenin ei farnu, byddai Absalom yn ei alw ato ac yn dweud: “O ba ddinas rwyt ti’n dod?” A byddai’n ateb: “Rydw i’n dod o un o lwythau Israel.”  Byddai Absalom yn dweud wrtho: “Edrycha, rwyt ti’n iawn, mae gen ti achos cryf, ond does ’na neb ar gael gan y brenin i wrando ar dy achos.”  Byddai Absalom yn dweud: “O na fyddwn i’n cael fy mhenodi’n farnwr yn y wlad! Yna gallai pob dyn sydd ag achos cyfreithiol neu gŵyn ddod ata i, a byddwn i’n sicrhau y bydd yn cael cyfiawnder.”  A phan fyddai dyn yn dod ato i ymgrymu iddo, byddai Absalom yn gafael ynddo ac yn rhoi cusan iddo.  Dyma beth byddai Absalom yn ei wneud i’r holl Israeliaid oedd yn dod i mewn at y brenin i gael eu barnu; felly parhaodd Absalom i ennill calonnau dynion Israel.  Ar ôl pedair blynedd,* dywedodd Absalom wrth y brenin: “Plîs gad imi fynd i Hebron i dalu’r adduned wnes i i Jehofa.  Oherwydd pan oeddwn i’n byw yn Gesur yn Syria, gwnes i’r adduned ddwys hon: ‘Os bydd Jehofa yn dod â fi yn ôl i Jerwsalem, gwna i gyflwyno offrwm i Jehofa.’”*  Felly dywedodd y brenin wrtho: “Dos mewn heddwch.” Felly cododd a mynd i Hebron. 10  Yna anfonodd Absalom ysbïwyr drwy holl lwythau Israel, gan ddweud wrthyn nhw: “Pan fyddwch chi’n clywed sŵn y corn cyhoeddwch, ‘Mae Absalom wedi dod yn frenin yn Hebron!’” 11  Nawr roedd 200 o ddynion o Jerwsalem wedi mynd yno gydag Absalom; cawson nhw eu gwahodd ac aethon nhw yn ddiniwed, heb wybod beth oedd yn digwydd. 12  Hefyd, pan oedd yn offrymu’r aberthau, anfonodd Absalom am Ahitoffel o Gilo, cynghorwr Dafydd. Roedd mwy a mwy o bobl yn ymuno ag Absalom yn ei gynllwyn yn erbyn y brenin. 13  Ymhen amser, daeth rhywun i roi gwybod i Dafydd fod calonnau dynion Israel wedi troi at Absalom. 14  Ar unwaith dywedodd Dafydd wrth ei weision i gyd oedd gydag ef yn Jerwsalem: “Codwch, a dewch inni redeg i ffwrdd oherwydd fydd dim un ohonon ni yn gallu dianc oddi wrth Absalom! Brysiwch, rhag ofn iddo ddal i fyny â ni yn gyflym a dod â dinistr arnon ni a tharo’r ddinas â’r cleddyf!” 15  Atebodd gweision y brenin: “Mae dy weision yn barod i wneud beth bynnag mae ein harglwydd y brenin yn ei benderfynu.” 16  Felly aeth y brenin allan gyda’i holl dŷ yn ei ddilyn, ond gadawodd y brenin ddeg o’i wragedd eraill* i ofalu am y palas. 17  A thra oedd y brenin ar ei ffordd allan o’r ddinas gyda’r holl bobl yn ei ddilyn, stopion nhw wrth Beth-merhac. 18  Roedd yr holl weision a oedd yn gadael gydag ef, yn ogystal â’r Cerethiaid, y Pelethiaid, a’r Gethiaid, y 600 o ddynion oedd wedi ei ddilyn o Gath, yn pasio heibio wrth i’r brenin wneud yn siŵr fod neb ar goll. 19  Yna dywedodd y brenin wrth Itai y Gethiad: “Pam dylet ti ddod gyda ni hefyd? Dos yn ôl ac aros gyda’r brenin newydd, oherwydd rwyt ti’n estronwr a gafodd ei alltudio o’i gartref. 