Ail Samuel 3:1-39

  • Tŷ Dafydd yn cryfhau (1)

  • Meibion Dafydd (2-5)

  • Abner yn ochri â Dafydd (6-21)

  • Joab yn lladd Abner (22-30)

  • Dafydd yn galaru dros Abner (31-39)

3  Aeth y rhyfel rhwng tŷ Saul a thŷ Dafydd ymlaen am yn hir; roedd Dafydd yn mynd yn gryfach ac yn gryfach, ond roedd tŷ Saul ond yn mynd yn wannach.  Yn y cyfamser, cafodd meibion eu geni i Dafydd yn Hebron. Ei gyntaf-anedig oedd Amnon drwy Ahinoam o Jesreel.  Ei ail oedd Ciliab drwy Abigail, gweddw Nabal o Garmel; a’i drydydd oedd Absalom, mab Maacha, merch Talmai brenin Gesur.  Y pedwerydd oedd Adoneia, mab Haggith, a’r pumed oedd Seffatia, mab Abital.  Y chweched oedd Ithream drwy Egla, gwraig Dafydd. Cafodd y rhain eu geni i Dafydd yn Hebron.  Tra oedd y rhyfel rhwng tŷ Saul a thŷ Dafydd yn mynd ymlaen, roedd Abner yn cryfhau ei statws yn nhŷ Saul.  Nawr roedd Rispa, merch Aia, yn arfer bod yn wraig arall* i Saul. Yn hwyrach ymlaen dywedodd Isboseth wrth Abner: “Pam gwnest ti gysgu gyda gwraig arall* fy nhad?”  Gwylltiodd Abner dros eiriau Isboseth a dweud: “Ai pen ci o Jwda ydw i? Hyd heddiw, rydw i wedi dangos cariad ffyddlon tuag at dŷ dy dad, Saul, a thuag at ei frodyr a’i ffrindiau. A dydw i ddim wedi dy fradychu di drwy dy roi di yn nwylo Dafydd; ond eto, heddiw, rwyt ti’n fy nghyhuddo i o wneud rhywbeth drwg gyda dynes.*  Gad i Dduw fy nghosbi i’n llym os nad ydw i’n gwneud i Dafydd yn union fel mae Jehofa wedi addo iddo ar lw. 10  Addawodd y bydd yn trosglwyddo’r deyrnas o dŷ Saul ac yn sefydlu gorsedd Dafydd dros Israel a thros Jwda, o Dan i Beer-seba.” 11  Doedd gan Isboseth ddim gair i’w ddweud yn ôl i Abner oherwydd roedd yn ei ofni. 12  Ar unwaith, anfonodd Abner negeswyr at Dafydd gan ddweud: “Pwy biau’r wlad?” Ychwanegodd: “Gwna gyfamod â mi, a bydda i’n gwneud beth bynnag a alla i er mwyn gwneud i Israel gyfan ochri gyda ti.” 13  Atebodd: “Gwych! Gwna i gyfamod â ti. Rydw i ond yn gofyn un peth: Paid â cheisio fy ngweld i cyn iti ddod â Michal, merch Saul, ata i.” 14  Yna anfonodd Dafydd negeswyr at Isboseth, mab Saul, yn dweud: “Rho fy ngwraig Michal imi, yr un y gwnes i ei dyweddïo am 100 o flaengrwyn y Philistiaid.” 15  Felly anfonodd Isboseth amdani i’w chymryd hi i ffwrdd oddi wrth ei gŵr Paltiel fab Lais. 16  Ond roedd ei gŵr yn mynnu cerdded gyda hi, yn wylo wrth iddo ei dilyn hi mor bell â Bahurim. Yna dywedodd Abner wrtho: “Dos adref!” A gyda hynny, aeth yn ôl. 17  Yn y cyfamser, anfonodd Abner neges at henuriaid Israel yn dweud: “Rydych chi wedi bod eisiau cael Dafydd yn frenin arnoch chi am beth amser. 18  Nawr yw’r amser i weithredu, oherwydd dywedodd Jehofa wrth Dafydd: ‘Bydda i’n achub fy mhobl Israel o ddwylo’r Philistiaid a phob gelyn arall drwy law fy ngwas Dafydd.’” 19  Yna siaradodd Abner â phobl Benjamin. Hefyd, aeth Abner i siarad â Dafydd yn bersonol yn Hebron i ddweud wrtho beth roedd Israel a llwyth cyfan Benjamin wedi cytuno arno. 20  Pan ddaeth Abner at Dafydd yn Hebron gydag 20 o ddynion, gwnaeth Dafydd gynnal gwledd iddyn nhw. 21  Yna dywedodd Abner wrth Dafydd: “Gad imi fynd a chasglu holl Israel at ei gilydd ar gyfer fy arglwydd y brenin er mwyn iddyn nhw allu gwneud cyfamod â ti, a byddi di’n dod yn frenin ar Israel, fel roeddet ti eisiau.” Felly anfonodd Dafydd Abner i ffwrdd, ac aeth ar ei ffordd mewn heddwch. 