Yr Ail at Timotheus 1:1-18

  • Cyfarchion (1, 2)

  • Paul yn diolch i Dduw am ffydd Timotheus (3-5)

  • Cynnau rhodd Duw fel tân (6-11)

  • Parhau i lynu wrth eiriau buddiol (12-14)

  • Gelynion a ffrindiau Paul (15-18)

1  Paul, apostol i Grist Iesu trwy ewyllys Duw, yn unol â’r addewid o’r bywyd sy’n dod trwy Grist Iesu,  at Timotheus, fy mhlentyn annwyl: Rydw i’n dymuno iti gael caredigrwydd rhyfeddol, trugaredd, a heddwch oddi wrth Dduw y Tad a Christ Iesu ein Harglwydd.  Rydw i’n ddiolchgar i Dduw, yr un rydw i’n ei wasanaethu fel y gwnaeth fy nghyndadau, a hynny â chydwybod lân, a dydw i byth yn anghofio sôn amdanat ti yn fy erfyniadau nos a dydd.  Wrth imi gofio dy ddagrau, rydw i’n dyheu am gael dy weld di, er mwyn imi gael fy llenwi â llawenydd.  Oherwydd rydw i’n cofio dy ffydd ddi-ragrith, a oedd yn bodoli yn gyntaf yn dy nain* Lois ac yn dy fam Eunice, ond rydw i’n hyderus fod yr un ffydd ynot tithau hefyd.  Am y rheswm hwn rydw i’n dy atgoffa i gynnau fel tân y rhodd sydd ynot ti oddi wrth Dduw, y rhodd gwnest ti ei derbyn ar ôl imi osod fy nwylo arnat ti.  Oherwydd dydy’r ysbryd mae Duw wedi ei roi inni ddim yn ein gwneud ni’n wangalon, ond mae’n rhoi nerth a chariad inni ac mae’n ein gwneud ni’n synhwyrol.  Felly paid â theimlo cywilydd naill ai o’r dystiolaeth am ein Harglwydd neu ohono i, sy’n garcharor er ei fwyn ef, ond bydda’n barod i ddioddef dros y newyddion da drwy ddibynnu ar nerth Duw.  Fe wnaeth ef ein hachub ni a’n galw ni i fod yn rhai sanctaidd, nid oherwydd ein gweithredoedd, ond oherwydd ei bwrpas a’i garedigrwydd rhyfeddol ei hun. Cafodd hyn ei roi inni drwy Grist Iesu amser maith yn ôl, 10  ond nawr mae’r caredigrwydd hwnnw wedi cael ei wneud yn gwbl amlwg inni drwy ymddangosiad ein Hachubwr, Crist Iesu, sydd wedi cael gwared ar farwolaeth ac wedi taflu goleuni ar fywyd ac ar anllygredigaeth drwy’r newyddion da, 11  ac fe ges i fy mhenodi’n bregethwr ac yn apostol ac yn athro er mwyn lledaenu’r newyddion da. 12  Dyna pam rydw innau hefyd yn dioddef y pethau hyn, ond dydw i ddim yn teimlo cywilydd. Oherwydd rydw i’n adnabod yr Un rydw i wedi credu ynddo, ac rydw i’n hyderus ei fod yn gallu gwarchod yr hyn rydw i wedi ei roi yn ei ddwylo hyd y diwrnod sydd wedi cael ei benodi. 13  Parha i lynu wrth y safon* o eiriau buddiol gwnest ti eu clywed gen i gyda’r ffydd a’r cariad sy’n dod o fod mewn undod â Christ Iesu. 14  Gyda help yr ysbryd glân sydd ynon ni, gwarchoda’r pethau gwerthfawr sydd wedi cael eu rhoi iti. 15  Rwyt ti’n gwybod hyn, bod yr holl ddynion yn nhalaith Asia wedi troi eu cefnau arna i, gan gynnwys Phygelus a Hermogenes. 16  Rydw i’n gweddïo y bydd yr Arglwydd yn dangos trugaredd tuag at bawb yn nhŷ Onesifforus, oherwydd fe wnaeth fy adfywio yn aml, ac nid oedd yn teimlo cywilydd er fy mod i mewn cadwyni yn y carchar. 17  I’r gwrthwyneb, pan oedd ef yn Rhufain, fe wnaeth chwilio’n daer amdana i a dod o hyd imi. 18  Rydw i’n gweddïo y bydd yr Arglwydd yn dangos trugaredd tuag ato oddi wrth Jehofa* yn y diwrnod hwnnw. Ac rwyt ti’n gwybod yn iawn am yr holl bethau a wnaeth ef ar fy nghyfer i yn Effesus.

Troednodiadau

Neu “dy fam-gu.”
Neu “patrwm.”
Gweler Geirfa, “Jehofa.”