Ail Samuel 7:1-29

  • Ni fyddai Dafydd yn adeiladu’r deml (1-7)

  • Cyfamod â Dafydd am deyrnas (8-17)

  • Dafydd yn diolch mewn gweddi (18-29)

7  Pan oedd y brenin wedi setlo yn ei dŷ* ei hun ac roedd Jehofa wedi rhoi gorffwys iddo rhag yr holl elynion o’i gwmpas,  dywedodd y brenin wrth Nathan y proffwyd: “Dyma fi yn byw mewn tŷ o goed cedrwydd tra bod Arch y gwir Dduw yn eistedd mewn pabell.”  Atebodd Nathan: “Dos a gwna beth bynnag sydd yn dy galon oherwydd mae Jehofa gyda ti.”  Y noson honno, daeth gair Jehofa at Nathan yn dweud:  “Dos at fy ngwas Dafydd a dweud, ‘Dyma beth mae Jehofa yn ei ddweud: “A ddylet ti adeiladu tŷ i mi?  Oherwydd rydw i heb gael tŷ i fi fy hun ers y diwrnod des i â phobl Israel allan o’r Aifft, ond rydw i wedi bod yn symud o un lle i’r llall mewn pabell a thabernacl.  Yn ystod yr holl amser roeddwn i gyda’r Israeliaid i gyd, a wnes i erioed ddweud gair am hyn wrth unrhyw un o arweinwyr llwythau Israel y gwnes i eu penodi i fugeilio fy mhobl Israel? A wnes i erioed ofyn iddyn nhw, ‘Pam na wnaethoch chi adeiladu tŷ o goed cedrwydd imi?’”’  Nawr dyweda hyn wrth fy ngwas Dafydd, ‘Dyma mae Jehofa y lluoedd yn ei ddweud: “Gwnes i dy gymryd di i ffwrdd o’r tir pori, o ddilyn y praidd, i fod yn arweinydd dros fy mhobl Israel.  Bydda i gyda ti ble bynnag y byddi di’n mynd, a bydda i’n cael gwared ar dy holl elynion o dy flaen di; a bydda i’n gwneud dy enw di yn fawr, fel enwau dynion pwysig y byd. 10  Bydda i’n penodi rhywle i fy mhobl Israel ac yn eu sefydlu nhw yno, a byddan nhw’n byw yno ac ni fydd neb yn tarfu arnyn nhw ddim mwy; a fydd dynion drwg ddim yn eu gormesu nhw eto fel roedden nhw yn y gorffennol, 11  o’r diwrnod gwnes i benodi barnwyr dros fy mhobl Israel. A bydda i’n rhoi gorffwys i ti rhag dy holl elynion. “‘“Hefyd, mae Jehofa wedi dweud wrthot ti y bydd Jehofa yn gwneud tŷ* iti. 12  Pan ddaw dy ddyddiau i ben a phan fyddi di’n gorffwys gyda dy gyndadau, yna bydda i’n codi un o dy deulu* ar dy ôl di, dy fab dy hun, a bydda i’n sefydlu ei deyrnas yn gadarn. 13  Ef ydy’r un fydd yn adeiladu tŷ er mwyn anrhydeddu fy enw i, a bydda i’n sefydlu gorsedd ei deyrnas yn gadarn, a hynny am byth. 14  Bydda i’n dad iddo, a bydd ef yn fab i mi. Pan fydd ef yn gwneud drwg, bydda i’n ei geryddu,* bydda i’n ei daro ac yn ei gosbi fel mae dynion yn gwneud. 15  Fydda i ddim yn cymryd fy nghariad ffyddlon i ffwrdd oddi wrtho fel gwnes i ei gymryd i ffwrdd oddi wrth Saul, yr un gwnes i gael gwared arno fel nad oeddet ti’n gallu ei weld. 16  Bydd dy dŷ a dy deyrnas yn parhau o dy flaen di am byth; bydd dy orsedd yn cael ei sefydlu’n gadarn am byth.”’” 17  Gwnaeth Nathan adrodd y geiriau hyn i gyd wrth Dafydd yn ogystal â’r weledigaeth gyfan. 18  A gyda hynny daeth y Brenin Dafydd i mewn ac eistedd o flaen Jehofa a dweud: “Pwy ydw i, O Sofran Arglwydd Jehofa? A beth yw fy nhŷ iti ddod â fi mor bell â hyn? 19  Fel petai hyn ddim yn ddigon, O Sofran Arglwydd Jehofa, rwyt ti hefyd yn siarad am dŷ dy was hyd at y dyfodol pell; ac mae’r cyfarwyddyd hwn* ar gyfer yr holl ddynoliaeth, O Sofran Arglwydd Jehofa. 20  Beth arall galla i, dy was Dafydd, ei ddweud wrthot ti pan wyt ti’n fy adnabod i mor dda, O Sofran Arglwydd Jehofa? 21  Er mwyn dy air ac yn ôl ewyllys dy galon rwyt ti wedi gwneud yr holl bethau gwych hyn ac wedi eu datgelu nhw i dy was. 22  Dyna pam rwyt ti mor rhyfeddol, O Sofran Arglwydd Jehofa. Does ’na neb fel ti, a does ’na ddim Duw ar wahân i ti; mae popeth rydyn ni wedi ei glywed â’n clustiau yn cadarnhau hyn. 23  A pha genedl arall ar y ddaear sydd fel dy bobl Israel? Aeth Duw a’u rhyddhau nhw i fod yn bobl iddo, gan wneud enw iddo’i hun drwy wneud pethau gwych a rhyfeddol drostyn nhw. Gwnest ti yrru cenhedloedd a’u duwiau allan ar ran dy bobl, y rhai gwnest ti eu hachub i ti dy hun o’r Aifft. 24  Gwnest ti sefydlu dy bobl Israel i fod yn bobl i ti hyd byth; ac rwyt ti, O Jehofa, wedi dod yn Dduw iddyn nhw. 25  “Nawr, O Jehofa Dduw, gwna fel rwyt ti wedi addo ynglŷn â dy was a’i dŷ hyd byth, a gad i dy addewid ddod yn wir. 26  Gad i dy enw gael ei ddyrchafu am byth, fel y bydd pobl yn dweud, ‘Jehofa y lluoedd sy’n Dduw dros Israel,’ a gad i dŷ dy was Dafydd gael ei sefydlu’n gadarn o dy flaen di. 27  Oherwydd rwyt ti, Jehofa y lluoedd, Duw Israel, wedi datgelu hyn i dy was drwy ddweud, ‘Gwna i adeiladu tŷ* iti.’ Dyna pam mae gan dy was y dewrder i weddïo arnat ti fel hyn. 28  Ac nawr, O Sofran Arglwydd Jehofa, ti yw’r gwir Dduw, ac mae dy eiriau di yn wir, ac rwyt ti wedi addo’r pethau da hyn i dy was. 29  Felly plîs, os yw’n dda yn dy lygaid di, bendithia dŷ dy was, a gad iddo barhau o dy flaen di am byth; oherwydd dyna rwyt ti, O Sofran Arglwydd Jehofa, wedi ei addo, a gad i dy fendith di fod ar dŷ dy was am byth.”

Troednodiadau

Neu “ei balas.”
Neu “llinach frenhinol.”
Llyth., “had.”
Llyth., “bydda i’n ei geryddu gyda gwialen dynion.”
Neu “mae’r gyfraith hon.”
Neu “llinach frenhinol.”