Ail Samuel 22:1-51
22 Ac ar y diwrnod gwnaeth Jehofa achub Dafydd o law ei holl elynion, ac o law Saul, canodd Dafydd y gân hon i Jehofa:
2 “Jehofa yw fy nghraig a fy noddfa, yr Un sy’n fy achub i.
3 Fy Nuw yw fy nghraig, mae’n lloches imi,Ef yw fy nharian a fy nghorn achubiaeth,* fy lloches ddiogelYr Un rydw i’n rhedeg ato am help, fy achubwr; ti sy’n fy achub i rhag trais.
4 Rydw i’n galw ar Jehofa, sy’n haeddu clod,A bydda i’n cael fy achub rhag fy ngelynion.
5 Roedd tonnau marwolaeth yn torri o fy nghwmpas i;Roedd llifogydd o ddynion diwerth yn fy nychryn i.
6 Roedd rhaffau’r Bedd* yn fy amgylchynu i;Roedd maglau marwolaeth yn fy mygwth i.
7 Yn fy helbul galwais ar Jehofa,Ar fy Nuw roeddwn i’n galw’n ddi-baid.
Yna o’i deml clywodd fy llais,A rhoddodd glust i fy nghri am help.
8 Dechreuodd y ddaear siglo ac ysgwyd yn ôl ac ymlaen;Crynodd sylfeini’r nefoeddGan ysgwyd yn ôl ac ymlaen am ei fod wedi digio.
9 Cododd mwg o’i ffroenau,A daeth tân dinistriol o’i geg;Roedd glo tanllyd yn tasgu ohono.
10 Gwnaeth i’r nefoedd blygu wrth iddo ddod i lawr,Ac roedd cymylau tywyll o dan ei draed.
11 Marchogodd ar gefn cerwb a hedfan.
Roedd fel petai angel yn ei gario ar ei adenydd.*
12 Yna gosododd dywyllwch o’i amgylch fel pabell,Mewn dyfroedd tywyll a chymylau trwchus.
13 Fflachiodd mellt o’i flaen gan wneud i lo tanllyd losgi’n wenfflam.
14 Yna dechreuodd Jehofa daranu o’r nefoedd;Cododd y Goruchaf ei lais.
15 Saethodd ei saethau a gwasgaru ei elynion;Taflodd fellt, a chodi arswyd arnyn nhw.
16 Daeth gwely’r môr i’r golwg;Cafodd sylfeini’r tir eu dinoethi oherwydd cerydd Jehofa,Oherwydd chwythiad anadl o’i ffroenau.
17 Estynnodd ei law o’r uchelder;Gafaelodd yno i a fy nhynnu i o ddyfroedd dwfn.
18 Gwnaeth ef fy achub i rhag fy ngelyn nerthol,Rhag y rhai sy’n fy nghasáu i, y rhai oedd yn gryfach na fi.
19 Gwnaethon nhw fy herio i ar ddydd fy argyfwng,Ond roedd Jehofa yn gefn imi.
20 Daeth â mi i mewn i rywle diogel;Achubodd fi am fy mod i’n ei blesio.
21 Mae Jehofa yn fy ngwobrwyo i yn ôl fy nghyfiawnder;Mae’n fy ngwobrwyo i yn ôl glendid fy nwylo.
22 Oherwydd rydw i wedi cadw at ffyrdd Jehofa,A dydw i ddim wedi gwneud drwg drwy gefnu ar fy Nuw.
23 Mae ei farnedigaethau i gyd o fy mlaen i;Wna i ddim gwyro o’i ddeddfau.
24 Bydda i’n aros yn ddi-fai o’i flaen,A bydda i’n cadw fy hun rhag gwneud cam.
25 Gad i Jehofa fy ngwobrwyo i yn ôl fy nghyfiawnder,Yn ôl fy nglendid o’i flaen.
26 Rwyt ti’n ffyddlon i’r rhai sy’n ffyddlon;Rwyt ti’n trin y dyn dieuog yn gyfiawn;
27 Rwyt ti’n bur i’r rhai sy’n bur,Ond rwyt ti’n graff* wrth ddelio â’r rhai slei.
28 Oherwydd rwyt ti’n achub y rhai gostyngedig,Ond rwyt ti yn erbyn y rhai ffroenuchel, ac rwyt ti’n eu bychanu nhw.
29 Ti yw fy lamp, O Jehofa;Jehofa yw’r un sy’n goleuo’r tywyllwch o fy nghwmpas i.
30 Gyda dy help di galla i frwydro yn erbyn milwyr arfog;Drwy nerth Duw galla i ddringo wal.
31 Mae’r gwir Dduw yn berffaith ei ffordd;Mae geiriau Jehofa yn bur.*
Mae’n darian i bawb sy’n mynd ato am loches.
