Ail Samuel 9:1-13
-
Cariad ffyddlon Dafydd tuag at Meffiboseth (1-13)
9 Yna dywedodd Dafydd: “Oes ’na unrhyw un ar ôl o dŷ Saul y galla i ddangos cariad ffyddlon tuag ato er mwyn Jonathan?”
2 Nawr roedd ’na was yn nhŷ Saul o’r enw Siba. Felly dyma nhw’n ei alw at Dafydd, a gofynnodd y brenin iddo: “Ai Siba wyt ti?” Ac atebodd: “Ie fy arglwydd, dyma fi.”
3 Aeth y brenin ymlaen i ddweud: “Oes ’na unrhyw un ar ôl yn nhŷ Saul y galla i ddangos cariad ffyddlon Duw tuag ato?” Atebodd Siba: “Mae un o feibion Jonathan yn dal yn fyw; mae’n gloff yn ei draed.”
4 Gofynnodd y brenin iddo: “Lle mae ef?” Atebodd Siba: “Yn nhŷ Machir fab Ammiel yn Lo-debar.”
5 Ar unwaith dyma’r Brenin Dafydd yn anfon rhywun i’w nôl o dŷ Machir fab Ammiel yn Lo-debar.
6 Pan ddaeth Meffiboseth, mab Jonathan, mab Saul i mewn at Dafydd, ymgrymodd ar unwaith â’i wyneb i’r llawr. Yna dywedodd Dafydd: “Meffiboseth!” ac atebodd: “Dyma fi, dy was.”
7 Dywedodd Dafydd wrtho: “Paid ag ofni, oherwydd bydda i’n sicr yn dangos cariad ffyddlon tuag atat ti er mwyn dy dad Jonathan, a bydda i’n rhoi holl dir dy daid* Saul yn ôl iti, a byddi di’n wastad yn bwyta wrth fy mwrdd.”
8 Gyda hynny ymgrymodd Meffiboseth a dweud: “Pwy ydw i, dy was, iti roi sylw i gi marw fel fi?”
9 Wedyn anfonodd y brenin am Siba, gwas Saul, a dywedodd wrtho: “Rydw i’n rhoi popeth oedd yn perthyn i Saul a’i deulu i ŵyr dy feistr.
10 Byddi di’n trin y tir drosto—ti a dy feibion a dy weision—a byddi di’n casglu ei gynnyrch i roi bwyd i bawb sy’n perthyn i ŵyr dy feistr. Ond bydd Meffiboseth, ŵyr dy feistr, yn wastad yn bwyta wrth fy mwrdd i.”
Nawr roedd gan Siba 15 o feibion ac 20 o weision.
11 Yna dywedodd Siba wrth y brenin: “Bydda i, dy was, yn gwneud popeth mae fy arglwydd y brenin yn gorchymyn imi ei wneud.” Felly roedd Meffiboseth yn bwyta wrth fwrdd Dafydd* fel un o feibion y brenin.
12 Nawr roedd gan Meffiboseth fab ifanc o’r enw Mica; a daeth pawb oedd yn byw yn nhŷ Siba yn weision i Meffiboseth.
13 Ac roedd Meffiboseth yn byw yn Jerwsalem, oherwydd roedd ef yn wastad yn bwyta wrth fwrdd y brenin; ac roedd yn gloff yn ei draed.