Ail Samuel 18:1-33

  • Absalom yn cael ei drechu ac yn marw (1-18)

  • Dafydd yn cael gwybod am farwolaeth Absalom (19-33)

18  Yna dyma Dafydd yn rhifo’r dynion oedd gydag ef ac yn penodi penaethiaid ar filoedd a phenaethiaid ar gannoedd.  Ac anfonodd Dafydd y bobl oedd gydag ef allan mewn tri grŵp, un o dan arweiniad Joab, un o dan arweiniad brawd Joab, Abisai fab Seruia, ac un o dan arweiniad Itai y Gethiad. Yna dywedodd y brenin wrth y dynion: “Bydda i’n mynd allan gyda chi hefyd.”  Ond dywedon nhw: “Rhaid iti beidio â mynd allan, oherwydd os byddwn ni’n ffoi, fyddai neb yn meddwl dim o’r peth, ac os bydd hanner ohonon ni’n marw, fyddai dim ots ganddyn nhw am dy fod ti’n werth 10,000 ohonon ni. Felly, byddai’n well iti aros yn y ddinas ac anfon mwy o help o fan ’na.”  Dywedodd y brenin wrthyn nhw: “Bydda i’n gwneud beth bynnag rydych chi’n meddwl sydd orau.” Felly safodd y brenin wrth ymyl porth y ddinas, ac aeth y dynion i gyd allan fesul cannoedd a fesul miloedd.  Yna rhoddodd y brenin y gorchymyn hwn i Joab, Abisai, ac Itai: “Byddwch yn dyner â’r dyn ifanc Absalom, er fy mwyn i.” Clywodd y dynion i gyd y brenin yn rhoi’r gorchymyn hwn am Absalom i’r penaethiaid.  Aeth y dynion allan i’r cae i gyfarfod Israel, a digwyddodd y frwydr yng nghoedwig Effraim.  Dyna lle cafodd pobl Israel eu gorchfygu gan weision Dafydd, a bu farw llawer iawn o bobl ar y diwrnod hwnnw—20,000 o ddynion.  Lledaenodd y frwydr drwy’r ardal i gyd. Ar ben hynny, cafodd mwy o bobl eu lladd gan beryglon y goedwig ar y diwrnod hwnnw na gan y cleddyf.  Yn y pen draw, daeth Absalom ar draws gweision Dafydd. Roedd Absalom ar gefn mul, ac aeth y mul o dan ganghennau trwchus coeden fawr, a dyma wallt Absalom yn cael ei ddal yn y goeden fawr, fel ei fod yn hongian yn yr awyr wrth i’r mul fynd yn ei flaen. 10  A gwelodd rhywun beth ddigwyddodd, a dywedodd wrth Joab: “Edrycha! Rydw i wedi gweld Absalom yn hongian mewn coeden fawr.” 11  Atebodd Joab: “Os gwelaist ti hynny, pam na wnest ti ei daro i lawr yn y fan a’r lle? Yna byddwn i’n sicr wedi rhoi deg darn o arian a gwregys iti.” 12  Ond dywedodd y dyn wrth Joab: “Hyd yn oed petaswn i’n derbyn 1,000 darn o arian, allwn i ddim codi fy llaw yn erbyn mab y brenin, oherwydd clywson ni’r brenin yn rhoi’r gorchymyn hwn i ti, i Abisai, ac i Itai, ‘Gwnewch yn siŵr nad oes neb yn niweidio’r dyn ifanc Absalom.’ 13  Petaswn i wedi bod yn anufudd ac wedi ei ladd,* yn bendant byddai’r brenin wedi clywed am y peth, ac ni fyddet ti wedi fy amddiffyn i.” 14  I hynny dywedodd Joab: “Dydw i ddim am wastraffu mwy o amser gyda ti!” Felly cymerodd dair saeth* yn ei law a thrywanu Absalom yn ei galon tra oedd yn dal yn fyw yng nghanol y goeden fawr. 15  Yna daeth deg o weision oedd yn cario arfau Joab a tharo Absalom nes iddo farw. 16  Yna canodd Joab y corn i stopio’r frwydr, a daeth y dynion yn ôl o fynd ar ôl Israel. 17  Cymeron nhw Absalom a’i daflu i mewn i bydew mawr yn y goedwig, a rhoi pentwr enfawr o gerrig drosto. A dyma Israel gyfan yn ffoi i’w cartrefi. 