Actau’r Apostolion 11:1-30
11 Nawr dyma’r apostolion a’r brodyr a oedd yn Jwdea yn clywed bod pobl y cenhedloedd hefyd wedi derbyn gair Duw.
2 Felly pan ddaeth Pedr i fyny i Jerwsalem, dechreuodd y rhai oedd o blaid enwaedu ei feirniadu,
3 gan ddweud: “Fe est ti i mewn i dŷ dynion oedd heb eu henwaedu a bwyta gyda nhw.”
4 Dyma Pedr yn mynd ymlaen i esbonio’r mater yn fanwl iddyn nhw, gan ddweud:
5 “Roeddwn i yn ninas Jopa yn gweddïo, a ches i weledigaeth o rywbeth* yn dod i lawr fel lliain mawr yn cael ei ostwng o’r nef wrth ei bedair cornel, ac fe ddaeth yr holl ffordd i lawr ata i.
6 Wrth edrych yn fanwl i mewn iddo, gwelais anifeiliaid y ddaear, rhai â phedair troed, bwystfilod gwyllt, ymlusgiaid, ac adar y nef.
7 Hefyd clywais lais yn dweud wrtho i: ‘Cod, Pedr, lladd a bwyta!’
8 Ond dywedais innau: ‘Ddim o gwbl, Arglwydd, oherwydd dydy rhywbeth sydd wedi ei lygru neu sy’n aflan erioed wedi mynd i mewn i fy ngheg i.’
9 Yr eildro, atebodd y llais o’r nef: ‘Stopia di alw’n llwgr y pethau mae Duw wedi eu glanhau.’
10 Digwyddodd hyn dair gwaith, a chafodd popeth ei godi yn ôl i’r nef.
11 Hefyd, ar y foment honno, roedd tri dyn yn sefyll wrth y tŷ lle roedden ni’n aros, a oedd wedi cael eu hanfon ata i o Cesarea.
12 Yna dywedodd yr ysbryd wrtho i am fynd gyda nhw, heb amau o gwbl. Ond aeth y chwe brawd hyn gyda mi hefyd, ac aethon ni i mewn i dŷ’r dyn.
13 “Dywedodd wrthon ni am sut roedd ef wedi gweld yr angel yn sefyll yn ei dŷ yn dweud: ‘Anfona ddynion i Jopa i nôl Simon sy’n cael ei alw’n Pedr,
14 ac fe fydd ef yn dweud wrthot ti sut gelli di a phawb yn dy dŷ gael eich achub.’
15 Ond pan wnes i ddechrau siarad, daeth yr ysbryd glân i lawr arnyn nhw yn union fel y daeth arnon ninnau yn y dechrau.
16 Ar hynny dyma fi’n cofio rhywbeth roedd yr Arglwydd yn ei ddweud: ‘Roedd Ioan yn bedyddio â dŵr, ond byddwch chithau’n cael eich bedyddio â’r ysbryd glân.’
17 Felly, os rhoddodd Duw yr un rhodd am ddim iddyn nhw ag i ninnau sydd wedi credu yn yr Arglwydd Iesu Grist, pwy oeddwn i i allu rhwystro Duw?”*
18 Pan glywson nhw’r pethau hyn, dyma nhw’n stopio gwrthwynebu,* a dechreuon nhw ogoneddu Duw, gan ddweud: “Felly, mae Duw wedi caniatáu maddeuant sy’n arwain i fywyd ar gyfer pobl y cenhedloedd hefyd.”
19 Nawr roedd y rhai a gafodd eu gwasgaru oherwydd yr erledigaeth a gododd ar ôl marwolaeth Steffan wedi mynd mor bell â Phoenicia, Cyprus, ac Antiochia, ond roedden nhw’n rhannu’r neges â’r Iddewon yn unig.
20 Ond, roedd rhai o’r dynion hynny yn dod o Gyprus a Cyrene, a phan ddaethon nhw i Antiochia, dechreuon nhw sgwrsio â’r bobl oedd yn siarad Groeg, yn cyhoeddi’r newyddion da am yr Arglwydd Iesu.
21 Ar ben hynny, roedd llaw Jehofa gyda nhw, a daeth nifer mawr yn gredinwyr a throi at yr Arglwydd.
22 Gwnaeth yr adroddiad amdanyn nhw gyrraedd clustiau’r gynulleidfa yn Jerwsalem, a dyma nhw’n anfon Barnabas mor bell ag Antiochia.
23 Pan gyrhaeddodd a gweld caredigrwydd rhyfeddol Duw, dechreuodd lawenhau a’u hannog nhw i gyd i ddal ati i ufuddhau i’r Arglwydd â’u holl galonnau;
24 oherwydd roedd ef yn ddyn da ac yn llawn yr ysbryd glân a ffydd. A chafodd tyrfa sylweddol ei hychwanegu at yr Arglwydd.
25 Felly aeth i Tarsus i chwilio’n drylwyr am Saul.
26 Ar ôl dod o hyd iddo, aeth ag ef i Antiochia. Felly am flwyddyn gyfan roedden nhw’n cyfarfod gyda nhw yn y gynulleidfa ac yn dysgu tyrfa fawr, ac yn Antiochia cafodd y disgyblion eu galw’n Gristnogion am y tro cyntaf, drwy arweiniad dwyfol.
27 Yn y dyddiau hynny daeth proffwydi i lawr o Jerwsalem i Antiochia.
28 Dyma un ohonyn nhw, o’r enw Agabus, yn sefyll i fyny ac yn rhagddweud bod newyn mawr ar fin dod ar yr holl fyd, ac yn wir, fe ddigwyddodd hynny yn adeg Clawdius.
29 Felly penderfynodd y disgyblion, bob un yn ôl faint roedd yn gallu ei fforddio, anfon cymorth at y brodyr oedd yn byw yn Jwdea;
30 a dyna wnaethon nhw, a’i anfon at yr henuriaid drwy law Barnabas a Saul.
Troednodiadau
^ Llyth., “o ryw fath o lestr.”
^ Neu “i allu sefyll yn ffordd Duw?”
^ Llyth., “dyma nhw’n distewi.”