Ail Samuel 23:1-39

  • Geiriau olaf Dafydd (1-7)

  • Milwyr dewr Dafydd yn gwneud pethau mawr (8-39)

23  Dyma eiriau olaf Dafydd: “Geiriau Dafydd fab Jesse,A geiriau’r dyn gafodd ei godi’n uchel,Un eneiniog Duw Jacob,Canwr hyfryd caneuon Israel.*   Siaradodd ysbryd Jehofa drwyddo i;Roedd ei air ar fy nhafod.   Siaradodd Duw Israel;Dywedodd Craig Israel wrtho i: ‘Pan fydd rhywun cyfiawn yn rheoli dros ddynolryw,Ac yn ofni Duw wrth reoli,   Yna bydd ei deyrnasiad yn debyg i oleuni’r bore pan fydd yr haul yn disgleirio,Fel bore heb gymylau. Bydd yn debyg i’r golau ar ôl y glaw,Sy’n gwneud i laswellt* dyfu o’r ddaear.’   Onid yw fy nhŷ fel ’na o flaen Duw? Oherwydd mae ef wedi gwneud cyfamod tragwyddol â mi,Sydd wedi ei sefydlu’n gadarn ac wedi ei drefnu i’r manylyn lleiaf. Mae’r cyfamod yn golygu llawenydd ac achubiaeth imi,Onid dyna pam mae’n gwneud iddo ffynnu?   Ond mae dynion diwerth i gyd yn cael eu taflu i ffwrdd fel drain,Drain sydd ddim yn gallu cael eu cymryd i ffwrdd â dwylo.   Pan fydd dyn yn gafael ynddyn nhw,Dylai gael ei arfogi â haearn a gwaywffon,A dylen nhw gael eu llosgi â thân yn y fan a’r lle.”  Dyma enwau milwyr dewr Dafydd: Joseb-bassebeth, un o’r Hachmoniaid, pennaeth y tri. Un tro, defnyddiodd ei waywffon i ladd 800 o ddynion.  Nesaf ato roedd Eleasar, mab Dodo, mab Ahohi, a oedd ymhlith y tri milwr dewr a oedd gyda Dafydd pan wnaethon nhw herio’r Philistiaid. Roedden nhw wedi casglu at ei gilydd yno ar gyfer y frwydr, a phan giliodd dynion Israel yn ôl, 10  safodd ei dir a pharhau i daro’r Philistiaid i lawr nes bod ei fraich wedi blino, a’i fysedd wedi cloi am ei fod yn gafael yn y cleddyf mor dynn. Felly daeth Jehofa â buddugoliaeth fawr ar y diwrnod hwnnw; a gwnaeth y bobl ei ddilyn i fynd i ysbeilio’r rhai oedd wedi marw. 11  Nesaf at hwnnw roedd Samma fab Age yr Harariad. Daeth y Philistiaid at ei gilydd yn Lehi, lle roedd ’na ddarn o dir yn llawn ffacbys; a gwnaeth y bobl ffoi oherwydd y Philistiaid. 12  Ond safodd Samma ynghanol y cae a’i amddiffyn a pharhaodd i daro’r Philistiaid i lawr fel bod Jehofa yn ennill buddugoliaeth fawr. 13  Aeth tri o’r 30 pennaeth i lawr at Dafydd yn ystod y cynhaeaf i ogof Adulam, ac roedd y Philistiaid yn gwersylla yn Nyffryn* Reffaim. 14  Bryd hynny, roedd Dafydd yn y lloches ac roedd garsiwn o Philistiaid ym Methlehem. 15  A dywedodd Dafydd: “Byddwn i wrth fy modd yn cael yfed dŵr o’r ffynnon sydd wrth ymyl giât Bethlehem!” 16  Gyda hynny, dyma’r tri milwr dewr yn gwthio eu ffordd i mewn i wersyll y Philistiaid ac yn codi dŵr o’r ffynnon wrth ymyl giât Bethlehem, a daethon nhw â’r dŵr at Dafydd. Ond gwrthododd yfed y dŵr a dyma’n ei dywallt* ar y llawr o flaen Jehofa. 17  Dywedodd: “O Jehofa, alla i ddim hyd yn oed meddwl am wneud hyn! A ddylwn i yfed gwaed y dynion a wnaeth fentro eu bywydau?”* Felly gwrthododd ei yfed. Dyma’r pethau a wnaeth ei dri milwr dewr. 18  Roedd Abisai, brawd Joab fab Seruia yn bennaeth ar dri arall; defnyddiodd ei gleddyf i ladd 300 o ddynion, ac roedd yn enwog fel y tri chyntaf. 19  Er mai ef oedd y mwyaf adnabyddus o’r tri milwr dewr, ac ef oedd eu pennaeth, doedd ef ddim cystal â’r tri chyntaf. 20  Roedd Benaia fab Jehoiada yn ddyn dewr* a oedd wedi gwneud pethau mawr yn Cabseel. Tarodd ddau fab Ariel o Moab i lawr, ac aeth i mewn i bydew dŵr ar ddiwrnod o eira a lladd llew. 21  Gwnaeth ef hefyd daro i lawr Eifftiwr a oedd yn gawr o ddyn. Er bod gan yr Eifftiwr waywffon yn ei law, aeth yn ei erbyn â ffon a chipio’r waywffon o law yr Eifftiwr a’i ladd â’i waywffon ei hun. 22  Dyma wnaeth Benaia fab Jehoiada, ac roedd yn enwog fel y tri milwr dewr. 23  Er ei fod yn fwy adnabyddus na gweddill y tri deg, doedd ef ddim cystal â’r tri chyntaf. Ond gwnaeth Dafydd ei benodi i fod yn bennaeth ar ei warchodlu ei hun. 24  Roedd y tri deg milwr dewr yn cynnwys Asahel brawd Joab, Elhanan brawd Dodo o Fethlehem, 25  Samma o Harod, Elica o Harod, 26  Heles y Paltiad, Ira fab Icces y Tecoiad, 27  Abi-eser o Anathoth, Mebunnai yr Husathiad, 28  Salmon fab Ahoa, Maharai o Netoffa, 29  Heleb fab Baana o Netoffa, Itai fab Ribai o Gibea yn Benjamin, 30  Benaia o Pirathon, Hidai o ddyffrynnoedd* Gaas, 31  Abi-albon o Beth-araba, Asmafeth o Bahurim, 32  Eliahba o Saalbim, meibion Jasen, Jonathan, 33  Samma yr Harariad, Ahiam fab Sarar yr Harariad, 34  Eliffelet fab Ahasbai fab y Maachathiad, Eliam fab Ahitoffel y Giloniad, 35  Hesro o Garmel, Paarai o Arab, 36  Igal fab Nathan o Soba, Bani y Gadiad, 37  Selec yr Ammoniad, Naharai o Beeroth, gwas arfau Joab fab Seruia, 38  Ira yr Ithriad, Gareb yr Ithriad, 39  ac Ureia yr Hethiad—37 i gyd.

Troednodiadau

Neu “Yr un hyfryd yng nghaneuon Israel.”
Neu “i borfa.”
Neu “yng Ngwastatir Isel.”
Neu “arllwys.”
Neu “eu heneidiau?”
Llyth., “yn fab i ddyn dewr.”
Neu “wadïau.”