Ail Samuel 8:1-18

  • Buddugoliaethau Dafydd (1-14)

  • Y penaethiaid o dan Dafydd (15-18)

8  Beth amser wedyn, trechodd Dafydd y Philistiaid yn llwyr, a chymerodd Dafydd Metheg-amma o ddwylo’r Philistiaid.  Trechodd y Moabiaid a gwneud iddyn nhw orwedd ar y llawr a’u mesur nhw â llinyn. Gwnaeth ef eu rhannu nhw’n dri grŵp. Roedd dau grŵp i gael eu lladd, ac un grŵp i aros yn fyw. A daeth y Moabiaid yn weision i Dafydd, a rhoddon nhw drethi* iddo.  Tra oedd Hadadeser fab Rehob, brenin Soba, ar ei ffordd i ailsefydlu ei awdurdod yn nhiriogaeth Afon Ewffrates, gwnaeth Dafydd ei drechu.  Cipiodd Dafydd 1,700 o farchogion ac 20,000 o filwyr oddi wrtho. Yna, dyma Dafydd yn gwneud y ceffylau cerbyd yn gloff,* oni bai am 100 ohonyn nhw.  Pan ddaeth Syriaid Damascus i helpu Hadadeser brenin Soba, dyma Dafydd yn taro i lawr 22,000 o’r Syriaid.  Yna sefydlodd Dafydd garsiynau ymhlith y Syriaid yn Namascus, a daeth y Syriaid yn weision i Dafydd, a rhoddon nhw drethi* iddo. Rhoddodd Jehofa fuddugoliaeth* i Dafydd ble bynnag roedd ef yn mynd.  Hefyd, cymerodd Dafydd y tarianau aur crwn oddi ar weision Hadadeser a daeth â nhw i Jerwsalem.  Cymerodd y Brenin Dafydd lawer iawn o gopr o Beta a Berothai, dinasoedd Hadadeser.  Nawr clywodd Toi, brenin Hamath, fod Dafydd wedi trechu byddin gyfan Hadadeser. 10  Felly anfonodd Toi ei fab Joram at y Brenin Dafydd i ddymuno’n dda iddo, ac i’w longyfarch am ei fod wedi ymladd yn erbyn Hadadeser a’i drechu (oherwydd roedd Hadadeser wedi ymladd yn erbyn Toi yn aml), a daeth ef â phethau wedi eu gwneud allan o arian, aur, a chopr. 11  Gwnaeth y Brenin Dafydd gysegru’r* rhain i Jehofa, fel roedd ef wedi cysegru’r* arian a’r aur a gymerodd oddi ar yr holl genhedloedd roedd ef wedi eu trechu— 12  Syria a Moab, yr Ammoniaid, y Philistiaid, yr Amaleciaid—yn ogystal â’r hyn a gymerodd oddi ar Hadadeser fab Rehob, brenin Soba. 13  Hefyd gwnaeth Dafydd enw iddo’i hun pan ddaeth yn ôl o daro i lawr 18,000 o Edomiaid yn Nyffryn yr Halen. 14  Gosododd garsiynau drwy Edom i gyd, a daeth yr holl Edomiaid yn weision i Dafydd. Rhoddodd Jehofa fuddugoliaeth* i Dafydd ble bynnag roedd yn mynd. 15  Parhaodd Dafydd i reoli dros Israel gyfan, a gwnaeth Dafydd beth oedd yn iawn ac yn deg ar gyfer ei holl bobl. 16  Roedd Joab fab Seruia dros y fyddin, a Jehosaffat fab Ahilud oedd cofnodwr y brenin. 17  Roedd Sadoc fab Ahitub ac Ahimelech fab Abiathar yn offeiriaid, ac roedd Seraia yn ysgrifennydd. 18  Roedd Benaia fab Jehoiada dros y Cerethiaid a’r Pelethiaid. A daeth meibion Dafydd yn uwch-swyddogion.*

Troednodiadau

Neu “anrhegion.”
Hynny yw, torri llinynnau garrau y ceffylau.
Neu “anrhegion.”
Neu “achubiaeth.”
Llyth., “sancteiddio.”
Llyth., “sancteiddio.”
Neu “achubiaeth.”
Llyth., “offeiriaid.”