20  Rwyt ti newydd gyrraedd, felly sut galla i ofyn iti heddiw fynd gyda mi ble bynnag rydw i’n mynd? Dos yn ôl a chymera dy frodyr gyda ti, a gad i Jehofa wastad ddangos cariad ffyddlon tuag atat ti!” 21  Ond atebodd Itai: “Mor sicr â’r ffaith fod Jehofa yn fyw, a mor sicr â’r ffaith fod fy arglwydd y brenin yn fyw, ble bynnag bydd fy arglwydd y brenin yn mynd, bydda i yno hefyd. Rydw i hyd yn oed yn barod i farw gyda ti!” 22  Gyda hynny dywedodd Dafydd wrth Itai: “Dos a chroesi’r dyffryn.” Felly dyma Itai y Gethiad yn croesi drosodd gyda’i holl ddynion a’i blant i gyd. 23  Roedd pawb yn y wlad yn wylo’n uchel tra oedd y bobl hyn i gyd yn croesi drosodd, ac roedd y brenin yn sefyll wrth Ddyffryn Cidron; roedd pawb yn croesi drosodd i’r ffordd sy’n arwain at yr anialwch. 24  Roedd Sadoc yno hefyd, a gydag ef roedd yr holl Lefiaid a oedd yn cario arch cyfamod y gwir Dduw; a dyma nhw’n gosod Arch y gwir Dduw i lawr; ac aeth Abiathar i fyny, tra oedd y bobl i gyd yn gadael y ddinas ac yn croesi’r dyffryn. 25  Ond dywedodd y brenin wrth Sadoc: “Cymera Arch y gwir Dduw yn ôl i’r ddinas. Os ydw i’n plesio Jehofa, bydd ef yn dod â fi yn ôl hefyd ac yn gadael imi weld yr Arch a’i chartref. 26  Ond os bydd Duw yn dweud, ‘Dwyt ti ddim yn fy mhlesio i,’ yna gad iddo wneud imi beth bynnag sy’n dda yn ei olwg.” 27  Dywedodd y brenin wrth Sadoc yr offeiriad: “Onid gweledydd wyt ti? Dylet ti ac Abiathar fynd yn ôl i’r ddinas mewn heddwch, a chymera dy fab Ahimaas gyda ti a Jonathan fab Abiathar. 28  Edrycha, bydda i’n oedi wrth rydau’r anialwch nes imi glywed gynnoch chi.” 29  Felly cymerodd Sadoc ac Abiathar Arch y gwir Dduw yn ôl i Jerwsalem, ac arhoson nhw yno. 30  Wrth i Dafydd fynd i fyny Mynydd yr Olewydd, roedd yn wylo; ac roedd wedi gorchuddio ei ben, ac roedd yn cerdded yn droednoeth. Roedd yr holl bobl oedd gydag ef hefyd wedi gorchuddio eu pennau ac roedden nhw’n wylo wrth iddyn nhw fynd i fyny. 31  Yna cafodd Dafydd wybod: “Mae Ahitoffel ymhlith y rhai sy’n cynllwynio ag Absalom.” I hynny dywedodd Dafydd: “O Jehofa, plîs tro gyngor Ahitoffel yn ffolineb!” 32  Pan gyrhaeddodd Dafydd y copa lle roedd pobl yn arfer ymgrymu i Dduw, roedd Husai yr Arciad yno i’w gyfarfod. Roedd wedi rhwygo ei ddillad a rhoi pridd ar ei ben. 33  Ond dywedodd Dafydd wrtho: “Os byddi di’n dod gyda fi, byddi di’n faich arna i. 34  Ond os byddi di’n mynd yn ôl i’r ddinas ac yn dweud wrth Absalom, ‘Fi yw dy was, O Frenin. Roeddwn i’n was i dy dad yn y gorffennol, ond nawr rydw i’n was i ti,’ yna gelli di ddrysu cynllun Ahitoffel ar fy rhan. 35  Onid ydy Sadoc ac Abiathar yr offeiriaid yno gyda ti? Rhaid iti ddweud wrthyn nhw bopeth rwyt ti’n ei glywed o dŷ y brenin. 36  Edrycha! Mae eu meibion yno gyda nhw, Ahimaas fab Sadoc a Jonathan fab Abiathar. Defnyddiwch nhw i roi gwybod imi bopeth rydych chi’n ei glywed.” 37  Felly aeth Husai, ffrind* Dafydd, i mewn i’r ddinas fel roedd Absalom yn cyrraedd Jerwsalem.

Troednodiadau

Neu efallai, “40 mlynedd.”
Neu “gwna i addoli Jehofa.”
Neu “o’i wragedd gordderch,” hynny yw, gwragedd eilradd a oedd yn aml yn gaethferched.
Neu “cynghorwr.”