Ail Samuel 17:1-29

  • Husai yn drysu cyngor Ahitoffel (1-14)

  • Dafydd yn cael ei rybuddio; mae’n dianc oddi wrth Absalom (15-29)

    • Barsilai ac eraill yn rhoi cymorth (27-29)

17  Yna dywedodd Ahitoffel wrth Absalom: “Plîs gad imi ddewis 12,000 o ddynion i fynd ar ôl Dafydd heno.  Bydda i’n dal i fyny ag ef pan fydd wedi blino ac yn wan, ac yn gwneud iddo banicio; a bydd yr holl bobl gydag ef yn ffoi, a dim ond y brenin bydda i’n ei ladd.  Yna bydda i’n dod â’r holl bobl yn ôl atat ti. Os yw’r dyn rwyt ti’n edrych amdano yn marw, bydd ei bobl i gyd yn troi yn ôl atat ti, a bydd ’na heddwch.”  Roedd Absalom a holl henuriaid Israel yn meddwl bod hyn yn gynllun da.  Ond dywedodd Absalom: “Plîs galwch Husai yr Arciad hefyd, er mwyn inni gael clywed beth sydd ganddo i’w ddweud.”  Felly daeth Husai i mewn at Absalom. Yna dywedodd Absalom wrtho: “Dyma’r cyngor a roddodd Ahitoffel. A ddylen ni ddilyn ei gyngor? Os ddim, dyweda di beth dylen ni ei wneud.”  Gyda hynny, dywedodd Husai wrth Absalom: “Yn yr achos hwn, dydy cyngor Ahitoffel ddim yn dda!”  Aeth Husai ymlaen i ddweud: “Rwyt ti’n gwybod yn iawn bod dy dad a’i ddynion yn gryf, ac maen nhw’n wyllt, fel arth sydd wedi colli ei rhai bach* yn y cae. Ar ben hynny, mae dy dad yn filwr, a fydd ef ddim yn treulio’r nos gyda’r bobl.  Ar hyn o bryd, mae’n cuddio yn un o’r ogofâu* neu yn rhywle arall, ac os yw’n ymosod yn gyntaf, bydd y rhai sy’n clywed am y peth yn dweud, ‘Mae’r bobl sy’n dilyn Absalom wedi cael eu trechu!’ 10  Bydd hyd yn oed dyn dewr, sydd â chalon fel llew, yn gwywo mewn ofn, oherwydd mae Israel gyfan yn gwybod bod dy dad yn ddyn cryf, a bod ei ddynion yn ddewr. 11  Dyma fy nghyngor i: Gad i Israel gyfan gael eu casglu atat ti, o Dan i Beer-seba, mor niferus â’r tywod sydd ar lan y môr, a dylet ti eu harwain nhw i mewn i’r frwydr. 12  Byddwn ni’n dod yn ei erbyn ble bynnag mae ef, a byddwn ni’n disgyn arno yn union fel mae’r gwlith yn disgyn ar y ddaear; a fydd dim un ohonyn nhw yn goroesi, ef na’r un o’r dynion gydag ef. 13  Os bydd ef yn cilio yn ôl i ddinas, bydd Israel i gyd yn cario rhaffau i’r ddinas honno, a byddwn ni’n ei llusgo i lawr i’r dyffryn fel na fydd hyd yn oed un garreg fach ar ôl.” 14  Yna dywedodd Absalom a holl ddynion Israel: “Mae cyngor Husai yr Arciad yn well na chyngor Ahitoffel!” Roedd Jehofa ei hun wedi penderfynu drysu cyngor da Ahitoffel, fel bod Jehofa yn gallu dod â thrychineb ar Absalom. 