Ail Samuel 20:1-26

  • Gwrthryfel Seba; Joab yn lladd Amasa (1-13)

  • Seba yn ffoi ac yn cael ei ddienyddio (14-22)

  • Y penaethiaid o dan Dafydd (23-26)

20  Nawr roedd Seba fab Bichri o lwyth Benjamin yn ddyn da i ddim a oedd yn codi twrw. Chwythodd y corn a dweud: “Does gynnon ni ddim byd i’w wneud â Dafydd, a does gynnon ni ddim etifeddiaeth ym mab Jesse. Ewch yn ôl at eich duwiau* eich hunain, O Israel!”  Gyda hynny dyma holl ddynion Israel yn cefnu ar Dafydd er mwyn dilyn Seba fab Bichri; ond arhosodd dynion Jwda gyda’u brenin, a’i ddilyn o’r Iorddonen i Jerwsalem.  Pan gyrhaeddodd Dafydd ei dŷ yn Jerwsalem, cymerodd y deg gwraig arall* roedd ef wedi eu gadael ar ôl i ofalu am y palas, a’u rhoi nhw mewn tŷ o dan warchodaeth. Rhoddodd fwyd iddyn nhw, ond wnaeth ef ddim cysgu gyda nhw. Roedden nhw’n gaeth i’r tŷ tan y diwrnod buon nhw farw, yn byw fel petasen nhw’n weddwon, er bod ganddyn nhw ŵr oedd yn dal yn fyw.  Yna dywedodd y brenin wrth Amasa: “Mae gen ti dri diwrnod i gasglu dynion Jwda ata i, a dylet tithau fod yno hefyd.”  Felly aeth Amasa i gasglu Jwda at ei gilydd, ond cymerodd fwy o amser nag oedd y brenin wedi ei roi iddo.  Yna dywedodd Dafydd wrth Abisai: “Efallai bydd Seba fab Bichri yn gwneud mwy o niwed i ni nag y gwnaeth Absalom. Cymera fy ngweision a dos ar ei ôl, fel na fydd yn cyrraedd dinas gaerog ac yn dianc oddi wrthon ni.”  Felly aeth dynion Joab, y Cerethiaid, y Pelethiaid, a’r holl filwyr cryf allan ar ei ôl; gadawon nhw Jerwsalem i fynd ar ôl Seba fab Bichri.  Pan oedden nhw’n agos at y garreg fawr yn Gibeon, daeth Amasa i’w cyfarfod nhw. Nawr roedd Joab yn gwisgo ei ddillad rhyfel, ac roedd ei gleddyf yn ei wain ar ei glun. Pan gamodd ymlaen tuag at Amasa, disgynnodd y cleddyf allan.  Dywedodd Joab wrth Amasa: “Wyt ti’n iawn fy mrawd?” Yna gyda’i law dde, gafaelodd Joab ym marf Amasa fel petai am ei gusanu. 10  Doedd Amasa ddim wedi sylwi ar y cleddyf oedd yn llaw Joab, a dyma Joab yn ei drywanu yn ei fol, a syrthiodd ei berfeddion i’r ddaear. Doedd dim rhaid iddo ei drywanu eto; roedd unwaith yn ddigon i’w ladd. Yna aeth Joab a’i frawd Abisai ar ôl Seba fab Bichri. 11  Safodd un o ddynion ifanc Joab wrth ymyl Amasa a dweud: “Pwy bynnag sydd ar ochr Joab a phwy bynnag sy’n perthyn i Dafydd, dylai ddilyn Joab!” 12  Yn y cyfamser roedd Amasa yn gorwedd mewn pwll o’i waed ei hun yng nghanol y ffordd. Pan welodd y dyn fod y bobl i gyd yn stopio pan oedden nhw’n dod ato, gwnaeth ef symud Amasa oddi ar y ffordd i mewn i’r cae a thaflu dilledyn drosto. 13  Ar ôl iddo ei symud oddi ar y ffordd, dyma’r dynion i gyd yn dilyn Joab i fynd ar ôl Seba fab Bichri. 14  Teithiodd Seba drwy holl lwythau Israel i Abel Beth-maacha. A daeth y Bichriaid at ei gilydd hefyd a mynd ar ei ôl. 15  Dyma Joab a’i ddynion yn dod ac yn ymosod arno yn Abel Beth-maacha a chodi ramp yn erbyn wal y ddinas am ei bod wedi ei hamgylchynu â thwmpath o bridd. Ac roedd yr holl ddynion a oedd gyda Joab yn tanseilio’r wal er mwyn ei dymchwel. 16  A dyma ddynes* ddoeth yn galw o’r ddinas: “Gwrandewch ddynion, gwrandewch! Plîs dywedwch wrth Joab, ‘Tyrd yma a gad imi siarad â ti.’” 17  Felly aeth ati a dywedodd y ddynes:* “Ai Joab wyt ti?” Atebodd: “Ie.” I hynny dywedodd hi: “Gwranda ar eiriau dy forwyn.” A dywedodd: “Rydw i’n gwrando.” 18  Aeth hi ymlaen i ddweud: “Roedden nhw’n arfer dweud yn y gorffennol, ‘Os oes gan rywun broblem sydd angen ei setlo, gad iddo ofyn am gyngor yn ninas Abel,’ a dyna oedd diwedd y mater. 19  Rydw i’n cynrychioli’r rhai heddychlon a ffyddlon yn Israel. Pam rwyt ti’n ceisio dinistrio dinas sydd fel mam yn Israel? Pam dylet ti gael gwared ar etifeddiaeth Jehofa?” 20  Atebodd Joab: “Alla i ddim hyd yn oed meddwl dinistrio a difetha’r ddinas. 21  Ddim felly mae hi o gwbl. Yn hytrach, mae dyn o’r enw Seba fab Bichri o ardal fynyddig Effraim wedi gwrthryfela yn erbyn y Brenin Dafydd. Os byddwch chi’n ei roi ef yn unig inni, bydda i’n cilio yn ôl oddi wrth y ddinas.” Yna dywedodd y ddynes* wrth Joab: “Edrycha! Gwnawn ni daflu ei ben dros y wal atat ti!” 22  Ar unwaith aeth y ddynes* ddoeth i mewn at y bobl i gyd, a dyma nhw’n torri pen Seba fab Bichri i ffwrdd, a’i daflu i Joab. Gyda hynny canodd y corn, a dyma nhw’n gadael y ddinas. Aeth pawb adref, ac aeth Joab yn ôl i Jerwsalem at y brenin. 23  Nawr roedd Joab yn gyfrifol am fyddin gyfan Israel; roedd Benaia fab Jehoiada yn bennaeth ar y Cerethiaid a’r Pelethiaid. 24  Roedd Adoram yn gyfrifol am y rhai roedd y brenin wedi eu gorfodi i weithio iddo; Jehosaffat fab Ahilud oedd y cofnodwr. 25  Sefa oedd yr ysgrifennydd; Sadoc ac Abiathar oedd yr offeiriaid. 26  A daeth Ira y Jairiad hefyd yn brif bennaeth* i Dafydd.

Troednodiadau

Neu efallai, “pebyll.”
Neu “y deg gwraig ordderch,” hynny yw, gwraig eilradd a oedd yn aml yn gaethferch.
Neu “dyma fenyw.”
Neu “y fenyw.”
Neu “y fenyw.”
Neu “y fenyw.”
Llyth., “yn offeiriad.”