18  Nawr tra oedd Absalom yn fyw, roedd wedi codi colofn iddo’i hun yn Nyffryn* y Brenin, oherwydd dywedodd wrtho’i hun: “Does gen i ddim mab, felly bydd fy enw yn cael ei anghofio.” Felly, rhoddodd ei enw ei hun ar y golofn, ac mae’n cael ei galw’n Gofgolofn Absalom hyd heddiw. 19  Dywedodd Ahimaas fab Sadoc: “Plîs gad imi redeg at y brenin i roi’r newyddion iddo, oherwydd mae Jehofa wedi rhoi cyfiawnder iddo drwy ei achub rhag ei elynion.” 20  Ond dywedodd Joab wrtho: “Fyddi di ddim yn mynd â’r newyddion ato heddiw. Cei di wneud hynny ar ddiwrnod arall, ond nid heddiw, oherwydd mae mab y brenin ei hun wedi marw.” 21  Yna dywedodd Joab wrth ddyn o ardal Cus: “Dos i ddweud wrth y brenin beth rwyt ti wedi ei weld.” Gyda hynny, ymgrymodd y dyn o flaen Joab a rhedeg i ffwrdd. 22  Unwaith eto, dywedodd Ahimaas fab Sadoc wrth Joab: “Beth bynnag sy’n digwydd, plîs gad i mi hefyd redeg y tu ôl i’r dyn o Cus.” Ond dywedodd Joab: “Pam dylet ti redeg, fy mab, pan does ’na ddim newyddion iti eu rhannu?” 23  Ond roedd yn dal i ddweud: “Does dim ots, gad imi redeg.” Felly dywedodd Joab wrtho: “Rheda!” A rhedodd Ahimaas ar hyd y ffordd sy’n mynd drwy ardal yr Iorddonen, ac yn y pen draw, pasiodd heibio’r dyn o Cus. 24  Nawr roedd Dafydd yn eistedd rhwng dau borth y ddinas, ac aeth y gwyliwr i fyny ar ben to y porth wrth ymyl y wal, ac o fan ’na gwelodd ddyn yn rhedeg ar ei ben ei hun. 25  Felly gwaeddodd y gwyliwr i roi gwybod i’r brenin. Dywedodd y brenin: “Os ydy ef ar ei ben ei hun, mae ganddo newyddion i’w rhannu.” Wrth iddo ddod yn agosach, 26  gwelodd y gwyliwr ddyn arall yn rhedeg. Yna gwaeddodd y gwyliwr ar y porthor: “Edrycha! Dyn arall yn rhedeg ar ei ben ei hun!” Dywedodd y brenin: “Mae hwn hefyd yn dod â newyddion.” 27  Dywedodd y gwyliwr: “Galla i weld bod y dyn cyntaf yn rhedeg fel Ahimaas fab Sadoc,” felly dywedodd y brenin: “Mae’n ddyn da, ac mae’n dod â newyddion da.” 28  Yna galwodd Ahimaas ar y brenin gan ddweud: “Mae popeth yn iawn!” Gyda hynny, ymgrymodd o flaen y brenin â’i wyneb i’r llawr. Yna dywedodd: “Gad i Jehofa dy Dduw gael ei foli! Mae ef wedi rhoi yn dy law y dynion wnaeth wrthryfela yn erbyn fy arglwydd y brenin.” 29  Ond dywedodd y brenin: “Ydy popeth yn iawn gyda’r dyn ifanc Absalom?” Atebodd Ahimaas: “Gwelais i’r cynnwrf mawr pan anfonodd Joab was y brenin a dy was di, ond doeddwn i ddim yn gwybod beth oedd yn digwydd.” 30  Felly dywedodd y brenin: “Saf i un ochr.” A dyna wnaeth ef. 31  Yna dyma’r dyn o Cus yn cyrraedd, a dywedodd: “Plîs, fy arglwydd y brenin, derbynia’r newyddion yma: Heddiw, mae Jehofa wedi rhoi cyfiawnder iti drwy dy achub di o law’r holl rai wnaeth wrthryfela yn dy erbyn di.” 32  Ond dywedodd y brenin wrth y dyn o Cus: “Ydy popeth yn iawn gyda’r dyn ifanc Absalom?” Atebodd: “Gad i holl elynion fy arglwydd y brenin, a’r holl rai wnaeth wrthryfela yn dy erbyn di er mwyn dy niweidio di farw fel y dyn ifanc!” 33  Gwnaeth hyn gynhyrfu’r brenin, ac aeth i fyny i’r ystafell ar y to uwchben y porth yn wylo, ac yn dweud wrth iddo gerdded: “Fy mab Absalom, fy mab, fy mab Absalom! O na fyddwn i wedi marw yn dy le di, Absalom, fy mab, fy mab!”

Troednodiadau

Neu “wedi delio yn dwyllodrus yn erbyn ei enaid.”
Neu efallai, “dart; gwaywffon.” Llyth., “ffon.”
Neu “yng Ngwastatir Isel.”