Ail Samuel 6:1-23
6 Unwaith eto casglodd Dafydd filwyr gorau Israel at ei gilydd, 30,000 o ddynion.
2 Yna aeth Dafydd a’r holl ddynion oedd gydag ef i Baale-jwda i ddod ag Arch y gwir Dduw i fyny o fan ’na. Roedd pobl yn mynd o flaen yr Arch i alw ar enw Jehofa y lluoedd, sy’n eistedd ar ei orsedd uwchben* y cerwbiaid.
3 Ond, rhoddon nhw Arch y gwir Dduw ar wagen newydd i’w chludo o dŷ Abinadab oedd ar y bryn; ac roedd Ussa ac Ahïo, meibion Abinadab, yn arwain y wagen newydd.
4 Felly dyma nhw’n cludo Arch y gwir Dduw o dŷ Abinadab ar y bryn, ac roedd Ahïo yn cerdded o flaen yr Arch.
5 Roedd Dafydd a holl dŷ Israel yn dathlu o flaen Jehofa gyda phob math o offerynnau pren,* telynau, offerynnau llinynnol eraill, tambwrinau, sistrymau, a symbalau.
6 Ond pan ddaethon nhw at lawr dyrnu Nacon, dyma’r wagen bron yn troi drosodd oherwydd y gwartheg. Felly, estynnodd Ussa ei law a gafael yn Arch y gwir Dduw.
7 Gyda hynny, gwylltiodd Jehofa ag Ussa, a dyma’r gwir Dduw yn ei daro i lawr yn y fan a’r lle am ei fod wedi meiddio gwneud y fath beth, a bu farw yno wrth ymyl Arch y gwir Dduw.
8 Ond dyma Dafydd yn digio* oherwydd roedd llid Jehofa wedi ffrwydro yn erbyn Ussa; ac mae’r lle hwnnw wedi cael ei alw’n Peres-ussa* hyd heddiw.
9 Roedd Jehofa wedi codi ofn ar Dafydd y diwrnod hwnnw, a dywedodd Dafydd: “Sut gallai Arch Jehofa ddod ata i?”
10 Doedd Dafydd ddim yn fodlon dod ag Arch Jehofa i le roedd ef yn byw yn Ninas Dafydd. Yn hytrach, gwnaeth Dafydd drefnu iddi gael ei chymryd i dŷ Obed-edom y Gethiad.
11 Arhosodd Arch Jehofa yn nhŷ Obed-edom y Gethiad am dri mis, ac roedd Jehofa yn parhau i fendithio Obed-edom a’i dŷ cyfan.
12 Cafodd y Brenin Dafydd wybod: “Mae Jehofa wedi bendithio tŷ Obed-edom a phopeth sy’n perthyn iddo oherwydd Arch y gwir Dduw.” Felly aeth Dafydd ar ei ffordd yn llawen i ddod ag Arch y gwir Dduw o dŷ Obed-edom i fyny i Ddinas Dafydd.
13 Pan oedd y rhai oedd yn cario Arch Jehofa wedi martsio* chwe cham, gwnaeth ef aberthu tarw ac anifail tew.
14 Roedd Dafydd yn dawnsio â’i holl egni o flaen Jehofa, ac roedd yn gwisgo effod liain.
15 Roedd Dafydd a thŷ Israel i gyd yn dod ag Arch Jehofa i fyny gan weiddi’n llawen a chanu’r corn.
16 Ond pan ddaeth Arch Jehofa i mewn i Ddinas Dafydd, roedd merch Saul, Michal, yn edrych allan drwy’r ffenest, a gwelodd hi’r Brenin Dafydd yn neidio ac yn dawnsio o flaen Jehofa; a dechreuodd hi ei ddirmygu yn ei chalon.
17 Felly daethon nhw ag Arch Jehofa i mewn a’i gosod yn ei lle y tu mewn i’r babell roedd Dafydd wedi ei chodi iddi. Yna dyma Dafydd yn cyflwyno offrymau llosg ac aberthau heddwch o flaen Jehofa.
18 Ar ôl i Dafydd orffen cyflwyno’r offrymau llosg a’r aberthau heddwch, bendithiodd y bobl yn enw Jehofa y lluoedd.
19 Ar ben hynny, dyma ef yn rhoi torth o fara siâp cylch, cacen ddatys, a chacen resins i’r bobl i gyd, i bob dyn a dynes* yn Israel gyfan. Ac yna aeth pawb adref.
20 Pan aeth Dafydd yn ôl i fendithio ei deulu ei hun, daeth merch Saul, Michal, allan i’w gyfarfod. Dywedodd hi: “Mor ogoneddus oedd brenin Israel heddiw, yn dawnsio yn hanner noeth o flaen morynion ei weision, fel rhyw ffŵl!”
21 Gyda hynny dywedodd Dafydd wrth Michal: “Roeddwn i’n dathlu o flaen Jehofa, yr un wnaeth fy newis i yn hytrach na dy dad a’i deulu cyfan, ac a wnaeth fy mhenodi i yn arweinydd dros Israel, pobl Jehofa. Felly fe wna i ddathlu o flaen Jehofa,
22 a bydda i’n gwneud i fi fy hun ymddangos yn llai pwysig byth, ac yn fy ngwneud fy hun yn isel hyd yn oed yn fy ngolwg fy hun. Ond bydd y morynion y gwnest ti sôn amdanyn nhw yn fy ngogoneddu i.”
23 Felly ni chafodd merch Saul, Michal, blant hyd y diwrnod gwnaeth hi farw.
Troednodiadau
^ Neu efallai, “rhwng.”
^ Llyth., “offerynnau pren meryw.”
^ Neu “ypsetio.”
^ Sy’n golygu “Ffrwydrad yn Erbyn Ussa.”
^ Neu “gorymdeithio.”
^ Neu “menyw.”