22  Ar hynny, dyma Joab a gweision Dafydd yn dod yn ôl o frwydr gan ddod â llawer iawn o ysbail gyda nhw. Doedd Abner ddim bellach gyda Dafydd yn Hebron oherwydd roedd ef wedi ei anfon i ffwrdd mewn heddwch. 23  Pan gyrhaeddodd Joab a’r fyddin gyfan oedd gydag ef, cafodd wybod: “Daeth Abner fab Ner at y brenin, ond gwnaeth ef ei anfon i ffwrdd, ac aeth ar ei ffordd mewn heddwch.” 24  Felly aeth Joab i mewn at y brenin a dweud: “Beth rwyt ti wedi ei wneud? Daeth Abner atat ti. Pam gwnest ti ei anfon i ffwrdd? Nawr mae ef wedi dianc! 25  Rwyt ti’n adnabod Abner fab Ner! Daeth yma i dy dwyllo di ac i gael gwybod am dy gynlluniau ac am bopeth rwyt ti’n ei wneud.” 26  Felly dyma Joab yn gadael Dafydd ac yn anfon negeswyr ar ôl Abner, a daethon nhw ag ef yn ôl o’r pydew yn Sira; ond doedd Dafydd ddim callach am y peth. 27  Pan ddaeth Abner yn ôl i Hebron, gwnaeth Joab ei gymryd i un ochr y tu mewn i borth y ddinas i siarad ag ef ar ei ben ei hun. Ond dyma’n ei drywanu yn ei fol a bu farw; gwnaeth hynny am fod Abner wedi lladd ei frawd Asahel. 28  Pan glywodd Dafydd am hyn yn hwyrach ymlaen, dywedodd: “Dydw i na fy nheyrnas ddim yn euog o gwbl o flaen Jehofa am ladd Abner fab Ner. 29  Gad i’r bai fod ar Joab a thŷ cyfan ei dad. Gad i dŷ Joab byth fod heb wahanglaf, dyn sy’n dioddef o redlif, dyn sy’n gloff,* rhywun sy’n cael ei ladd â’r cleddyf, neu rywun sydd angen bwyd!” 30  Felly roedd Joab a’i frawd Abisai wedi lladd Abner am ei fod wedi lladd Asahel eu brawd yn y frwydr yn Gibeon. 31  Yna dywedodd Dafydd wrth Joab a’r holl bobl oedd gydag ef: “Rhwygwch eich dillad a gwisgwch sachliain ac wylwch dros Abner.” Roedd y Brenin Dafydd ei hun yn cerdded y tu ôl i’r stretsier angladd.* 32  Dyma nhw’n claddu Abner yn Hebron; ac wylodd y brenin yn uchel wrth feddrod Abner, a dechreuodd y bobl i gyd wylo hefyd. 33  Canodd y brenin yr alarnad hon dros Abner: “Pam gwnaeth Abner farw mewn ffordd mor warthus? 34  Doedd dy ddwylo ddim wedi eu rhwymo,A doedd dy draed ddim mewn cyffion. Gwnest ti farw fel un a gafodd ei ladd gan droseddwyr.” Gyda hynny, wylodd y bobl i gyd drosto unwaith eto. 35  Yn hwyrach ymlaen, daeth y bobl i gyd at Dafydd i geisio ei gysuro â bwyd cyn iddi nosi, ond addawodd Dafydd ar lw: “Gad i Dduw fy nghosbi i’n llym petaswn i’n bwyta bara neu unrhyw beth o gwbl cyn i’r haul fachlud!” 36  Cymerodd y bobl i gyd sylw o hyn ac roedd yn eu plesio. Fel popeth roedd y brenin yn ei wneud, roedd yn plesio pawb. 37  Felly roedd y bobl i gyd ac Israel gyfan yn gwybod ar y diwrnod hwnnw nad y brenin oedd yn gyfrifol am ladd Abner fab Ner. 38  Yna dywedodd y brenin wrth ei weision: “Onid ydych chi’n gwybod bod tywysog a dyn pwysig wedi syrthio yn Israel heddiw? 39  Heddiw rydw i’n wan er fy mod i wedi cael fy eneinio yn frenin ac mae’r dynion hyn, meibion Seruia, yn rhy filain i mi. Gad i Jehofa dalu yn ôl i’r un sy’n gwneud drwg yn ôl ei ddrygioni ei hun.”

Troednodiadau

Neu “yn wraig ordderch,” hynny yw, gwraig eilradd a oedd yn aml yn gaethferch.
Neu “gwraig ordderch,” hynny yw, gwraig eilradd a oedd yn aml yn gaethferch.
Neu “menyw.”
Efallai yn cyfeirio at ddyn cloff a oedd ond yn gallu gwneud gwaith merched.
Neu “i’r elor.”