15  Yn hwyrach ymlaen, dywedodd Husai wrth Sadoc ac Abiathar yr offeiriaid: “Dyma’r cyngor roddodd Ahitoffel i Absalom a henuriaid Israel, a dyma’r cyngor rydw i wedi ei roi. 16  Nawr anfona neges at Dafydd ar frys i’w rybuddio: ‘Paid ag aros wrth rydau’r anialwch* heno. Yn hytrach, sicrha dy fod ti’n croesi’r afon, neu efallai bydd y brenin a’r holl bobl gydag ef yn cael eu lladd.’” 17  Roedd Jonathan ac Ahimaas yn aros y tu allan i’r ddinas yn En-rogel, fel nad oedden nhw’n cael eu gweld gan unrhyw un. Felly aeth morwyn i ddweud wrthyn nhw am beth oedd yn digwydd, ac aethon nhwthau i roi gwybod i’r Brenin Dafydd am y peth. 18  Ond, dyma ddyn ifanc yn eu gweld nhw ac yn dweud wrth Absalom. Felly brysiodd Jonathan ac Ahimaas i fynd i dŷ dyn yn Bahurim oedd â ffynnon yn ei gwrt. Dyma nhw’n dringo i mewn i’r ffynnon, 19  a rhoddodd gwraig y dyn orchudd dros geg y ffynnon, a rhoi grawn wedi ei falu ar ben hwnnw fel nad oedd neb yn gwybod am y peth. 20  Daeth gweision Absalom at y ddynes* yn ei thŷ a gofyn: “Ble mae Ahimaas a Jonathan?” Atebodd y ddynes:* “Aethon nhw heibio, i gyfeiriad y dŵr.” Yna chwiliodd y dynion amdanyn nhw, ond ddaethon nhw ddim o hyd iddyn nhw, felly aethon nhw yn ôl i Jerwsalem. 21  Ar ôl i’r dynion fynd, daeth Ahimaas a Jonathan allan o’r ffynnon, a mynd i roi gwybod i’r Brenin Dafydd am gynllun Ahitoffel i ymosod arno. Dywedon nhw wrtho: “Cod, a chroesa’r afon ar unwaith.” 22  Cododd Dafydd a’r holl bobl a oedd gydag ef yn syth, a chroesi’r Iorddonen. Erbyn iddi wawrio, doedd ’na neb ar ôl oedd heb groesi’r Iorddonen. 23  Pan welodd Ahitoffel nad oedd ei gyngor wedi cael ei ddilyn, aeth ar gefn asyn a mynd adref i’w dref ei hun. Ar ôl rhoi trefn ar ei bethau, dyma’n ei grogi ei hun. Felly, bu farw a chafodd ei gladdu ym meddrod ei gyndadau. 24  Yn y cyfamser, aeth Dafydd i Mahanaim, a chroesodd Absalom yr Iorddonen gyda holl ddynion Israel. 25  Dyma Absalom yn penodi Amasa yn bennaeth ar y fyddin yn lle Joab. Roedd Amasa yn fab i Ithra yr Israeliad ac Abigail ferch Nahas, chwaer Seruia, mam Joab. 26  Gwersyllodd Israel ac Absalom yng ngwlad Gilead. 27  Cyn gynted ag y gwnaeth Dafydd gyrraedd Mahanaim, dyma Sobi fab Nahas o Rabba yr Ammoniaid, Machir fab Ammiel o Lo-debar, a Barsilai o Gilead oedd yn dod o Rogelim, 28  yn dod â gwelyau, powlenni, llestri clai, gwenith, haidd, blawd, grawn wedi ei rostio,* ffa, ffacbys, bwydydd sych eraill, 29  mêl, menyn, defaid, a chaws. Daethon nhw â hyn i gyd allan er mwyn i Dafydd a’r bobl gydag ef gael bwyta, oherwydd dywedon nhw: “Mae’r bobl yn llwglyd ac yn flinedig ac yn sychedig yn yr anialwch.”

Troednodiadau

Neu “ei chenawon.”
Neu “mewn pydew; ceunant.”
Neu efallai, “wrth wastatir sych yr anialwch.”
Neu “y fenyw.”
Neu “y fenyw.”
Neu “ei grasu.”