Ail Samuel 2:1-32

  • Dafydd, brenin ar Jwda (1-7)

  • Isboseth, brenin ar Israel (8-11)

  • Rhyfel rhwng tŷ Dafydd a thŷ Saul (12-32)

2  Ar ôl hynny, gofynnodd Dafydd i Jehofa: “A ddylwn i fynd i fyny i un o ddinasoedd Jwda?” Dywedodd Jehofa wrtho: “Dos i fyny.” Yna gofynnodd Dafydd: “Ble dylwn i fynd?” Atebodd: “I Hebron.”  Felly aeth Dafydd i fyny yno gyda’i ddwy wraig, Ahinoam o Jesreel ac Abigail gweddw Nabal o Garmel.  Gwnaeth Dafydd hefyd ddod â’i ddynion a’u teuluoedd, a dyma nhw’n setlo yn y dinasoedd o amgylch Hebron.  Yna daeth dynion Jwda ac eneinio Dafydd yno yn frenin ar dŷ Jwda. Dywedon nhw wrth Dafydd: “Dynion Jabes-gilead wnaeth gladdu Saul.”  Felly anfonodd Dafydd negeswyr at ddynion Jabes-gilead a dweud wrthyn nhw: “Bendith Jehofa arnoch chi am eich bod chi wedi dangos cariad ffyddlon tuag at eich arglwydd Saul drwy ei gladdu.  Rydw i’n dymuno i Jehofa ddangos cariad ffyddlon tuag atoch chi bob amser. Bydda innau hefyd yn garedig tuag atoch chi am eich bod chi wedi gwneud hyn.  Nawr byddwch yn ddynion dewr a byddwch yn gryf, oherwydd mae eich arglwydd Saul wedi marw, ac mae tŷ Jwda wedi fy eneinio i yn frenin arnyn nhw.”  Ond roedd Abner fab Ner, pennaeth byddin Saul, wedi cymryd mab Saul, Isboseth, ac wedi mynd ag ef drosodd i Mahanaim  a’i wneud yn frenin ar yr Assuriaid, ac ar Gilead, Jesreel, Effraim, Benjamin, ac Israel gyfan. 10  Roedd Isboseth fab Saul yn 40 mlwydd oed pan ddaeth yn frenin ar Israel, a theyrnasodd am ddwy flynedd. Ond roedd tŷ Jwda yn cefnogi Dafydd. 11  Roedd Dafydd yn frenin yn Hebron ar dŷ Jwda am saith mlynedd a chwe mis. 12  Ymhen amser, dyma Abner fab Ner a gweision Isboseth fab Saul yn mynd allan o Mahanaim i Gibeon. 13  Hefyd aeth Joab fab Seruia a gweision Dafydd allan a’u cyfarfod nhw wrth bwll Gibeon; eisteddodd un grŵp ar yr ochr yma o’r pwll, a’r grŵp arall ar yr ochr draw. 14  O’r diwedd dywedodd Abner wrth Joab: “Gad i’r dynion ifanc godi ac ymladd* o’n blaenau ni.” I hynny dywedodd Joab: “Gad iddyn nhw godi.” 15  Felly codon nhw a dewis 12 o ddynion Benjamin o grŵp Isboseth, ac 12 o weision Dafydd i gystadlu yn erbyn ei gilydd. 16  Dyma bob un yn cydio ym mhen ei wrthwynebwr ac yn ei drywanu yn ei ochr â’i gleddyf, a gwnaethon nhw i gyd syrthio gyda’i gilydd. Felly, cafodd y lle hwnnw, sydd yn Gibeon, ei alw’n Helcath-hasurim. 17  Roedd yr ymladd yn ofnadwy o ffyrnig y diwrnod hwnnw, ac yn y pen draw cafodd Abner a dynion Israel eu trechu o flaen gweision Dafydd. 18  Nawr roedd tri mab Seruia yno—Joab, Abisai, ac Asahel, ac roedd Asahel mor gyflym ar ei draed â gasél gwyllt. 19  Aeth Asahel ar ôl Abner heb wyro i’r dde nac i’r chwith. 20  Pan edrychodd Abner yn ôl, gofynnodd, “Ai ti sydd yno Asahel?” ac atebodd yntau, ”Ie, fi sydd yma.” 21  Yna dywedodd Abner wrtho: “Dos i’r chwith neu i’r dde a dal un o’r dynion ifanc a chadwa beth bynnag rwyt ti’n ei gymryd oddi arno i ti dy hun.” Ond doedd Asahel ddim eisiau stopio mynd ar ei ôl. 22  Felly dywedodd Abner wrth Asahel unwaith eto: “Rho’r gorau i fy nilyn i, neu bydda i’n dy ladd di! Petaswn i’n gwneud hynny, sut gallwn i wynebu Joab dy frawd?” 23  Ond roedd yn dal i wrthod stopio, felly gwnaeth Abner ei daro yn ei fol gyda bôn ei waywffon,* a daeth y waywffon allan drwy ei gefn; a chwympodd yno a marw yn y fan a’r lle. Byddai pawb oedd yn dod i’r fan honno lle gwnaeth Asahel gwympo a marw yn stopio ac yn seibio yno. 24  Yna aeth Joab ac Abisai ar ôl Abner. Wrth i’r haul fachlud, daethon nhw at fryn Amma, sy’n wynebu Gia ar y ffordd i anialwch Gibeon. 25  A chasglodd y Benjaminiaid at ei gilydd y tu ôl i Abner a sefyll gyda’i gilydd ar ben bryn arall. 26  Yna galwodd Abner ar Joab: “Am faint mwy rydych chi am ymladd yn erbyn eich gilydd â chleddyfau? Onid wyt ti’n gwybod bydd hyn ond yn arwain at chwerwder? Felly pryd rwyt ti am ddweud wrth y bobl i stopio mynd ar ôl eu brodyr?” 27  I hynny, dywedodd Joab: “Mor sicr â’r ffaith fod y gwir Dduw yn fyw, petaset ti heb siarad, yna byddai’r bobl wedi mynd ar ôl eu brodyr tan y bore.” 28  Yna chwythodd Joab y corn, a dyma ei ddynion yn stopio mynd ar ôl Israel ac yn rhoi’r gorau i ymladd. 29  Yna dyma Abner a’i ddynion yn martsio* ar draws yr Araba drwy’r nos, yn croesi’r Iorddonen ac yn martsio i fyny’r dyffryn,* ac yn y pen draw daethon nhw i Mahanaim. 30  Ar ôl i Joab droi yn ôl rhag mynd ar ôl Abner, casglodd ef y bobl i gyd at ei gilydd. Roedd 19 o weision Dafydd wedi marw, yn ogystal ag Asahel. 31  Ond roedd gweision Dafydd wedi trechu’r Benjaminiaid a dynion Abner, ac roedd 360 o’u dynion nhw wedi marw. 32  Cymeron nhw Asahel a’i gladdu ym meddrod ei dad ym Methlehem. Yna dyma Joab a’i ddynion yn martsio drwy’r nos, a chyrhaeddon nhw Hebron wrth iddi wawrio.

Troednodiadau

Neu “a chystadlu.”
Hynny yw, pen trwchus ei waywffon.
Neu “gorymdeithio.”
Neu efallai, “drwy Bithron i gyd.”