Ail Samuel 4:1-12

  • Isboseth yn cael ei lofruddio (1-8)

  • Dafydd yn gorchymyn i’r llofruddion gael eu lladd (9-12)

4  Pan glywodd Isboseth, mab Saul, fod Abner wedi marw yn Hebron, collodd ei ddewrder ac roedd yr Israeliaid i gyd wedi dychryn.  Roedd ’na ddau ddyn yn benaethiaid ar y ddau grŵp o filwyr oedd yn perthyn i fab Saul: enw un oedd Baana a’r llall oedd Rechab. Roedden nhw’n feibion i Rimmon o Beeroth o lwyth Benjamin. (Roedd Beeroth yn arfer bod yn rhan o Benjamin hefyd.  Roedd pobl Beeroth wedi rhedeg i ffwrdd i Gittaim, ac maen nhw’n byw yno fel estronwyr hyd heddiw.)  Nawr roedd gan fab Saul, Jonathan, fab a oedd yn gloff. Roedd yn bum mlwydd oed pan ddaeth y newyddion o Jesreel am Saul a Jonathan, a gwnaeth ei nyrs ei godi a ffoi, ond wrth iddi ffoi mewn panig, gwnaeth ef gwympo ac anafu ei draed a chafodd ei wneud yn gloff. Ei enw oedd Meffiboseth.  Aeth Rechab a Baana, meibion Rimmon o Beeroth, i dŷ Isboseth ar ddiwrnod poeth tra oedd yn gorffwys am ganol dydd.  Aethon nhw i mewn i’r tŷ fel petasen nhw’n nôl gwenith, a dyma nhw’n taro Isboseth yn ei fol; yna gwnaeth Rechab a’i frawd Baana ddianc.  Pan oedden nhw wedi mynd i mewn i’r tŷ, roedd ef yn gorwedd ar ei wely yn ei ystafell wely, a gwnaethon nhw ei drywanu a’i ladd ac yna torri ei ben i ffwrdd. Cymeron nhw ei ben a cherdded drwy’r nos ar hyd y ffordd i’r Araba.  A daethon nhw â phen Isboseth at Dafydd yn Hebron a dweud wrth y brenin: “Dyma ben Isboseth fab Saul, dy elyn oedd yn ceisio dy ladd di. Heddiw mae Jehofa wedi dial ar Saul a’i ddisgynyddion ar ran fy arglwydd y brenin.”  Ond atebodd Dafydd Rechab a’i frawd Baana, meibion Rimmon o Beeroth, gan ddweud wrthyn nhw: “Mor sicr â’r ffaith fod Jehofa yn fyw, yr un wnaeth fy achub i o bob helynt, 10  pan ddaeth rhywun ata i a dweud, ‘Mae Saul wedi marw,’ gan feddwl ei fod yn dod â newyddion da; gwnes i afael ynddo a’i ladd yn Siclag. Dyna’r wobr a gafodd y negesydd gen i! 11  Gymaint mwy y dylwn i eich cosbi chi ddynion drwg am ladd dyn cyfiawn yn ei dŷ ei hun, ar ei wely ei hun! Oni ddylwn i eich dal chi yn gyfrifol am ei waed a chael gwared arnoch chi o’r ddaear?” 12  Yna dyma Dafydd yn gorchymyn i’r dynion ifanc eu lladd nhw. Gwnaethon nhw dorri eu dwylo a’u traed i ffwrdd a’u hongian nhw wrth y pwll yn Hebron. Ond cymeron nhw ben Isboseth a’i gladdu ym medd Abner yn Hebron.

Troednodiadau