32 Oherwydd pwy sy’n Dduw heblaw am Jehofa?
A phwy sy’n graig heblaw am ein Duw?
33 Y gwir Dduw yw fy nghaer gadarn,A bydd yn gwneud fy ffyrdd yn berffaith.
34 Mae’n gwneud fy nhraed i’n chwim fel carw;Ac yn gwneud imi sefyll yn gadarn ar lethrau serth.
35 Mae’n hyfforddi fy nwylo i ryfela;Gall fy mreichiau blygu bwa copr.
36 Rwyt ti’n rhoi dy darian o achubiaeth imi,Ac mae dy ostyngeiddrwydd yn fy nyrchafu.
37 Rwyt ti’n gwneud fy llwybr yn llydan;Fel na fydda i’n baglu.*
38 Bydda i’n mynd ar ôl fy ngelynion ac yn cael gwared arnyn nhw;Wna i ddim dod yn ôl nes eu bod nhw wedi cael eu dinistrio.
39 Bydda i’n eu dinistrio nhw ac yn sathru arnyn nhw, fel na fyddan nhw’n gallu codi;Byddan nhw’n syrthio o dan fy nhraed.
40 Byddi di’n rhoi nerth imi fel fy mod i’n barod i frwydro;Byddi di’n gwneud i fy ngelynion syrthio o fy mlaen i.
41 Byddi di’n gwneud i fy ngelynion gilio yn ôl oddi wrtho i;Bydda i’n rhoi diwedd* ar y rhai sy’n fy nghasáu i.
42 Maen nhw’n gweiddi am help, ond does ’na neb i’w hachub nhw;Maen nhw hyd yn oed yn galw ar Jehofa, ond dydy ef ddim yn eu hateb nhw.
43 Gwna i eu dyrnu nhw nes eu bod nhw mor fân â llwch y ddaear;Gwna i eu malu nhw a sathru arnyn nhw fel mwd ar y strydoedd.
44 Byddi di’n fy achub i rhag y rhai ymhlith fy mhobl sy’n gweld bai arna i.
Byddi di’n fy ngwarchod i i fod yn ben ar genhedloedd;A bydd pobl ddieithr yn fy ngwasanaethu i.
45 Bydd estroniaid yn ymgrymu o fy mlaen i mewn ofn;Pan fyddan nhw’n clywed amdana i byddan nhw’n ufuddhau imi.
46 Bydd estroniaid yn colli hyder;Byddan nhw’n dod allan o’u llochesau yn crynu.
47 Mae Jehofa yn fyw! Clod i fy Nghraig!
Gad i Dduw, y graig sy’n fy achub, gael ei glodfori.
48 Mae’r gwir Dduw yn dial drosto i;Mae’n gwneud i’r bobloedd ymostwng imi;
49 Mae’n fy achub i rhag fy ngelynion.
Rwyt ti’n fy nghodi i’n uchel dros ben y rhai sy’n ymosod arna i;Rwyt ti’n fy achub i rhag y dyn treisgar.
50 Dyna pam bydda i’n diolch i ti, O Jehofa, ymhlith y cenhedloedd,Ac yn canu mawl i dy enw di:
51 Mae’n achub ei frenin* mewn ffyrdd rhyfeddol;Mae’n dangos cariad ffyddlon tuag at ei un eneiniog,Tuag at Dafydd a’i ddisgynyddion* am byth.”
Troednodiadau
^ Neu “fy achubwr nerthol.”
^ Neu “ar y gwynt.”
^ Neu efallai, “ymddangos yn wirion.”
^ Neu “wedi eu coethi drwy dân.”
^ Neu “Fel na fydd fy nhraed i’n baglu.”
^ Llyth., “rhoi taw.”
^ Neu “rhoi buddugoliaeth fawr i’w frenin.”
^ Llyth., “had.”