Ail Samuel 21:1-22
21 Nawr roedd ’na newyn yn nyddiau Dafydd am dair blynedd yn olynol, felly gofynnodd Dafydd i Jehofa am arweiniad, a dywedodd Jehofa: “Mae Saul a’i dŷ yn waed euog am ei fod wedi lladd y Gibeoniaid.”
2 Felly galwodd y brenin y Gibeoniaid at ei gilydd a siarad â nhw. (Fel mae’n digwydd, doedd y Gibeoniaid ddim yn Israeliaid, ond yn Amoriaid oedd wedi cael eu harbed. Roedd yr Israeliaid wedi addo peidio â’u lladd nhw, ond roedd Saul wedi ceisio eu taro nhw i lawr oherwydd ei sêl dros bobl Israel a Jwda.)
3 Dywedodd Dafydd wrth y Gibeoniaid: “Beth dylwn i ei wneud drostoch chi, a sut galla i wneud yn iawn am ein pechod fel byddwch chi’n bendithio etifeddiaeth Jehofa?”
4 Dywedodd y Gibeoniaid wrtho: “Fydd arian nac aur ddim yn gwneud yn iawn am beth wnaeth Saul a’i deulu inni. A does gynnon ni ddim hawl i ladd unrhyw ddyn yn Israel.” I hynny, dywedodd: “Beth bynnag rydych chi’n ei ddweud, bydda i’n ei wneud drostoch chi.”
5 Dywedon nhw wrth y brenin: “Ynglŷn â’r dyn wnaeth geisio ein difa ni a chynllwynio i gael gwared ar bob un ohonon ni o holl diriogaeth Israel—
6 rho saith o’i feibion inni. Byddwn ni’n hongian eu cyrff marw* o flaen Jehofa yn Gibea, dinas Saul, yr un gwnaeth Jehofa ei ddewis.” Yna dywedodd y brenin: “Gwna i eu rhoi nhw i chi.”
7 Ond, dangosodd y brenin dosturi tuag at Meffiboseth, mab Jonathan, mab Saul, oherwydd y llw roedd Dafydd a Jonathan fab Saul wedi ei wneud o flaen Jehofa.
8 Felly dyma’r brenin yn cymryd Armoni a Meffiboseth, y ddau fab roedd Rispa ferch Aia wedi eu geni i Saul, yn ogystal â’r pum mab roedd Michal* ferch Saul wedi eu geni i Adriel fab Barsilai o Mehola.
9 Yna, gwnaeth ef eu rhoi nhw i’r Gibeoniaid, a dyma nhw’n hongian eu cyrff marw ar y mynydd o flaen Jehofa. Bu farw’r saith ohonyn nhw gyda’i gilydd; cawson nhw eu lladd yn nyddiau cyntaf y cynhaeaf, ar ddechrau’r cynhaeaf haidd.
10 Yna cymerodd Rispa ferch Aia sachliain a’i daenu ar y graig o ddechrau’r cynhaeaf nes iddi lawio ar y cyrff; wnaeth hi ddim gadael i adar y nefoedd lanio arnyn nhw yn ystod y dydd na gadael i anifeiliaid gwyllt y maes ddod yn agos atyn nhw yn ystod y nos.
11 Clywodd Dafydd beth roedd gwraig arall* Saul, Rispa ferch Aia, wedi ei wneud.
12 Felly aeth Dafydd i gymryd esgyrn Saul ac esgyrn ei fab Jonathan oddi wrth arweinwyr Jabes-gilead. Roedden nhw wedi eu dwyn nhw o sgwâr cyhoeddus Beth-sean, lle roedd y Philistiaid wedi hongian eu cyrff ar y diwrnod gwnaeth y Philistiaid daro Saul i lawr ar fynydd Gilboa.
13 Daeth Dafydd ag esgyrn Saul ac esgyrn ei fab Jonathan i fyny o fan ’na, a gwnaethon nhw hefyd gasglu esgyrn y dynion oedd wedi cael eu dienyddio.
14 Yna dyma nhw’n claddu esgyrn Saul a’i fab Jonathan yng ngwlad Benjamin, yn Sela, ym meddrod ei dad Cis. Ar ôl iddyn nhw wneud popeth roedd y brenin wedi ei orchymyn, gwrandawodd Duw ar erfyniadau’r bobl dros Israel.
15 Unwaith eto roedd ’na ryfela rhwng y Philistiaid ac Israel. Felly aeth Dafydd a’i weision i lawr i frwydro yn erbyn y Philistiaid, ond blinodd Dafydd.
16 Roedd un o ddisgynyddion y Reffaim, o’r enw Isbi-benob, yn bwriadu lladd Dafydd. Roedd ganddo waywffon gopr a oedd yn pwyso 300 sicl* ac roedd wedi ei arfogi â chleddyf newydd.
17 Ar unwaith, daeth Abisai fab Seruia i’w helpu a tharodd y Philistiad i lawr a’i ladd. Bryd hynny mynnodd dynion Israel:* “Rhaid iti beidio â dod allan i’r frwydr gyda ni eto! Rhaid iti beidio â diffodd lamp Israel!”
18 Ar ôl hynny, roedd ’na ryfel arall yn erbyn y Philistiaid yn Gob. Bryd hynny, gwnaeth Sibbechai yr Husathiad ladd Saff a oedd yn un o ddisgynyddion y Reffaim.
19 Ac roedd ’na ryfel arall yn erbyn y Philistiaid yn Gob, a gwnaeth Elhanan fab Jaare-oregim o Fethlehem ladd Goliath y Gethiad, ac roedd coes ei waywffon yn debyg i drawst gwehydd.
20 Roedd ’na ryfel unwaith eto yn Gath, lle roedd ’na gawr o ddyn oedd â 6 bys ar bob llaw a 6 bys ar bob troed, 24 yn gyfan gwbl; ac roedd ef hefyd yn un o ddisgynyddion y Reffaim.
21 Roedd yn parhau i herio Israel. Felly gwnaeth Jonathan fab Simei, brawd Dafydd, ei daro i lawr.
22 Roedd y pedwar hyn yn ddisgynyddion i’r Reffaim yn Gath, a syrthion nhw drwy law Dafydd a thrwy ddwylo ei weision.
Troednodiadau
^ Hynny yw, gyda’u breichiau a’u coesau wedi eu torri.
^ Neu efallai, “Merab.”
^ Neu “gwraig ordderch,” hynny yw, gwraig eilradd a oedd yn aml yn gaethferch.
^ Tua 3.42 kg (7.5 lb).
^ Llyth., “gwnaeth dynion Israel dyngu’r llw hwn.”