Ail Samuel 16:1-23

  • Siba yn enllibio Meffiboseth (1-4)

  • Simei yn melltithio Dafydd (5-14)

  • Absalom yn derbyn Husai (15-19)

  • Cyngor Ahitoffel (20-23)

16  Pan oedd Dafydd ar ei ffordd i lawr y mynydd, roedd Siba, gwas Meffiboseth, yno i’w gyfarfod gyda phâr o asynnod, ac roedd ganddyn nhw 200 torth o fara ar eu cefnau, yn ogystal â 100 cacen o resins, 100 cacen o ffrwythau haf,* a jar fawr o win.  Yna dywedodd y brenin wrth Siba: “Pam rwyt ti wedi dod â’r pethau hyn?” Atebodd Siba: “Mae’r asynnod ar gyfer teulu’r brenin, mae’r bara a’r ffrwythau haf ar gyfer y dynion ifanc, ac mae’r gwin ar gyfer y rhai sy’n blino yn yr anialwch.”  Nawr dywedodd y brenin: “A ble mae mab* dy feistr?” Atebodd Siba: “Mae’n aros yn Jerwsalem am ei fod wedi dweud, ‘Heddiw, bydd yr Israeliaid yn fy eneinio i fel brenin yn union fel fy nhaid.’”*  Yna dywedodd y brenin wrth Siba: “Edrycha! Mae popeth sydd gan Meffiboseth yn perthyn i ti.” Atebodd Siba: “Rydw i’n ymgrymu o dy flaen di. Rydw i’n gobeithio y bydda i’n dy blesio di, fy arglwydd y brenin.”  Pan gyrhaeddodd y Brenin Dafydd Bahurim, daeth un o berthnasau Saul allan, Simei fab Gera, ac roedd yn gweiddi arno ac yn ei felltithio.  Roedd yn taflu cerrig at Dafydd ac at holl weision y Brenin Dafydd, yn ogystal â’r holl bobl a’r milwyr oedd bob ochr iddo.  Gwaeddodd Simei wrth iddo ei felltithio: “Dos o ’ma! Dos o ’ma, y llofrudd!* Rwyt ti’n dda i ddim!  Mae Jehofa wedi talu yn ôl iti am dy fod ti wedi llofruddio tŷ Saul, ac am dy fod ti wedi cymryd y deyrnas oddi wrtho. Felly mae Jehofa wedi rhoi’r deyrnas i dy fab Absalom, ac nawr rwyt ti mewn helbul am dy fod ti’n llofrudd!”  Yna dyma Abisai fab Seruia yn dweud wrth y brenin: “Pam dylai’r ci marw hwn felltithio fy arglwydd y brenin? Plîs, gad imi fynd draw a thorri ei ben i ffwrdd.” 10  Ond dywedodd y brenin: “Beth sydd gan hyn i’w wneud â chi, chi feibion Seruia? Gadewch iddo fy melltithio i, oherwydd mae Jehofa wedi dweud wrtho, ‘Melltithia Dafydd!’ Felly sut gallai rhywun ofyn iddo pam mae’n gwneud hyn?” 11  Yna dywedodd Dafydd wrth Abisai a’i weision i gyd: “Mae fy mab fy hun, sy’n perthyn imi drwy waed, yn trio fy lladd i, felly gymaint mwy byddai un o lwyth Benjamin eisiau fy lladd i! Gadewch lonydd iddo fy melltithio i, oherwydd mae Jehofa wedi dweud wrtho am wneud hynny! 12  Efallai bydd Jehofa yn gweld fy nioddefaint, ac efallai bydd Jehofa yn fy ngwobrwyo i â da yn hytrach na’r melltithion sy’n cael eu gweiddi arna i heddiw.” 13  Gyda hynny, parhaodd Dafydd a’i ddynion i gerdded i lawr y ffordd tra oedd Simei yn cerdded ar hyd ochr y mynydd yn gweiddi ac yn ei felltithio gan daflu cerrig a phridd. 14  O’r diwedd, dyma’r brenin a phawb oedd gydag ef yn cyrraedd lle roedden nhw wedi bwriadu mynd, ac roedden nhw wedi blino’n lân, felly dyma nhw’n gorffwys. 15  Yn y cyfamser roedd Absalom a holl ddynion Israel wedi cyrraedd Jerwsalem, ac roedd Ahitoffel gydag ef. 16  Pan ddaeth Husai yr Arciad, ffrind* Dafydd, i mewn at Absalom, dywedodd Husai wrth Absalom: “Hir oes i’r brenin! Hir oes i’r brenin!” 17  Gyda hynny, dywedodd Absalom wrth Husai: “Beth ddigwyddodd i dy gariad ffyddlon tuag at dy ffrind? Pam na wnest ti fynd gydag ef?” 18  Felly atebodd Husai: “Na, rydw i ar ochr yr un sydd wedi cael ei ddewis gan Jehofa, y bobl hyn, a holl ddynion Israel. Gwna i aros gydag ef. 19  Dyweda i eto, Pwy dylwn i ei wasanaethu? Onid ei fab? Yn union fel gwnes i wasanaethu dy dad, felly hefyd bydda i’n dy wasanaethu di.” 20  Yna dywedodd Absalom wrth Ahitoffel: “Rho gyngor imi. Beth dylen ni ei wneud?” 21  Atebodd Ahitoffel: “Cysga gyda gwragedd eraill* dy dad, y rhai gwnaeth ef eu gadael ar ôl i ofalu am y palas.* Yna bydd Israel gyfan yn clywed dy fod ti wedi gwneud dy hun yn ddrewdod i dy dad, a bydd hynny yn rhoi hyder i’r rhai sy’n dy gefnogi di.” 22  Felly dyma nhw’n codi pabell i Absalom ar y to, a chysgodd Absalom gyda gwragedd eraill* ei dad o flaen Israel gyfan. 23  Yn y dyddiau hynny, roedd cyngor Ahitoffel yn cael ei ystyried fel gair y gwir Dduw. Roedd Dafydd ac Absalom yn trystio’r holl gyngor roedd Ahitoffel yn ei roi.

Troednodiadau

Ffigys yn enwedig, ac efallai datys hefyd.
Neu “ŵyr.”
Neu “fy nhad-cu.”
Neu “rwyt ti’n waed euog.”
Neu “cynghorwr.”
Neu “gwragedd gordderch,” hynny yw, gwragedd eilradd a oedd yn aml yn gaethferched.
Neu “tŷ.”
Neu “gwragedd gordderch,” hynny yw, gwragedd eilradd a oedd yn aml yn gaethferched.